Dysgeidiaethau’r Beibl—Doethineb i Bob Oes
DYCHMYGA HYN: Rydych chi’n ymweld ag amgueddfa sy’n llawn arteffactau hynafol. Mae’r rhan fwyaf yn dyllau i gyd, neu wedi’u herydu gan y tywydd dros y blynyddoedd. Mae gan rai eraill ddarnau mawr ar goll. Ond, mae un mewn cyflwr hynod o dda; mae pob manylyn i’w weld yn gwbl glir. Rydych chi’n gofyn i’r un sy’n eich tywys, “Ydy hwn yn fwy newydd na’r lleill?” “Nac ydy,” meddai, “mae’n hŷn na’r rhan fwyaf, a dydy o erioed wedi cael ei atgyweirio.” Yna, rydych chi’n gofyn, “Ydy o wedi cael ei gysgodi rhag yr elfennau?” “Nac ydy,” meddai’r tywysydd, “hwn sydd wedi cael ei daro gan y gwynt a’r glaw mwyaf. Ac mae llawer o fandaliaid wedi trio ei ddifetha.” Yn eich syndod, efallai byddwch chi’n meddwl, ‘O beth mae hwn wedi’i wneud?’
Mewn ffordd, mae’r Beibl yn debyg i’r arteffact rhyfeddol hwnnw. Mae’n llyfr hen iawn—yn hŷn na’r rhan fwyaf. Wrth gwrs, mae ’na lyfrau hynafol eraill. Ond fel hen arteffactau sydd wedi gweld dyddiau gwell, mae’r rhan fwyaf o hen ysgrifau wedi eu difrodi dros amser. Mae’r hyn y maen nhw’n ei ddweud am wyddoniaeth er enghraifft, wedi cael ei wrthbrofi gan ffeithiau newydd. Yn aml mae eu cyngor meddygol yn achosi fwy o niwed na lles. A darnau yn unig sydd ar ôl o lawer o ysgrifau hynafol; mae rhannau wedi mynd ar goll neu wedi’u difetha.
Ond, mae’r Beibl yn sefyll allan yn wahanol. Dechreuodd y gwaith o’i ysgrifennu dros 35 ganrif yn ôl, ond eto mae’r Beibl yn gyfan. Ac er iddo gael ei ymosod arno droeon dros y canrifoedd—wedi ei losgi, ei wahardd, a’i fychanu—mae’r hyn sydd ynddo wedi goroesi bob storm. Yn bell o gael ei ddisodli gan wybodaeth newydd, mae’r Beibl ymhell o flaen ei amser.
EGWYDDORION SYDD EU HANGEN ARNON NI HEDDIW
Ond efallai eich bod chi’n meddwl, ‘Ydy dysgeidiaethau’r Beibl wir yn ymarferol yn yr oes fodern?’ I ateb, gofynnwch i chi’ch hun: ‘Beth yw’r problemau gwaethaf sy’n wynebu dynolryw heddiw? Pa rai sy’n fwyaf dychrynllyd?’ Hwyrach eich bod chi’n meddwl am ryfel, llygredd, trosedd, neu bobl lwgr. Gadewch inni ystyried rhai o egwyddorion sylfaenol y Beibl. Wrth wneud hynny, gofynnwch i chi’ch hun, ‘Petai pobl yn byw yn ôl yr egwyddorion hyn, a fyddai’r byd yn lle gwell?’
CARU HEDDWCH
“Mae’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch wedi eu bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu galw’n blant Duw.” (Mathew 5:9) “Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb.”—Rhufeiniaid 12:18.
TRUGAREDD, MADDEUANT
“Mae’r rhai sy’n dangos trugaredd wedi eu bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael profi trugaredd eu hunain.” (Mathew 5:7) “Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi.”—Colosiaid 3:13.
CYTGORD HILIOL
“Duw wnaeth greu y dyn cyntaf, a gwneud ohono yr holl genhedloedd gwahanol sy’n byw drwy’r byd i gyd.” (Actau 17:26) Dydy “Duw ddim yn dangos ffafriaeth! Mae’n derbyn pobl o bob gwlad sy’n ei addoli ac yn gwneud beth sy’n iawn.”—Actau 10:34, 35.
PARCHU’R DDAEAR
“Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a’i osod yn yr ardd yn Eden, i’w thrin hi a gofalu amdani.” (Genesis 2:15) Mae Duw am “ddinistrio’n llwyr y rhai hynny sy’n dinistrio’r ddaear.”—Datguddiad 11:18.
CASÁU TRACHWANT AC ANFOESOLDEB
“Gwyliwch eich hunain! Mae’r awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus. Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy’n rhoi bywyd go iawn i chi.” (Luc 12:15) “Ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith! Dydy pethau felly ddim yn iawn i bobl sydd wedi cysegru eu bywydau i Dduw.”—Effesiaid 5:3.
GONESTRWYDD, GWAITH CALED
“Dŷn ni’n ceisio gwneud beth sy’n iawn bob amser.” (Hebreaid 13:18) “Rhaid i’r person oedd yn arfer bod yn lleidr stopio dwyn. Dylai weithio, ac ennill bywoliaeth.”—Effesiaid 4:28.
PWYSIGRWYDD HELPU’R RHAI MEWN ANGEN
“Annog y rhai sy’n ddihyder, helpu’r rhai gwan, a bod yn amyneddgar gyda phawb.” (1 Thesaloniaid 5:14) “Gofalu am blant amddifad a gwragedd gweddwon sy’n dioddef.”—Iago 1:27.
Mae’r Beibl yn gwneud mwy na rhestru’r egwyddorion hynny’n unig. Mewn ffyrdd ymarferol, mae’n ein dysgu ni i werthfawrogi egwyddorion o’r fath a’u rhoi nhw ar waith yn ein bywyd bob dydd. Petai mwy o bobl yn rhoi’r egwyddorion uchod ar waith, oni fyddai hynny’n cael effaith enfawr ar broblemau mwyaf dynolryw? Felly, mewn gwirionedd, mae egwyddorion y Beibl yn fwy perthnasol ac amserol nac erioed! Ond sut gall dysgeidiaethau’r Beibl eich helpu chi nawr?
SUT GALLWCH CHI ELWA AR DDYSGEIDIAETHAU’R BEIBL NAWR
Dywedodd y dyn doethaf a fuodd erioed: “Profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn.” (Mathew 11:19, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Oni fyddech chi’n cytuno? Prawf gorau doethineb yw sut mae’n gweithio pan fyddwch yn ei roi ar waith. Felly gallwch resymu: ‘Os yw’r Beibl wir yn ymarferol, oni fyddwn i’n gweld ei effaith ar fy mywyd? Sut mae’n fy helpu i wynebu’r problemau sydd gen i nawr?’ Ystyriwch esiampl.
Roedd bywyd Delyth * yn brysur, yn llawn, ac yn hapus. Ond yn fwyaf sydyn, profodd hi gyfres o ddigwyddiadau trychinebus. Bu farw ei merch yn ei harddegau. Chwalodd ei phriodas. A chafodd ei hun mewn sefyllfa ariannol wael. Dywedodd: “Doedd gen i ddim syniad pwy o’n i bellach—dim merch, dim gŵr, dim cartref. O’n i’n teimlo’n dda i ddim—dim hunaniaeth, dim nerth, dim pwrpas mewn bywyd.”
Doedd Delyth erioed wedi gweld gwirionedd y geiriau hyn mor eglur o’r blaen: “Dŷn ni’n byw am saith deg o flynyddoedd, wyth deg os cawn ni iechyd; ond mae’r gorau ohonyn nhw’n llawn trafferthion! Maen nhw’n mynd heibio mor sydyn! A dyna ni wedi mynd!”—Salm 90:10.
Trodd Delyth at y Beibl yn ystod y cyfnod anodd hwn. Cafodd effaith ryfeddol arni. Ac mae’r Beibl wedi gwneud gwyrthiau ym mywydau llawer o bobl eraill wrth iddyn nhw roi ei gyngor ar waith er mwyn delio â’u problemau. Maen nhw wedi dechrau gweld bod y Beibl yn debyg i’r arteffact a gafodd ei ddisgrifio ar y cychwyn. Mae’n dra gwahanol i’r llyfrau di-rif sy’n mynd yn hen ac allan o ddyddiad. Ydy hynny oherwydd bod y Beibl wedi cael ei wneud o rywbeth gwahanol fel petai? Oes bosib ei fod yn cynnwys meddyliau Duw—yn hytrach na syniadau dynol?—1 Thesaloniaid 2:13.
Efallai eich bod chithau wedi dod i’r casgliad fod bywyd yn fyr ac yn llawn problemau. Pan fydd problemau yn bygwth eich llethu, i le byddwch chi’n arfer troi am gysur, cefnogaeth, a chyngor dibynadwy?
^ Par. 24 Newidiwyd yr enw.