Beth Yw’r Ysbryd Glân?
Ateb y Beibl
Yr ysbryd glân yw nerth Duw ar waith, ei rym gweithredol. (Micha 3:8; Luc 1:35) Mae Duw yn anfon yr ysbryd neu’r egni hwn i le bynnag y dymuna er mwyn cyflawni ei ewyllys.—Salm 104:30, Beibl Cysegr-lân; 139:7.
Yn y Beibl, mae’r gair “ysbryd” yn cyfieithu’r gair Hebraeg rwʹach a’r gair Groeg pnewʹma. Gan amlaf, mae’r geiriau hynny’n cyfeirio at yr ysbryd glân, sef grym gweithredol Duw. (Genesis 1:2) Ond mae’r Beibl hefyd yn eu defnyddio i olygu pethau eraill:
Anadl.—Habacuc 2:19, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig; Datguddiad 13:15.
Gwynt.—Genesis 8:1; Ioan 3:8.
Grym y bywyd sydd ym mhob cell.—Job 34:14, 15.
Natur neu agwedd rhywun.—Numeri 14:24, BCND.
Bodau ysbrydol, gan gynnwys Duw a’r angylion.—1 Brenhinoedd 22:21; Ioan 4:24, BCND.
Mae pob un o’r ystyron hyn yn cyfleu’r syniad o rywbeth anweladwy sydd yn cael effaith weladwy. Yn yr un modd, mae ysbryd Duw “yn debyg i’r gwynt, yn anweladwy, yn anfaterol, ac yn nerthol.”—An Expository Dictionary of New Testament Words, gan W. E. Vine.
Mae’r Beibl hefyd yn cyfeirio at yr ysbryd glân fel “dwylo” neu “bysedd” Duw. (Salm 8:3; 19:1; Luc 11:20, BCND; Mathew 12:28, BCND) Fel y mae crefftwr yn defnyddio ei ddwylo a’i fysedd i wneud ei waith, felly y mae Duw wedi defnyddio ei ysbryd i wneud y pethau canlynol:
Y bydysawd.—Salm 33:6, BC; Eseia 66:1, 2, BCND.
Y Beibl.—2 Pedr 1:20, 21.
Y gwyrthiau a wnaeth ei weision gynt, ynghyd â’u gwaith selog i gyhoeddi’r newyddion da.—Luc 4:18; Actau 1:8; 1 Corinthiaid 12:4-11.
Rhinweddau’r bobl sy’n ufudd iddo.—Galatiaid 5:22, 23.
Nid person yw’r ysbryd glân
Trwy gyfeirio at yr ysbryd fel “dwylo,” “bysedd,” neu “anadl” Duw, mae’r Beibl yn dangos nad person yw’r ysbryd glân. (Exodus 15:8, 10, BCND) Ni all dwylo crefftwr weithio’n annibynnol ar ei feddwl a’i gorff; yn yr un modd, ni all yr ysbryd glân weithredu’n annibynnol ar Dduw. (Luc 11:13) Mae’r Beibl hefyd yn cymharu ysbryd Duw â dŵr, ac yn ei gysylltu â phethau fel ffydd a gwybodaeth. Mae’r cymariaethau hyn i gyd yn amlygu natur amhersonol yr ysbryd glân.—Eseia 44:3; Actau 6:5; 2 Corinthiaid 6:6.
Mae’r Beibl yn enwi Jehofa Dduw a’i Fab, Iesu Grist, ond nid yw’n enwi’r ysbryd glân yn unman. (Salm 83:18, BC; Luc 1:31) Pan gafodd y merthyr Cristnogol Steffan weledigaeth o’r nefoedd, dau berson a welodd, nid tri. Mae’r Beibl yn dweud: “Roedd Steffan yn llawn o’r Ysbryd Glân, ac wrth edrych i fyny gwelodd ogoniant Duw, a Iesu yn sefyll ar ei ochr dde.” (Actau 7:55) Yr ysbryd glân oedd nerth Duw ar waith, y grym a oedd yn galluogi Steffan i weld yr hyn a welodd.
Camsyniadau am yr ysbryd glân
Camsyniad: Mae’r Beibl yn dweud yn 1 Ioan 5:7, 8 yn y Beibl Cysegr-lân fod yr “Ysbryd Glân” yn berson ac yn rhan o’r Drindod.
Ffaith: Yn 1 Ioan 5:7, 8, mae’r Beibl Cysegr-lân yn cynnwys y geiriau “yn y nef; y Tad, y Gair, a’r Ysbryd Glân: a’r tri hyn un ydynt. Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear.” Ond, mae ymchwilwyr yn gwybod bellach nad yr apostol Ioan a ysgrifennodd y geiriau hynny, ac felly ni ddylen nhw fod yn y Beibl. Ysgrifennodd yr Athro Bruce M. Metzger: “Heb os, ychwanegiad annilys nad oes lle iddo yn y Testament Newydd yw’r geiriau hyn.”—A Textual Commentary on the Greek New Testament.
Camsyniad: Mae’r Beibl yn personoli’r ysbryd glân ac mae hynny’n profi ei fod yn berson.
Ffaith: Mae’r Ysgrythurau yn personoli’r ysbryd glân ar adegau, ond nid yw hyn yn profi bod yr ysbryd glân yn berson. Mae’r Beibl hefyd yn personoli doethineb, marwolaeth, a phechod. (Diarhebion 1:20; Rhufeiniaid 5:17, 21, BCND) Er enghraifft, dywedir bod gan ddoethineb “weithredoedd” a “phlant,” a bod pechod yn gallu twyllo, lladd, a chyffroi chwantau drwg.—Mathew 11:19; Luc 7:35; Rhufeiniaid 7:8, 11, BCND.
Yn yr un modd, wrth ddyfynnu geiriau Iesu, fe wnaeth Ioan bersonoli’r ysbryd glân fel “eiriolwr,” a fyddai’n argyhoeddi, arwain, llefaru, clywed, mynegi, gogoneddu, a chymryd. Wrth gyfeirio at yr “eiriolwr” hwnnw, defnyddiodd Ioan y rhagenw personol “ef.” (Ioan 16:7-15, BCND) Ond y rheswm iddo wneud hynny oedd mai enw gwrywaidd yw’r gair Groeg am “eiriolwr” (pa·raʹcle·tos), ac mae rheolau gramadegol yr iaith yn gofyn am ragenw gwrywaidd. Pan ddefnyddiodd Ioan yr enw diryw pnewʹma i gyfeirio at yr ysbryd glân, fe ddefnyddiodd hefyd y rhagenw diryw.—Ioan 14:16, 17.
Camsyniad: Mae bedyddio yn enw’r ysbryd glân yn profi ei fod yn berson.
Ffaith: Weithiau mae’r Beibl yn defnyddio’r gair “enw” yn gyfystyr â grym neu awdurdod. (Deuteronomium 18:5, 19-22; Esther 8:10, BCND) Ceir defnydd tebyg yn y Gymraeg, yn yr ymadrodd “yn enw’r gyfraith,” ond nid yw hynny’n golygu mai person yw’r gyfraith. Mae rhywun sy’n cael ei fedyddio “yn enw” yr ysbryd glân yn cydnabod grym yr ysbryd glân a’i ran yng nghyflawniad ewyllys Duw.—Mathew 28:19, BCND.
Camsyniad: Roedd apostolion Iesu a’r disgyblion cynnar eraill yn credu mai person oedd yr ysbryd glân.
Ffaith: Nid yw’r Beibl yn dweud hynny, ac nid yw hanes ychwaith. Dywed yr Encyclopædia Britannica: “Cafwyd diffiniad o’r Ysbryd Glân fel person dwyfol pendant . . . ar ddiwedd Cyngor Caergystennin yn 381 OG.” Roedd hyn yn fwy na 250 o flynyddoedd ar ôl i’r apostolion farw.