Neidio i'r cynnwys

WEDI EI DDYLUNIO?

Ystum Arbennig y Gloÿnnod Gwyn Mawr

Ystum Arbennig y Gloÿnnod Gwyn Mawr

 Mae gloÿnnod byw yn dibynnu ar wres yr haul i gynhesu eu cyhyrau cyn iddyn nhw hedfan. Ond ar ddiwrnodau cymylog, bydd y glöyn gwyn mawr yn hedfan cyn y gloÿnnod byw eraill.Beth sy’n rhoi’r fantais iddo?

 Ystyriwch: Cyn esgyn i’r awyr, mae llawer math o loÿnnod byw yn gorwedd yn yr haul gyda’u hadenydd naill ai wedi eu cau neu wedi eu hymestyn ar eu hyd. Ond mae’r glöyn gwyn mawr yn dal ei adenydd ar siâp-V. Mae ymchwil wedi dangos bod angen i’r glöyn byw agor ei adenydd a dal y ddwy ar ongl o 17 gradd er mwyn cynhesu yn y modd mwyaf effeithiol. Mae’r ystum hwn yn cyfeirio ynni o’r haul yn syth i gyhyrau’r adenydd yn y thoracs, a’u cynhesu yn barod at hedfan.

 Mae ymchwilwyr o Brifysgol Exeter, yn Lloegr, wedi bod yn edrych i weld a oes modd gwneud paneli solar yn fwy effeithiol drwy gopïo ystum arbennig y gloÿnnod gwyn mawr. Maen nhw wedi darganfod bod gosod y paneli mewn ffordd debyg i’r gloÿnnod byw yn cynhyrchu bron 50 y cant yn fwy o drydan.

 Gwelodd yr ymchwilwyr hefyd fod adenydd y glöyn byw yn llachar iawn. Drwy gopïo ffurf adlewyrchol yr adenydd a’r siâp-V, roedd yr ymchwilwyr yn gallu creu paneli solar sy’n ysgafnach ac yn fwy effeithiol. Ar ôl gweld y canlyniadau, dywedodd aelod o’r tîm ymchwil, yr Athro Richard ffrench-Constant, fod y glöyn gwyn mawr “yn arbenigwr ar gynaeafu ynni solar.”

 Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai rhywbeth a esblygodd yw ystum arbennig y glöyn gwyn mawr? Neu a gafodd ei ddylunio?