Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | MAGU PLANT

Pan Fydd Plentyn yn Torri’r Ymddiriedaeth Rhyngoch Chi

Pan Fydd Plentyn yn Torri’r Ymddiriedaeth Rhyngoch Chi

 Mae rhai yn eu harddegau yn anwybyddu rheolau eu rhieni o ran pryd y dylen nhw fod adref. Mae eraill yn twyllo eu rhieni, efallai drwy ddweud celwyddau neu drwy sleifio allan o’r tŷ i weld eu ffrindiau. Beth gallwch chi ei wneud os bydd eich plentyn yn eu harddegau yn eich siomi?

 Ydy fy mhlentyn yn rebel?

 Dim o reidrwydd. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae ffolineb wedi cael gafael ar feddwl person ifanc,” ac yn aml bydd pobl ifanc yn eu harddegau yn profi hynny’n wir. (Diarhebion 22:15) Dywed Dr. Laurence Steinberg: “Bydd pobl ifanc yn gwneud penderfyniadau byrbwyll a ffôl ar adegau. Dylech ddisgwyl rhai camgymeriadau.” a

 Beth os yw’r plentyn wedi bod yn dwyllodrus?

 Peidiwch â dod i’r casgliad mai’r bwriad oedd eich herio. Mae ymchwil yn dangos bod barn eu rhieni yn bwysig i bobl ifanc, hyd yn oed os nad yw hynny’n amlwg. Er na fydd person ifanc efallai yn ei ddangos, mae’n debyg ei fod yn siomedig ynddo’i hun ac yn drist ei fod wedi eich siomi chi. b

Mae modd adfer asgwrn sydd wedi torri. Mae’r un peth yn wir am ymddiriedaeth sydd wedi ei thorri

 Pwy sydd ar fai?

  •    A yw’r bai ar ei amgylchedd? Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” (1 Corinthiaid 15:33) Mae’n wir bod ffrindiau yn dylanwadu’n gryf ar bobl yn eu harddegau. Felly hefyd y mae ffactorau eraill, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a marchnata. O gofio hefyd nad oes gan bobl ifanc lawer o brofiad, hawdd yw deall pam maen nhw weithiau yn gwneud penderfyniadau gwael. Wrth gwrs, mae angen iddyn nhw ddysgu derbyn y cyfrifoldeb am eu penderfyniadau os ydyn nhw’n mynd i dyfu’n oedolion cyfrifol.

  •    A yw’r bai arna i? Efallai byddwch yn poeni eich bod yn rhy lym, a bod hynny wedi gwneud i’ch plentyn wrthryfela. Neu efallai rydych chi’n gofyn a oeddech chi’n rhy oddefgar gan roi gormod o ryddid i’ch plentyn. Yn hytrach na phoeni’n ormodol am ar yr hyn rydych chi wedi ei wneud i greu’r broblem, canolbwyntiwch nawr ar beth gallwch chi ei wneud i’w datrys.

 Sut gallaf helpu fy mhlentyn i adfer yr ymddiriedaeth rhyngon ni?

  •   Rheolwch eich ymateb. Mae’n debyg bydd eich plentyn yn disgwyl ichi fod yn ddig. Felly, beth am ddilyn trywydd gwahanol? Mewn ffordd dawel, trafodwch gyda’ch plentyn beth achosodd y broblem. A oedd yn teimlo’n chwilfrydig? Wedi diflasu? Neu’n unig ac eisiau ffrindiau? Nid yw hyn yn cyfiawnhau’r camwedd, ond mae’n gallu eich helpu chi—a’ch plentyn hefyd—i ddeall yn well beth oedd wedi arwain at y broblem.

     Egwyddor o’r Beibl: “Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer.”—Iago 1:19.

  •   Helpwch eich plentyn i feddwl am beth ddigwyddodd. Gofynnwch gwestiynau fel, Beth ddysgaist o’r profiad hwn? Beth fyddet ti’n ei wneud yn wahanol y tro nesaf mae’r sefyllfa’n codi? Mae cwestiynau o’r fath yn gallu hogi sgiliau rhesymu person ifanc.

     Egwyddor o’r Beibl:“Rhaid i ti gywiro pobl, ceryddu weithiau, annog dro arall—a gwneud hynny gydag amynedd mawr.”—2 Timotheus 4:2.

  •   Esboniwch y bydd canlyniadau. Mae’r rhain yn fwy effeithiol os ydyn nhw’n gysylltiedig â’r camwedd. Er enghraifft, os cymerodd ef neu hi y car heb ofyn, fe allwch chi ddweud na chaiff ddefnyddio’r car wedyn am gyfnod rhesymol.

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae pobl yn medi beth maen nhw’n ei hau.”—Galatiaid 6:7.

  •   Canolbwyntiwch ar sut gellir adfer ymddiriedaeth. Mae’n wir, nid yw hyn yn mynd i ddigwydd dros nos. Serch hynny, mae’n bwysig i’r person ifanc wybod bod modd adfer yr ymddiriedaeth rhyngoch chi. Sicrhewch ei fod yn gallu gweld y goleuni ym mhen draw’r twnnel, fel petai. Os bydd person ifanc yn teimlo na fyddwch yn ymddiried ynddo byth eto, hawdd fyddai rhoi’r gorau i’r ymdrech.

     Egwyddor o’r Beibl: “Rhaid i chi . . . beidio bod mor galed ar eich plant nes eu bod nhw’n digalonni.”—Colosiaid 3:21.

a O’r llyfr You and Your Adolescent.

b Er ein bod ni’n cyfeirio at y person ifanc fel bachgen, mae’r wybodaeth yn yr erthygl hon yr un mor berthnasol i ferched.