Y Cyntaf at y Corinthiaid 8:1-13

  • Ynglŷn â bwyd a offrymir i eilunod (1-13)

    • Dim ond un Duw sydd ’na i ni (5, 6)

8  Nawr ynglŷn â bwyd sydd wedi ei offrymu i eilunod: Rydyn ni’n gwybod bod gynnon ni i gyd wybodaeth. Mae gwybodaeth yn chwyddo, ond mae cariad yn adeiladu. 2  Os oes rhywun yn meddwl ei fod yn gwybod rhywbeth, nid yw eto’n gwybod popeth y dylai ei wybod am y peth hwnnw. 3  Ond os ydy unrhyw un yn caru Duw, mae’n cael ei adnabod ganddo. 4  Nawr ynglŷn â bwyta bwyd sydd wedi ei offrymu i eilunod, rydyn ni’n gwybod bod eilun yn ddim byd o gwbl ac mai dim ond un Duw sydd. 5  Oherwydd, er bod ’na rai sy’n cael eu galw’n dduwiau, naill ai yn y nef neu ar y ddaear, yn union fel mae llawer o “dduwiau” a llawer o “arglwyddi,” 6  mewn gwirionedd un Duw sydd i ni, sef y Tad, ac mae pob peth wedi dod oddi wrtho ef ac rydyn ninnau’n byw ar ei gyfer ef; ac un Arglwydd sydd, sef Iesu Grist, ac mae pob peth wedi dod trwyddo ef ac rydyn ninnau’n byw trwyddo ef. 7  Fodd bynnag, nid oes gan bawb y wybodaeth hon. Ond, oherwydd bod rhai wedi addoli’r eilun, maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n addoli eilun pan fyddan nhw’n bwyta bwyd a gafodd ei offrymu i eilun, ac oherwydd bod eu cydwybod yn wan, mae’n cael ei llygru. 8  Ond ni fydd bwyd yn dod â ni’n agosach at Dduw; dydyn ni ddim ar ein colled os nad ydyn ni’n bwyta, nac ar ein hennill os ydyn ni’n bwyta. 9  Ond parhewch i wylio nad yw eich hawl i ddewis, rywsut neu’i gilydd, yn troi’n garreg rwystr i’r rhai sy’n wan. 10  Oherwydd petai rhywun yn dy weld di, ti sydd â gwybodaeth, yn bwyta pryd o fwyd mewn teml eilunod, oni fydd cydwybod yr un hwnnw sy’n wan yn cael ei hannog i fwyta bwyd sydd wedi ei offrymu i eilunod? 11  Felly trwy dy wybodaeth di mae’r dyn sy’n wan yn cael ei niweidio, dy frawd y gwnaeth Crist farw drosto. 12  Pan fyddwch chi’n pechu yn erbyn eich brodyr yn y ffordd hon ac yn brifo eu cydwybod wan, rydych chi’n pechu yn erbyn Crist. 13  Felly os ydy bwyd yn gwneud i fy mrawd faglu, fydda i byth eto yn bwyta cig, fel na fydda i’n achosi i fy mrawd faglu.

Troednodiadau