Cyntaf Ioan 1:1-10
1 Rydyn ni’n ysgrifennu atoch chi am yr un sydd wedi bodoli ers y dechrau, yr un rydyn ni wedi ei glywed, ac rydyn ni wedi ei weld â’n llygaid, ac rydyn ni wedi ei wylio a’i gyffwrdd â’n dwylo—rydyn ni’n ysgrifennu atoch chi am air y bywyd.
2 (Yn wir, cafodd bywyd tragwyddol ei amlygu inni ac rydyn ni wedi ei weld ac yn tystiolaethu amdano ac yn ei gyhoeddi ichi. Mae’r bywyd tragwyddol hwn yn dod o’r Tad ac fe gafodd ei amlygu inni).
3 Rydyn ni’n sôn am yr un rydyn ni wedi ei weld a’i glywed, er mwyn i chithau hefyd fod mewn undod â ni, sy’n golygu bod mewn undod â’r Tad a’i Fab Iesu Grist.
4 Ac rydyn ni’n ysgrifennu’r pethau hyn er mwyn i’n llawenydd fod yn gyflawn.
5 Dyma’r neges rydyn ni wedi ei chlywed ganddo ef ac rydyn ni’n ei chyhoeddi ichi: Goleuni ydy Duw, a does ’na ddim tywyllwch ynddo o gwbl.
6 Os ydyn ni’n dweud, “Rydyn ni mewn undod ag ef,” ac eto rydyn ni’n parhau i gerdded yn y tywyllwch, rydyn ni’n dweud celwydd a dydyn ni ddim yn byw yn unol â’r gwir.
7 Fodd bynnag, os ydyn ni’n cerdded yn y goleuni fel y mae ef ei hun yn y goleuni, yna rydyn ni mewn undod â’n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod.
8 Os ydyn ni’n dweud, “Does gynnon ni ddim pechod,” rydyn ni’n ein twyllo ein hunain a dydy’r gwir ddim ynon ni.
9 Mae Duw’n ffyddlon ac yn gyfiawn, felly os ydyn ni’n cyffesu ein pechodau, bydd ef yn maddau inni ein pechodau ac yn ein glanhau ni o bob anghyfiawnder.
10 Os ydyn ni’n dweud, “Dydyn ni ddim wedi pechu,” rydyn ni’n ei wneud ef yn gelwyddog, a dydy ei air ddim ynon ni.