Y Cyntaf at y Thesaloniaid 5:1-28

  • Dydd Jehofa yn dod (1-5)

    • “Heddwch a diogelwch!” (3)

  • Aros yn effro, cadw’n pennau (6-11)

  • Cyngor (12-24)

  • Cyfarchion olaf (25-28)

5  Nawr ynglŷn â’r amseroedd a’r tymhorau, frodyr, does dim rhaid i ddim byd gael ei ysgrifennu atoch chi. 2  Oherwydd rydych chi’ch hunain yn gwybod yn iawn fod dydd Jehofa yn dod yn union fel lleidr yn y nos. 3  Bryd bynnag y byddan nhw’n dweud, “Heddwch a diogelwch!” yna y bydd dinistr sydyn yn dod arnyn nhw ar unwaith, yn union fel poenau geni ar ddynes* feichiog, ac ni fyddan nhw ar unrhyw gyfri yn dianc. 4  Ond chi, frodyr, dydych chi ddim yn y tywyllwch, felly ni fydd y dydd hwnnw yn dod arnoch chi’n sydyn fel golau dydd yn dod yn annisgwyl ar leidr, 5  oherwydd meibion y goleuni a meibion y dydd ydych chi i gyd. Dydyn ni ddim yn perthyn i’r nos nac i’r tywyllwch. 6  Felly, mae’n rhaid inni beidio â chysgu fel y mae’r gweddill yn gwneud, ond gadewch inni aros yn effro a chadw’n pennau. 7  Oherwydd mae’r rhai sy’n cysgu yn cysgu yn y nos, a’r rhai sy’n meddwi yn meddwi yn y nos. 8  Ond y ni sy’n perthyn i’r dydd, gadewch inni gadw ein pennau a rhoi amdanon ni’r arfogaeth o ffydd a chariad sy’n amddiffyn y fron a’r helmed o obaith am achubiaeth 9  oherwydd bod Duw wedi ein dewis ni, nid i brofi ei ddicter, ond i gael achubiaeth drwy ein Harglwydd Iesu Grist. 10  Gwnaeth ef farw droston ni er mwyn inni allu byw gydag ef, p’run a ydyn ni’n aros yn effro neu’n cysgu.* 11  Felly, daliwch ati i annog* eich gilydd ac i gryfhau eich gilydd,* yn union fel rydych chi’n wir yn gwneud. 12  Nawr frodyr, rydyn ni’n gofyn ichi ddangos parch tuag at y rhai sy’n gweithio’n galed yn eich plith ac sy’n eich arwain yn yr Arglwydd ac sy’n eich cynghori chi; 13  ac i ddangos ystyriaeth arbennig iddyn nhw mewn cariad oherwydd eu gwaith. Byddwch yn heddychlon tuag at eich gilydd. 14  Ar y llaw arall, rydyn ni’n erfyn arnoch chi, frodyr, i rybuddio’r afreolus, i siarad yn gysurlon â’r rhai sy’n isel eu hysbryd,* i gefnogi’r gwan, i fod yn amyneddgar wrth bawb. 15  Gwyliwch na fydd neb yn talu drwg am ddrwg i unrhyw un, ond ceisiwch bob amser yr hyn sy’n dda tuag at eich gilydd a thuag at bawb arall. 16  Byddwch yn llawen bob amser. 17  Gweddïwch yn ddi-baid. 18  Rhowch ddiolch am bopeth. Dyma ewyllys Duw ichi yng Nghrist Iesu. 19  Peidiwch â diffodd tân yr ysbryd. 20  Peidiwch â dirmygu proffwydoliaethau. 21  Gwnewch yn siŵr fod pob peth yn gywir; daliwch yn dynn yn yr hyn sy’n dda. 22  Gwrthodwch bob math o ddrygioni. 23  Rydyn ni’n gweddïo y bydd y Duw sy’n rhoi heddwch yn eich sancteiddio chi’n llwyr. Ac y bydd eich ysbryd a’ch enaid* a’ch corff chi frodyr, sy’n iach ym mhob ffordd, yn aros yn bur yn ystod presenoldeb ein Harglwydd Iesu Grist. 24  Mae’r un sy’n eich galw chi yn ffyddlon, a bydd ef yn sicr yn gwneud hyn. 25  Frodyr, daliwch ati i weddïo droston ni. 26  Cyfarchwch y brodyr i gyd â chusan sanctaidd. 27  Rydw i’n eich rhoi chi o dan orfodaeth yn enw’r Arglwydd i ddarllen y llythyr hwn i’r holl frodyr. 28  Rydw i’n dymuno i garedigrwydd rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist fod gyda chi.

Troednodiadau

Neu “ar fenyw.”
Neu “cysgu mewn marwolaeth.”
Neu “i gysuro.”
Llyth., “adeiladu eich gilydd.”
Neu “y rhai sy’n ddigalon.” Llyth., “y rhai o ychydig enaid.”
Neu “bywyd.” Gweler Geirfa.