Ail Pedr 3:1-18

  • Pobl yn gwneud hwyl am ben y dinistr sydd yn dod (1-7)

  • Dydy Jehofa ddim yn araf (8-10)

  • Ystyried pa fath o bobl y dylech chi fod (11-16)

    • Nefoedd newydd a daear newydd (13)

  • Gwylio rhag cael eich arwain ar gyfeiliorn (17, 18)

3  Ffrindiau annwyl, dyma’r ail lythyr rydw i’n ei ysgrifennu atoch chi ac, fel yn yr un cyntaf, rydw i’n eich cymell chi i ddefnyddio eich gallu i feddwl yn glir drwy eich atgoffa chi o’r hyn rydych chi’n ei wybod yn barod, 2  sef y dylech chi gofio’r geiriau a gafodd eu dweud ymlaen llaw* gan y proffwydi sanctaidd a gorchymyn yr Arglwydd ac Achubwr trwy eich apostolion. 3  Yn gyntaf, rhaid ichi wybod hyn: Yn y dyddiau olaf, bydd pobl yn gwneud hwyl am ben pethau sy’n dda, a byddan nhw’n gwneud pethau drwg yn ôl eu chwantau eu hunain 4  ac yn dweud: “Gwnaeth ef addo dod yn ôl eto, ond ble mae ef? O’r diwrnod gwnaeth ein cyndadau syrthio i gysgu mewn marwolaeth, mae popeth yr un fath ers i’r byd gael ei greu.” 5  Oherwydd maen nhw’n anwybyddu’r ffaith hon yn fwriadol, sef amser maith yn ôl, roedd ’na nefoedd a daear yn sefyll yn gadarn allan o’r dŵr ac yn cael eu hamgylchynu gan ddŵr drwy air Duw; 6  a thrwy gyfrwng y pethau hynny, cafodd y byd yr adeg honno ei ddinistrio pan gafodd ei foddi dan ddŵr. 7  Ond trwy’r un gair, mae’r nefoedd a’r ddaear sydd nawr yn bodoli yn cael eu neilltuo ar gyfer tân ac yn cael eu cadw hyd ddydd y farn a dinistr y bobl annuwiol. 8  Fodd bynnag, peidiwch ag anghofio’r ffaith hon, ffrindiau annwyl: Yng ngolwg Jehofa, mae un diwrnod fel mil o flynyddoedd, ac mae mil o flynyddoedd fel un diwrnod. 9  Dydy Jehofa ddim yn araf i gyflawni ei addewid, fel mae rhai pobl yn meddwl, ond mae ef yn amyneddgar â chi, oherwydd nad yw’n dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio ond mae’n dymuno i bawb gael cyfle i edifarhau. 10  Ond bydd dydd Jehofa yn dod fel lleidr, a bydd y nefoedd yn diflannu â sŵn fel taran,* ond oherwydd bod yr elfennau’n hynod o boeth, byddan nhw’n toddi, a bydd y ddaear yn cael ei datgelu ynghyd â phopeth sy’n cael ei wneud ynddi. 11  Gan fod yr holl bethau hyn yn mynd i gael eu toddi fel hyn, ystyriwch pa fath o bobl y dylech chi fod ym mhob math o ymddygiad sanctaidd a gweithredoedd o ddefosiwn duwiol, 12  wrth ichi ddisgwyl a chofio bob amser am* bresenoldeb dydd Jehofa, pan fydd y nefoedd yn cael eu dinistrio mewn fflamau a’r elfennau yn toddi yn y gwres mawr! 13  Ond mae ’na nefoedd newydd a daear newydd rydyn ni’n disgwyl amdanyn nhw yn ôl ei addewid, a bydd cyfiawnder yn bodoli ynddyn nhw. 14  Felly, ffrindiau annwyl, gan eich bod chi’n disgwyl am y pethau hyn, gwnewch eich gorau glas fel bydd Duw yn gweld yn y diwedd eich bod chi’n ddi-nam ac yn ddi-fai ac mewn heddwch. 15  Ar ben hynny, ystyriwch amynedd ein Harglwydd yn achubiaeth, yn union fel yr ysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul hefyd atoch chi yn ôl y doethineb a gafodd ei roi iddo, 16  gan sôn am y pethau hyn fel y mae ym mhob un o’i lythyrau. Fodd bynnag, mae rhai pethau ynddyn nhw yn anodd eu deall, ac mae’r rhai anwybodus ac ansefydlog yn gwyrdroi’r pethau hyn, fel maen nhw hefyd yn gwneud i weddill yr Ysgrythurau, a bydd hyn yn arwain at eu dinistr eu hunain. 17  Felly, chi ffrindiau annwyl, gan eich bod chi’n gwybod am y pethau hyn o flaen llaw, byddwch yn wyliadwrus fel na fyddwch chi’n cael eich arwain ar gyfeiliorn gyda nhw drwy ddrygioni’r bobl ddigyfraith ac yn syrthio o’ch sylfaen gadarn. 18  Na, ond parhewch i dyfu yng ngharedigrwydd rhyfeddol a gwybodaeth ein Harglwydd ac Achubwr Iesu Grist. Mae’r gogoniant yn perthyn iddo ef nawr ac am byth. Amen.

Troednodiadau

Neu “y pethau a gafodd eu rhagfynegi.”
Neu “sŵn rhuthro.”
Neu “a dymuno’n fawr.” Llyth., “a chyflymu.”