Genesis 23:1-20

  • Marwolaeth Sara a’i bedd (1-20)

23  A gwnaeth Sara fyw am 127 o flynyddoedd; dyna flynyddoedd bywyd Sara. 2  Felly bu farw Sara yn Ciriath-arba, hynny yw, Hebron, yng ngwlad Canaan, a dechreuodd Abraham alaru am Sara a wylo drosti. 3  Yna gadawodd Abraham gorff ei wraig ac fe ddywedodd wrth feibion Heth: 4  “Estronwr a mewnfudwr ydw i yn eich plith. Rhowch imi ddarn o dir i fod yn fedd yn eich plith er mwyn imi fedru claddu fy marw.” 5  Ar hynny gwnaeth meibion Heth ateb Abraham: 6  “Gwranda arnon ni, fy arglwydd. Rwyt ti’n bennaeth i Dduw* yn ein plith ni. Fe gei di gladdu dy farw yn un o’r beddau gorau sydd gynnon ni. Ni fydd un ohonon ni’n gwrthod rhoi ei fedd iti i dy ddal di’n ôl rhag claddu dy farw.” 7  Felly cododd Abraham ac ymgrymu i bobl y wlad, i feibion Heth, 8  a dweud wrthyn nhw: “Os ydych chi’n cytuno imi gladdu fy marw, yna gwrandewch arna i ac ewch ati i berswadio Effron fab Sohar 9  i werthu imi ogof Machpela, sy’n perthyn iddo, ac sydd ar ymyl ei gae. Gadewch iddo ei gwerthu imi yn eich presenoldeb am y pris llawn o arian er mwyn imi gael rhywle i gladdu fy marw.” 10  Nawr roedd Effron yn eistedd ymysg meibion Heth. Felly gwnaeth Effron yr Hethiad ateb Abraham yng nghlyw meibion Heth, ac o flaen pawb oedd wedi dod i mewn drwy borth ei ddinas, gan ddweud: 11  “Na, fy arglwydd! Gwranda arna i. Rydw i’n rhoi iti’r cae a’r ogof sydd ynddo. Ym mhresenoldeb meibion fy mhobl, rydw i’n eu rhoi iti. Cladda dy farw.” 12  Gyda hynny, dyma Abraham yn ymgrymu o flaen pobl y wlad 13  a siarad ag Effron yng nghlyw’r bobl, gan ddweud: “Gwranda arna i, plîs! Fe wna i roi iti’r pris llawn o arian am y cae. Cymera hyn gen i, er mwyn imi fedru claddu fy marw yno.” 14  Yna gwnaeth Effron ateb Abraham: 15  “Fy arglwydd, gwranda arna i. Mae’r darn o dir hwn yn werth 400 sicl* o arian, ond beth ydy hynny rhyngot ti a minnau? Felly cladda dy farw.” 16  Gwrandawodd Abraham ar Effron, a dyma Abraham yn pwyso’r swm o arian i Effron, y swm roedd wedi sôn amdano yng nghlyw meibion Heth, 400 sicl* o arian yn ôl pwysau’r masnachwyr. 17  Felly cafodd cae Effron yn Machpela, a oedd o flaen Mamre—y cae a’r ogof ynddo a’r holl goed o fewn terfyn y cae—ei gadarnhau fel 18  eiddo roedd Abraham wedi ei brynu ym mhresenoldeb meibion Heth, o flaen pawb oedd wedi dod i mewn drwy borth ei ddinas. 19  Ar ôl hynny fe wnaeth Abraham gladdu ei wraig Sara yn yr ogof yng nghae Machpela o flaen Mamre, hynny yw, Hebron, yng ngwlad Canaan. 20  Felly cafodd y cae a’r ogof ynddo eu trosglwyddo gan feibion Heth i Abraham fel lle i gladdu ei farw.

Troednodiadau

Neu efallai, “yn bennaeth mawr.”
Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).
Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).