Genesis 3:1-24
3 Nawr y neidr* oedd y mwyaf pwyllog* o holl anifeiliaid gwyllt y maes roedd Jehofa Dduw wedi eu gwneud. Felly fe ddywedodd y neidr wrth y ddynes:* “Ydy Duw’n wir wedi dweud na chewch chi fwyta o bob coeden yn yr ardd?”
2 Ar hynny dywedodd y ddynes* wrth y neidr: “Rydyn ni’n cael bwyta ffrwyth o goed yr ardd.
3 Ond mae Duw wedi dweud am ffrwyth y goeden sydd yng nghanol yr ardd: ‘Peidiwch â bwyta’r ffrwyth, na, peidiwch â’i gyffwrdd; neu fe fyddwch chi’n marw.’”
4 Ar hynny dywedodd y neidr wrth y ddynes:* “Fyddwch chi’n bendant ddim yn marw.
5 Oherwydd mae Duw’n gwybod y bydd eich llygaid yn cael eu hagor ac y byddwch chi fel Duw, yn gwybod da a drwg, yn y dydd y byddwch chi’n bwyta ohoni.”
6 O ganlyniad, gwelodd y ddynes* fod y goeden yn dda ar gyfer bwyd a’i bod hi’n rhywbeth dymunol i’r llygaid, yn wir, roedd y goeden yn hardd i edrych arni. Felly dechreuodd hi gymryd o’i ffrwyth a’i fwyta. Ar ôl hynny, fe roddodd hefyd ychydig o’r ffrwyth i’w gŵr pan oedd ef gyda hi, a dechreuodd yntau fwyta o’r ffrwyth.
7 Yna cafodd llygaid y ddau ohonyn nhw eu hagor, a sylweddolon nhw eu bod nhw’n noeth. Felly dyma nhw’n gwnïo dail coeden ffigys at ei gilydd er mwyn cuddio eu noethni.*
8 Wedyn fe glywson nhw lais Jehofa Dduw tra oedd yn cerdded yn yr ardd tua’r adeg yn y dydd pan oedd yr awel oer yn chwythu,* a gwnaeth y dyn a’i wraig guddio o olwg Jehofa Dduw ymysg coed yr ardd.
9 Ac roedd Jehofa Dduw’n parhau i alw ar y dyn gan ofyn iddo: “Ble rwyt ti?”
10 O’r diwedd fe ddywedodd: “Fe wnes i glywed dy lais yn yr ardd, ond roeddwn i’n ofnus oherwydd fy mod i’n noeth, felly fe wnes i guddio.”
11 Ar hynny dywedodd Duw: “Pwy ddywedodd wrthot ti dy fod ti’n noeth? Wyt ti wedi bwyta o’r goeden y gwnes i orchymyn iti beidio â bwyta ohoni hi?”
12 Dywedodd y dyn: “Y ddynes* y gwnest ti ei rhoi i fod gyda mi, hi roddodd ffrwyth o’r goeden imi, felly dyma fi’n ei fwyta.”
13 Yna dywedodd Jehofa Dduw wrth y ddynes:* “Beth ydy hyn rwyt ti wedi ei wneud?” Atebodd y ddynes:* “Fe wnaeth y neidr fy nhwyllo i, felly fe wnes i fwyta.”
14 Yna dywedodd Jehofa Dduw wrth y neidr: “Oherwydd dy fod ti wedi gwneud hyn, allan o holl anifeiliaid domestig ac allan o holl anifeiliaid gwyllt y maes, rydw i’n dy felltithio di. Ar dy fol y byddi di’n mynd, a byddi di’n bwyta llwch holl ddyddiau dy fywyd.
15 A bydda i’n achosi i ti a’r ddynes* fod yn elynion ac i dy ddisgynyddion* di a’i disgynnydd* hi fod yn elynion. Bydd y disgynnydd hwnnw yn sathru* dy ben, a byddi di’n ei daro* ef yn y sawdl.”
16 Dywedodd wrth y ddynes:* “Bydda i’n gwneud i dy boenau geni fod yn llawer gwaeth; mewn poen y byddi di’n rhoi genedigaeth i blant, a byddi di’n dyheu am dy ŵr, a bydd ef yn arglwyddiaethu arnat ti.”
17 A dywedodd wrth Adda:* “Oherwydd dy fod ti wedi gwrando ar lais dy wraig a bwyta o’r goeden y gwnes i roi’r gorchymyn hwn iti amdani, ‘Paid â bwyta ohoni,’ rydw i’n mynd i felltithio’r tir o dy achos di. Mewn poen y byddi di’n bwyta ei gynnyrch holl ddyddiau dy fywyd.
18 Bydd drain ac ysgall yn tyfu ar y tir, a byddi di’n gorfod bwyta planhigion y maes.
19 Trwy chwys dy wyneb y byddi di’n bwyta bara* hyd nes iti fynd yn ôl i’r pridd, oherwydd allan ohono y cest ti dy gymryd. Oherwydd llwch wyt ti ac i’r llwch y byddi di’n mynd yn ôl.”
20 Ar ôl hyn dyma Adda yn enwi ei wraig yn Efa,* oherwydd y byddai hi’n dod yn fam i bob un byw.
21 A dyma Jehofa Dduw yn gwneud dillad hir o grwyn anifeiliaid i Adda a’i wraig eu gwisgo.
22 Yna dywedodd Jehofa Dduw: “Edrycha, mae’r dyn wedi dod fel un ohonon ni yn gwybod da a drwg. Nawr er mwyn iddo beidio ag estyn ei law allan a chymryd hefyd ffrwyth o goeden y bywyd a bwyta a byw am byth,—”
23 Ar hynny dyma Jehofa Dduw yn eu gyrru allan o ardd Eden i drin y tir y cafodd y dyn ei gymryd ohono.
24 Felly gyrrodd ef y dyn allan, ac i’r dwyrain o ardd Eden, gosododd y cerwbiaid a’r cleddyf fflamllyd a oedd yn troi’n barhaol i warchod y ffordd at goeden y bywyd.
Troednodiadau
^ Neu “sarff.”
^ Neu “craff; cyfrwys.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “a gwneud gwregys i guddio’r cluniau.”
^ Hynny yw, gyda hwyr y dydd.
^ Neu “Y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “a’r fenyw.”
^ Llyth., “had.”
^ Llyth., “had.”
^ Neu “ysigo; briwio; taro.”
^ Neu “briwio; sathru.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Sy’n golygu “Dyn; Dynolryw; Dynoliaeth.”
^ Neu “bwyd.”
^ Sy’n golygu “Un Byw.”