Genesis 43:1-34
43 Nawr roedd y newyn yn drwm yn y wlad.
2 Felly pan oedden nhw wedi gorffen bwyta’r grawn roedden nhw wedi dod gyda nhw o’r Aifft, dywedodd eu tad wrthyn nhw: “Ewch yn ôl a phrynu ychydig o fwyd inni.”
3 Yna dywedodd Jwda wrtho: “Rhoddodd y dyn rybudd clir inni, ‘Chewch chi ddim gweld fy wyneb eto oni bai bod eich brawd gyda chi.’
4 Os gwnei di anfon ein brawd gyda ni, byddwn ni’n mynd i lawr i brynu bwyd iti.
5 Ond os na wnei di ei anfon, fyddwn ni ddim yn mynd i lawr, oherwydd dywedodd y dyn wrthon ni, ‘Chewch chi ddim gweld fy wyneb eto oni bai bod eich brawd gyda chi.’”
6 A gofynnodd Israel: “Sut gallwch chi fy mrifo i fel hyn? Pam gwnaethoch chi ddweud wrth y dyn fod gynnoch chi frawd arall?”
7 Atebon nhw: “Gwnaeth y dyn ofyn i ni’n benodol amdanon ni a’n teulu, gan ddweud, ‘Ydy eich tad yn dal yn fyw? Oes gynnoch chi frawd arall?’ A dywedon ni’r gwir wrtho. Sut yn y byd roedden ni i wybod y byddai’n dweud, ‘Dewch â’ch brawd i lawr’?”
8 Yna dywedodd Jwda wrth Israel ei dad: “Anfona’r bachgen gyda mi, a gad inni fynd ar ein ffordd er mwyn inni fyw a pheidio â marw—ni, a ti, a’n plant.
9 Mae bywyd y bachgen yn fy nwylo i. Cei di fy nal i’n gyfrifol amdano. Os nad ydw i’n dod ag ef yn ôl atat ti bydda i’n euog o bechu yn dy erbyn di am weddill fy mywyd.
10 Ond petasen ni heb oedi, bydden ni wedi gallu mynd yno ac yn ôl ddwywaith erbyn hyn.”
11 Felly dywedodd Israel eu tad wrthyn nhw: “Os oes rhaid, gwnewch hyn: Cymerwch gynnyrch gorau’r wlad i lawr yn eich bagiau at y dyn fel anrheg iddo: ychydig o falm, ychydig o fêl, labdanum,* rhisgl resinaidd, cnau pistasio, ac almonau.
12 Ewch â dwywaith cymaint o arian gyda chi; a hefyd ewch â’r arian a gafodd ei roi yn ôl yng ngheg eich bagiau yn ôl gyda chi. Efallai mai camgymeriad oedd hynny.
13 Cymerwch eich brawd ac ewch yn ôl at y dyn.
14 Gad i Dduw Hollalluog wneud i’r dyn ddangos trugaredd atoch chi er mwyn iddo ryddhau eich brawd arall a Benjamin ichi. Ond os oes rhaid imi golli fy mhlant, yna bydd rhaid imi dderbyn hynny!”
15 Felly cymerodd y dynion yr anrheg honno, a chymeron nhw ddwywaith cymaint o arian yn eu dwylo yn ogystal â Benjamin. Yna, codon nhw a mynd ar eu ffordd i lawr i’r Aifft a sefyll o flaen Joseff unwaith eto.
16 Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda nhw, dywedodd ar unwaith wrth y dyn oedd yn gofalu am ei dŷ: “Dos â’r dynion i’r tŷ a lladd anifeiliaid a pharatoi pryd o fwyd, oherwydd bydd y dynion yn bwyta gyda mi am hanner dydd.”
17 Ar unwaith, gwnaeth y dyn yn union fel roedd Joseff wedi dweud wrtho, ac aeth â nhw i dŷ Joseff.
18 Ond dechreuodd y dynion ofni pan gawson nhw eu cymryd i dŷ Joseff, a dechreuon nhw ddweud: “Maen nhw’n dod â ni yma oherwydd yr arian a gafodd ei roi yn ôl yn ein bagiau y tro diwethaf. Nawr byddan nhw’n ymosod arnon ni ac yn ein gwneud ni’n gaethweision ac yn cymryd ein hasynnod!”
19 Felly, aethon nhw at y dyn oedd yn gofalu am dŷ Joseff a siarad ag ef wrth fynedfa’r tŷ.
20 Dywedon nhw: “Esgusoda ni, fy arglwydd! Daethon ni i lawr y tro cyntaf i brynu bwyd.
21 Ond pan gyrhaeddon ni ein llety a dechrau agor ein bagiau, wel, dyna lle roedd arian pob un yng ngheg ei fag, pob ceiniog ohono. Felly roedden ni eisiau ei roi yn ôl â’n dwylo ein hunain.
22 Ac rydyn ni wedi dod â mwy o arian i brynu bwyd. Dydyn ni ddim yn gwybod pwy roddodd yr arian yn ein bagiau.”
23 Yna dywedodd: “Mae popeth yn iawn. Peidiwch ag ofni. Eich Duw chi a Duw eich tad wnaeth roi trysor yn eich bagiau. Rydw i’n gwybod eich bod chi wedi talu.” Ar ôl hynny, daeth ef â Simeon allan atyn nhw.
24 Yna daeth y dyn â nhw i mewn i dŷ Joseff a rhoi dŵr iddyn nhw i olchi eu traed, a rhoddodd fwyd i’w hasynnod.
25 A dyma nhw’n paratoi’r anrheg erbyn ganol dydd pan fyddai Joseff yn dod, am eu bod nhw wedi clywed y bydden nhw’n cael pryd o fwyd yno.
26 Pan aeth Joseff i mewn i’r tŷ, daethon nhw â’u hanrheg ato ac ymgrymu ar y llawr o’i flaen.
27 Ar ôl hyn, gofynnodd Joseff iddyn nhw: “Sut ydych chi? Roeddech chi’n sôn bod eich tad mewn oed, sut mae’n cadw? Ydy ef yn dal yn fyw?”
28 Atebon nhw: “Mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach.” Yna, dyma nhw’n ymgrymu’n isel o’i flaen.
29 Pan edrychodd a gweld Benjamin ei frawd, mab ei fam, dywedodd: “Ai hwn yw eich brawd, yr un ieuengaf roeddech chi’n sôn amdano?” Ychwanegodd: “Bendith Duw arnat ti fy mab.”
30 Daeth cymaint o deimlad drosto oherwydd ei frawd, rhuthrodd allan a chwilio am rywle i grio. Felly aeth i mewn i ystafell breifat a beichio crio yno.
31 Ar ôl hynny, golchodd ei wyneb a mynd allan, a gyda’i deimladau bellach o dan reolaeth, dywedodd: “Dewch â’r bwyd allan.”
32 Dyma nhw’n gweini ar Joseff ar ei ben ei hun a’i frodyr ar wahân, ac roedd yr Eifftiaid gydag ef yn bwyta er eu pennau eu hunain, oherwydd doedd yr Eifftiaid ddim yn gallu bwyta gyda’r Hebreaid am fod hynny’n beth ffiaidd i’r Eifftiaid.
33 Eisteddodd ei frodyr o’i flaen yn ôl eu hoedran, o’r cyntaf-anedig yn ôl ei hawl fel y cyntaf-anedig, i’r ieuengaf yn ôl ei ieuenctid, ac roedden nhw’n dal i edrych ar ei gilydd mewn syndod.
34 Dro ar ôl tro anfonodd fwyd o’i fwrdd ef i’w bwrdd nhw, ond rhoddodd bum gwaith mwy i Benjamin nag i’r lleill. Felly, gwnaethon nhw barhau i fwyta ac yfed gydag ef nes eu bod nhw’n llawn.
Troednodiadau
^ Hynny yw, math o blanhigyn tywyll.