At yr Hebreaid 13:1-25

  • Anogaeth a chyfarchion i gloi (1-25)

    • Peidio ag anghofio am letygarwch (2)

    • Dylai priodas gael ei pharchu (4)

    • Ufuddhau i’r rhai sy’n eich arwain (7,17)

    • Offrymu aberth o foliant (15, 16)

13  Gadewch i’ch cariad brawdol barhau. 2  Peidiwch ag anghofio am letygarwch,* oherwydd trwyddo y gwnaeth rhai, heb wybod, groesawu angylion. 3  Cadwch mewn cof y rhai sydd yn y carchar,* fel petasech chithau wedi cael eich carcharu gyda nhw, a’r rhai sy’n cael eu cam-drin, gan eich bod chithau hefyd yn fodau dynol.* 4  Dylai priodas gael ei pharchu gan bawb, a dylai gwŷr a gwragedd fod yn ffyddlon i’w gilydd, oherwydd bydd Duw’n barnu pobl sy’n anfoesol yn rhywiol* a godinebwyr. 5  Peidiwch â charu arian, wrth ichi fod yn fodlon ar y pethau sydd gynnoch chi. Oherwydd mae ef wedi dweud: “Ni wna i byth dy adael di, ac ni wna i byth gefnu arnat ti.” 6  Fel y gallwn ni fod yn llawn hyder a dweud: “Jehofa ydy fy helpwr; dydw i ddim yn mynd i ofni. Beth gall dyn ei wneud i mi?” 7  Cofiwch am y rhai sy’n eich arwain chi, sydd wedi dysgu gair Duw ichi, ac wrth ichi ystyried canlyniadau da eu hymddygiad, efelychwch eu ffydd. 8  Mae Iesu Grist yr un fath ddoe a heddiw, ac am byth. 9  Peidiwch â chael eich camarwain gan ddysgeidiaethau amrywiol a dieithr, oherwydd mae’n well i’r galon gael ei chryfhau gan garedigrwydd rhyfeddol na gan fwydydd,* sydd ddim o unrhyw les i’r rhai sy’n rhoi gwerth ar y bwydydd hynny. 10  Mae gynnon ni allor a does gan y rhai sy’n cyflawni gwasanaeth cysegredig yn y babell ddim hawl i fwyta ohoni. 11  Oherwydd mae cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai mae eu gwaed yn cael ei gymryd i mewn i’r lle sanctaidd yn offrwm dros bechod gan yr archoffeiriad, yn cael eu llosgi y tu allan i’r gwersyll. 12  Felly, dioddefodd Iesu hefyd y tu allan i borth y ddinas er mwyn sancteiddio’r bobl â’i waed ei hun. 13  Gadewch i ni, felly, fynd ato y tu allan i’r gwersyll, yn cael ein sarhau fel roedd yntau’n cael ei sarhau, 14  oherwydd nid dinas sy’n aros sydd gynnon ni yma, ond ceisio’n daer rydyn ni yr un sydd i ddod. 15  Trwyddo ef gadewch inni bob amser offrymu i Dduw aberth o foliant, hynny yw, ffrwyth ein gwefusau sy’n datgan yn gyhoeddus ei enw. 16  Ar ben hynny, peidiwch ag anghofio gwneud daioni a rhannu’r hyn sydd gynnoch chi ag eraill, oherwydd bod aberthau o’r fath yn plesio Duw’n fawr. 17  Byddwch yn ufudd i’r rhai sy’n eich arwain chi a byddwch yn barod i dderbyn eu hawdurdod, oherwydd eu bod nhw’n eich gwarchod chi’n* barhaol fel rhai sy’n mynd i roi cyfri, er mwyn iddyn nhw allu gwneud hyn yn llawen ac nid yn ddigalon, oherwydd y byddai hynny’n niweidiol ichi. 18  Daliwch ati i weddïo droston ni, oherwydd rydyn ni’n credu bod gynnon ni gydwybod onest,* ac rydyn ni eisiau ymddwyn yn onest ym mhob peth. 19  Ond rydw i’n eich cymell chi’n gryf i weddïo er mwyn imi fedru dod yn ôl atoch chi’n gynt. 20  Nawr rydw i’n dymuno i Dduw heddwch, a wnaeth atgyfodi bugail mawr y defaid, ein Harglwydd Iesu, â gwaed cyfamod tragwyddol, 21  ddarparu pob peth da ar eich cyfer chi er mwyn ichi wneud ei ewyllys. Trwy gyfrwng Iesu Grist, mae’n ein hysgogi ni i wneud yr hyn sy’n ei blesio ef. Rydw i’n dymuno i Dduw dderbyn y gogoniant am byth bythoedd. Amen. 22  Nawr rydw i’n eich cymell chi, frodyr, i wrando’n amyneddgar ar y gair hwn o anogaeth, oherwydd fy mod i wedi ysgrifennu llythyr byr atoch chi. 23  Rydw i eisiau ichi wybod bod ein brawd Timotheus wedi cael ei ryddhau. Os ydy ef yn dod yn fuan, bydda i gydag ef pan fydda i’n eich gweld chi. 24  Rhowch fy nghyfarchion i’r holl rai sy’n eich arwain chi ac i’r holl rai sanctaidd. Mae ein brodyr yn yr Eidal yn anfon eu cyfarchion atoch chi. 25  Rydw i’n gweddïo i garedigrwydd rhyfeddol fod gyda chi i gyd.

Troednodiadau

Neu “am garedigrwydd tuag at bobl ddieithr.”
Llyth., “y rhai sydd mewn rhwymau.”
Neu efallai, “fel petasech chi’n dioddef gyda nhw.”
Gweler Geirfa, “Anfoesoldeb rhywiol.”
Hynny yw, rheolau am fwyd.
Neu “yn gwarchod eich eneidiau.”
Llyth., “dda.”