At yr Hebreaid 6:1-20
6 Felly, nawr ein bod ni wedi symud ymlaen o’r ddysgeidiaeth sylfaenol am y Crist, gadewch inni fwrw ymlaen at aeddfedrwydd, heb ailosod sylfaen, hynny yw, edifeirwch am weithredoedd marw a ffydd yn Nuw,
2 y ddysgeidiaeth am fedydd ac am osod dwylo ar bobl, atgyfodiad y meirw a barnedigaeth dragwyddol.
3 Ac fe wnawn ni hyn, os ydy Duw yn caniatáu hynny.
4 Oherwydd ynglŷn â’r rhai a oedd ar un adeg wedi derbyn y goleuni ac sydd wedi blasu’r rhodd nefol sydd am ddim ac sydd wedi dod yn gyfranogwyr o’r ysbryd glân
5 ac sydd wedi blasu gair da Duw a grymoedd y system sydd i ddod,*
6 ond sydd wedi cefnu ar y ffydd, mae’n amhosib eu helpu nhw i ddod yn ôl i edifeirwch, oherwydd eu bod nhw’n hoelio Mab Duw ar y stanc unwaith eto drostyn nhw eu hunain ac yn ei gywilyddio yn gyhoeddus.
7 Oherwydd mae’r tir yn derbyn bendith oddi wrth Dduw pan fydd yn yfed y glaw sy’n disgyn arno’n aml ac yna mae’n cynhyrchu cnwd sy’n ddefnyddiol i’r rhai sy’n ei dyfu.
8 Ond petai’n cynhyrchu drain ac ysgall, mae’r tir yn cael ei wrthod ac mae ar fin cael ei felltithio, ac yn y pen draw fe fydd yn cael ei losgi.
9 Ond yn eich achos chi, rai annwyl, rydyn ni’n gwbl sicr bydd pethau gwell yn dod i chi, pethau sy’n ymwneud ag achubiaeth, er ein bod ni’n siarad fel hyn.
10 Oherwydd dydy Duw ddim yn anghyfiawn, felly ni fydd yn anghofio am eich gwaith nac am y cariad rydych chi wedi ei ddangos tuag at ei enw drwy weini ar y rhai sanctaidd a thrwy barhau i wneud hynny.
11 Ond rydyn ni eisiau i bob un ohonoch chi fod yr un mor weithgar er mwyn ichi gael sicrwydd llawn ynglŷn â’r gobaith hyd at y diwedd,
12 fel nad ydych chi’n troi’n ddiog, ond dylech chi efelychu’r rhai sy’n etifeddu’r addewidion drwy ffydd ac amynedd.
13 Oherwydd pan wnaeth Duw ei addewid i Abraham, fe wnaeth lw yn ei enw ei hun, oherwydd does ’na neb mwy nag ef.
14 Dywedodd: “Rydw i’n sicr yn mynd i dy fendithio di ac amlhau dy ddisgynyddion.”
15 Felly ar ôl i Abraham ddangos amynedd, fe gafodd yr hyn roedd Duw wedi ei addo.
16 Oherwydd mae dynion yn gwneud llw yn enw rhywun sy’n uwch na nhw, ac mae eu llw nhw yn dod ag unrhyw ddadl i ben, gan ei fod yn warant gyfreithiol iddyn nhw.
17 Yn yr un modd, pan wnaeth Duw benderfynu dangos yn fwy eglur i etifeddion yr addewid nad ydy ei bwrpas yn newid, fe wnaeth ei warantu â llw,
18 er mwyn i ni sy’n llochesu yn Nuw allu derbyn anogaeth gref i afael yn dynn yn ein gobaith drwy ei addewid a’i lw. Dydy ef ddim yn gallu dweud celwydd oherwydd nad ydy ei lw na’i addewid byth yn newid.
19 Mae gynnon ni’r gobaith hwn fel angor i’r enaid,* yn sicr ac yn gadarn, ac mae’n mynd trwodd y tu mewn i’r llen,
20 lle mae Iesu wedi mynd i mewn o’n blaenau ni ac er ein mwyn ni, yr un sydd wedi dod yn archoffeiriad yn yr un ffordd â Melchisedec am byth.