Yn Ôl Ioan 12:1-50
12 Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth Iesu i Fethania, lle roedd Lasarus, yr un roedd Iesu wedi ei godi o’r meirw.
2 Felly gwnaethon nhw baratoi swper iddo, ac roedd Martha’n gweini arnyn nhw, ond un o’r rhai oedd yn bwyta gydag ef oedd Lasarus.
3 Yna cymerodd Mair tua hanner litr* o olew persawrus, nard go iawn, sy’n hynod o ddrud, a dyma hi’n ei dywallt ar draed Iesu ac yn sychu ei draed â’i gwallt. Cafodd y tŷ ei lenwi ag arogl yr olew persawrus.
4 Ond dywedodd Jwdas Iscariot, un o’i ddisgyblion, yr un a oedd ar fin ei fradychu:
5 “Pam na chafodd yr olew persawrus hwn ei werthu am 300 denariws a’i roi i’r tlawd?”
6 Ond, fe ddywedodd hyn, nid oherwydd ei fod yn poeni am y tlawd, ond oherwydd ei fod yn lleidr, ac roedd ganddo’r blwch arian ac roedd ef yn arfer dwyn yr arian a gafodd ei roi ynddo.
7 Yna dywedodd Iesu: “Gad lonydd iddi, er mwyn iddi baratoi fy nghorff ar gyfer diwrnod fy nghladdu.
8 Oherwydd mae’r tlawd gyda chi drwy’r amser, ond fydda i ddim gyda chi drwy’r amser.”
9 Yn y cyfamser, clywodd tyrfa fawr o Iddewon ei fod yno, a daethon nhw nid yn unig oherwydd Iesu, ond hefyd i weld Lasarus, yr un roedd Iesu wedi ei godi o’r meirw.
10 Dyma’r prif offeiriaid nawr yn cynllwynio i ladd Lasarus hefyd,
11 oherwydd o’i achos ef roedd llawer o’r Iddewon yn mynd yno ac yn rhoi ffydd yn Iesu.
12 Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr a oedd wedi dod i’r ŵyl fod Iesu’n dod i Jerwsalem.
13 Felly cymeron nhw ganghennau palmwydd ac aethon nhw allan i’w gyfarfod, a dechreuon nhw weiddi: “Plîs achuba ef! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw Jehofa, Brenin Israel!”
14 Pan ddaeth Iesu o hyd i asyn ifanc, dyma’n eistedd arno, yn union fel mae’n ysgrifenedig:
15 “Paid ag ofni, ferch Seion. Edrycha! Mae dy frenin yn dod, yn eistedd ar ebol asen.”
16 Doedd ei ddisgyblion ddim yn deall y pethau hyn ar y pryd, ond pan gafodd Iesu ei ogoneddu, gwnaethon nhw gofio bod y pethau hyn wedi cael eu hysgrifennu amdano a’u bod nhw wedi gwneud y pethau hyn iddo.
17 Nawr roedd y dyrfa a oedd gydag ef pan wnaeth ef alw Lasarus allan o’r beddrod* a’i godi o’r meirw yn parhau i ddweud wrth eraill am yr hyn a ddigwyddodd.
18 Hefyd, dyma pam roedd y dyrfa wedi mynd i’w gyfarfod, oherwydd eu bod nhw wedi clywed ei fod wedi gwneud yr arwydd hwn.
19 Felly dywedodd y Phariseaid ymhlith ei gilydd: “Rydych chi’n gweld nad ydych chi’n llwyddo o gwbl. Edrychwch! Mae’r byd i gyd wedi mynd ar ei ôl.”
20 Nawr roedd ’na rai Groegiaid ymhlith y rhai a oedd wedi dod i addoli yn yr ŵyl.
21 Felly aeth y rhain at Philip, a oedd yn dod o Bethsaida yng Ngalilea, a dechreuon nhw ddweud wrtho: “Syr, rydyn ni eisiau gweld Iesu.”
22 Daeth Philip i ddweud wrth Andreas. Daeth Andreas a Philip i ddweud wrth Iesu.
23 Ond atebodd Iesu nhw: “Mae’r awr wedi dod i Fab y dyn gael ei ogoneddu.
24 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, oni bai fod hedyn gwenith yn syrthio i’r llawr ac yn marw, mae’n aros yn un hedyn yn unig; ond os yw’n marw, yna mae’n dwyn llawer o ffrwyth.
25 Mae pwy bynnag sy’n hoff o’i fywyd yn ei ddinistrio, ond bydd pwy bynnag sy’n casáu ei fywyd yn y byd hwn yn ei warchod ar gyfer bywyd tragwyddol.
26 Os oes rhywun eisiau fy ngwasanaethu i, gadewch iddo fy nilyn i, a lle bynnag ydw i, yno y bydd fy ngwas hefyd. Os oes rhywun eisiau fy ngwasanaethu i, bydd y Tad yn ei anrhydeddu ef.
27 Nawr rydw i* wedi cynhyrfu, a beth dylwn i ei ddweud? Dad, achuba fi rhag yr awr hon. Er hynny, dyma pam rydw i wedi dod i’r awr hon.
28 Dad, gogonedda dy enw.” Yna daeth llais allan o’r nef: “Rydw i wedi ei ogoneddu ac fe fydda i’n ei ogoneddu eto.”
29 Roedd y dyrfa a oedd yn sefyll yno wedi ei glywed a dechreuon nhw ddweud eu bod nhw wedi clywed taranau. Dywedodd eraill: “Mae angel wedi siarad ag ef.”
30 Atebodd Iesu: “Mae’r llais hwn wedi dod, nid er fy mwyn i, ond er eich mwyn chi.
31 Nawr mae’r byd hwn yn cael ei farnu; nawr bydd rheolwr y byd hwn yn cael ei fwrw allan.
32 Ond eto, os ydw i’n cael fy nghodi o’r ddaear, bydda i’n denu pob math o ddynion ata i fy hun.”
33 Mewn gwirionedd, roedd yn dweud hyn er mwyn dangos pa fath o farwolaeth roedd ef ar fin ei hwynebu.
34 Yna atebodd y dyrfa: “Gwnaethon ni glywed o’r Gyfraith y byddai’r Crist yn aros am byth. Sut gelli di ddweud bod rhaid i Fab y dyn gael ei godi i fyny? Pwy ydy Mab y dyn?”
35 Felly dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Bydd y goleuni yn eich plith am ychydig mwy o amser. Cerddwch tra bod y goleuni’n dal i fod gynnoch chi, fel na fydd y tywyllwch yn eich trechu; dydy pwy bynnag sy’n cerdded yn y tywyllwch ddim yn gwybod lle mae’n mynd.
36 Tra bod y goleuni gynnoch chi, dylech chi ymarfer ffydd yn y goleuni, er mwyn ichi ddod yn feibion y goleuni.”
Dywedodd Iesu’r pethau hyn ac yna fe aeth i ffwrdd a chuddio rhagddyn nhw.
37 Er ei fod wedi gwneud cymaint o arwyddion o’u blaenau nhw, doedden nhw ddim yn rhoi ffydd ynddo,
38 er mwyn i eiriau’r proffwyd Eseia gael eu cyflawni, a ddywedodd: “Jehofa, pwy sydd wedi rhoi ffydd yn yr hyn a glywson nhw gynnon ni?* Ac i bwy mae braich Jehofa wedi cael ei datgelu?”
39 Y rheswm nad oedden nhw’n gallu credu oedd bod Eseia eto wedi dweud:
40 “Mae ef wedi dallu eu llygaid a chaledu eu calonnau, fel na allan nhw weld â’u llygaid na deall â’u calonnau na throi’n ôl a chael eu hiacháu gen i.”
41 Dywedodd Eseia’r pethau hyn am y Crist oherwydd iddo weld ei ogoniant, ac fe siaradodd amdano ef.
42 Ac eto, gwnaeth hyd yn oed llawer o’r rheolwyr roi ffydd ynddo, ond fydden nhw ddim yn ei gydnabod oherwydd y Phariseaid, er mwyn iddyn nhw beidio â chael eu torri allan o’r synagog;
43 oherwydd roedden nhw’n caru gogoniant dynion yn fwy hyd yn oed na gogoniant Duw.
44 Ond, dyma Iesu’n gweiddi a dweud: “Mae pwy bynnag sy’n rhoi ffydd yno i yn rhoi ffydd, nid yno i yn unig, ond hefyd yn yr un a wnaeth fy anfon i;
45 ac mae pwy bynnag sy’n fy ngweld i yn gweld yr Un a wnaeth fy anfon i hefyd.
46 Rydw i wedi dod fel goleuni i mewn i’r byd, er mwyn i bawb sy’n rhoi ffydd yno i beidio ag aros yn y tywyllwch.
47 Ond os oes rhywun yn clywed y pethau rydw i’n eu dweud ac nid yw’n eu cadw nhw, dydw i ddim yn ei farnu; oherwydd fe ddes i, nid i farnu’r byd, ond i achub y byd.
48 Pwy bynnag sy’n fy niystyru i ac sydd ddim yn derbyn y pethau rydw i’n eu dweud, mae gan hwnnw rywun i’w farnu. Y gair rydw i wedi ei siarad ydy’r peth a fydd yn ei farnu ar y dydd olaf.
49 Oherwydd dydw i ddim wedi siarad ar fy liwt fy hun, ond mae’r Tad ei hun, yr un a wnaeth fy anfon i, wedi rhoi gorchymyn imi ynglŷn â beth i’w ddweud a beth i’w ddysgu.
50 Ac rydw i’n gwybod bod ei orchymyn ef yn golygu bywyd tragwyddol. Felly beth bynnag rydw i’n ei ddweud, rydw i’n siarad yn union fel mae’r Tad wedi dweud wrtho i.”
Troednodiadau
^ Hynny yw, pwys Rhufeinig, tua 327 g (11.5 oz).
^ Neu “beddrod coffa.”
^ Neu “mae fy enaid.”
^ Neu “yn ein hadroddiad?”