Yn Ôl Ioan 3:1-36
3 Roedd ’na Pharisead o’r enw Nicodemus, un o reolwyr yr Iddewon.
2 Daeth hwn ato yn y nos a dweud wrtho: “Rabbi, rydyn ni’n gwybod dy fod ti wedi dod oddi wrth Dduw fel athro, oherwydd does neb yn gallu gwneud yr arwyddion hyn rwyt ti’n eu gwneud oni bai fod Duw gydag ef.”
3 Atebodd Iesu drwy ddweud wrtho: “Yn wir rydw i’n dweud wrthot ti, oni bai fod rhywun yn cael ei eni eto,* ni all hwnnw weld Teyrnas Dduw.”
4 Dywedodd Nicodemus wrtho: “Sut gall dyn gael ei eni ac yntau’n hen? Ydy hi’n bosib iddo fynd i mewn i groth ei fam am yr ail dro a chael ei eni?”
5 Atebodd Iesu: “Yn wir rydw i’n dweud wrthot ti, oni bai fod rhywun yn cael ei eni o ddŵr ac o ysbryd, ni all fynd i mewn i Deyrnas Dduw.
6 Mae’r hyn sydd wedi cael ei eni o’r cnawd yn gnawd, ac mae’r hyn sydd wedi cael ei eni o’r ysbryd yn ysbryd.
7 Paid â rhyfeddu oherwydd imi ddweud wrthot ti: Mae’n rhaid i chi bobl gael eich geni eto.
8 Mae’r gwynt yn chwythu ble mae’n dymuno, ac rwyt ti’n clywed ei sŵn, ond dwyt ti ddim yn gwybod o ble mae’n dod nac i ble mae’n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi cael ei eni o’r ysbryd.”
9 Atebodd Nicodemus drwy ddweud wrtho: “Sut gall y pethau hyn fod?”
10 Atebodd Iesu: “Wyt ti’n athro yn Israel, ac eto ddim yn gwybod y pethau hyn?
11 Yn wir rydw i’n dweud wrthot ti, rydyn ni’n siarad am yr hyn rydyn ni’n ei wybod, ac rydyn ni’n tystiolaethu am yr hyn rydyn ni wedi ei weld, ond dydych chi ddim yn derbyn y dystiolaeth rydyn ni’n ei rhoi.
12 Os ydw i wedi sôn wrthoch chi am y pethau sydd ar y ddaear ac rydych chi’n dal i beidio â chredu, sut byddwch chi’n credu os ydw i’n sôn wrthoch chi am y pethau sydd yn y nef?
13 Ar ben hynny, does yr un dyn wedi mynd i fyny i’r nef heblaw am yr un sydd wedi dod i lawr o’r nef, Mab y dyn.
14 Ac yn union fel gwnaeth Moses godi’r neidr* yn yr anialwch, felly hefyd mae’n rhaid i Fab y dyn gael ei godi,
15 fel bydd pawb sy’n credu ynddo yn gallu cael bywyd tragwyddol.
16 “Oherwydd gwnaeth Duw garu’r byd gymaint nes iddo roi ei unig-anedig Fab, er mwyn i bawb sy’n ymarfer ffydd ynddo beidio â chael eu dinistrio ond cael bywyd tragwyddol.
17 Oherwydd ni wnaeth Duw anfon ei Fab i mewn i’r byd er mwyn iddo farnu’r byd, ond er mwyn i’r byd gael ei achub drwyddo ef.
18 Ni fydd unrhyw un sy’n ymarfer ffydd ynddo yn cael ei farnu. Mae pwy bynnag sydd ddim yn ymarfer ffydd wedi cael ei farnu’n barod, oherwydd dydy ef ddim wedi ymarfer ffydd yn enw Mab unig-anedig Duw.
19 Nawr dyma’r sail ar gyfer barnu: mae’r goleuni wedi dod i mewn i’r byd, ond mae dynion wedi caru’r tywyllwch yn hytrach na’r goleuni, oherwydd bod eu gweithredoedd yn ddrwg.
20 Oherwydd mae pwy bynnag sy’n mynd i’r arfer o wneud pethau ffiaidd yn casáu’r goleuni ac nid yw’n dod at y goleuni, fel na fydd ei weithredoedd yn gallu cael eu dinoethi.*
21 Ond mae pwy bynnag sy’n gwneud beth sy’n wir yn dod at y goleuni, er mwyn amlygu’r ffaith fod ei weithredoedd wedi cael eu gwneud yn unol â Duw.”
22 Ar ôl hyn, aeth Iesu a’i ddisgyblion i mewn i gefn gwlad Jwdea, ac fe dreuliodd gryn dipyn o amser yno gyda nhw ac roedd yn bedyddio.
23 Ond roedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon yn agos i Salim, oherwydd roedd ’na lawer iawn o ddŵr yno, ac roedd pobl yn dod ac yn cael eu bedyddio;
24 oherwydd doedd Ioan ddim wedi cael ei daflu i’r carchar eto.
25 Nawr gwnaeth disgyblion Ioan ddadlau gydag Iddew ynglŷn â’r ddefod o ymolchi seremonïol.
26 Felly daethon nhw at Ioan a dweud wrtho: “Rabbi, y dyn oedd gyda ti yr ochr draw i’r Iorddonen, yr un gwnest ti dystiolaethu amdano, edrycha, mae’r un yma’n bedyddio, ac mae pawb yn mynd ato.”
27 Atebodd Ioan: “Ni all dyn dderbyn unrhyw beth oni bai ei fod wedi cael ei roi iddo o’r nef.
28 Rydych chi’ch hunain yn gallu tystio fy mod i wedi dweud, ‘Nid fi yw’r Crist, ond rydw i wedi cael fy anfon o flaen yr un yna.’
29 Mae’r briodferch yn perthyn i’r priodfab. Ond mae ffrind y priodfab, pan fydd yn sefyll ac yn ei glywed, yn cael llawenydd mawr oherwydd llais y priodfab. Yn yr un modd rydw i wedi dod yn llawn llawenydd.
30 Mae’n rhaid i weinidogaeth yr un hwnnw barhau i gynyddu, ond mae’n rhaid i fy ngweinidogaeth i barhau i leihau.”
31 Mae’r un sy’n dod oddi uchod yn uwch na phawb arall. Mae’r un sy’n dod o’r ddaear yn siarad am bethau o’r ddaear gan ei fod yn dod o’r ddaear. Mae’r un sy’n dod o’r nef yn uwch na phawb arall.
32 Mae’n tystiolaethu am yr hyn mae wedi ei weld a’i glywed, ond does yr un dyn yn derbyn ei dystiolaeth.
33 Mae pwy bynnag sydd wedi derbyn ei dystiolaeth wedi cadarnhau bod Duw yn dweud y gwir.*
34 Oherwydd mae’r un y gwnaeth Duw ei anfon yn dweud geiriau Duw, gan fod Ef yn rhoi ei ysbryd yn hael.
35 Mae’r Tad yn caru’r Mab ac mae wedi rhoi pob peth yn ei law.
36 Mae gan yr un sy’n ymarfer ffydd yn y Mab fywyd tragwyddol; ni fydd yr un sy’n anufudd i’r Mab yn gweld bywyd, ond mae dicter Duw yn aros arno.
Troednodiadau
^ Neu efallai, “yn cael ei eni oddi uchod.”
^ Neu “y sarff.”
^ Neu “eu ceryddu.”
^ Neu “wedi rhoi ei sêl ar fod Duw yn dweud y gwir.”