Yn Ôl Marc 10:1-52
10 Cododd oddi yno a daeth i ffiniau Jwdea yr ochr draw i’r Iorddonen, ac eto daeth y tyrfaoedd ato. Yn ôl ei arfer, dechreuodd eu dysgu nhw unwaith eto.
2 A daeth Phariseaid ato, yn bwriadu ei roi o dan brawf, a gofynnon nhw a oedd hi’n gyfreithlon i ddyn ysgaru ei wraig.
3 Atebodd ef: “Beth gwnaeth Moses ei orchymyn ichi?”
4 Dywedon nhw: “Caniataodd Moses i ysgrifennu tystysgrif ysgariad a’i hysgaru hi.”
5 Ond dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Oherwydd eich bod chi’n galon-galed, ysgrifennodd ef y gorchymyn hwn ichi.
6 Ond, o ddechreuad y greadigaeth, ‘Fe wnaeth eu creu nhw’n wryw a benyw.
7 Am y rheswm hwn, bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam,
8 a bydd y ddau yn un cnawd,’ fel na fyddan nhw’n ddau bellach, ond yn un cnawd.
9 Felly, yr hyn mae Duw wedi ei uno, ni ddylai’r un dyn ei wahanu.”
10 Pan oedden nhw yn y tŷ unwaith eto, dechreuodd y disgyblion ei gwestiynu am hyn.
11 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Mae pwy bynnag sy’n ysgaru ei wraig ac sy’n priodi un arall yn godinebu yn ei herbyn hi,
12 a phetai dynes,* ar ôl iddi ysgaru ei gŵr, yn priodi rhywun arall, mae hi’n godinebu.”
13 Nawr dechreuodd pobl ddod â phlant bach ato er mwyn iddo gyffwrdd â nhw, ond gwnaeth y disgyblion eu ceryddu nhw.
14 O weld hyn, aeth Iesu’n ddig a dywedodd wrthyn nhw: “Gadewch i’r plant bach ddod ata i; peidiwch â cheisio eu stopio nhw, oherwydd mae Teyrnas Dduw yn perthyn i rai o’r fath.
15 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, pwy bynnag sydd ddim yn derbyn Teyrnas Dduw fel plentyn bach, ni fydd ef ar unrhyw gyfri yn mynd i mewn iddi.”
16 A dyma’n cymryd y plant yn ei freichiau ac yn dechrau eu bendithio nhw, gan osod ei ddwylo arnyn nhw.
17 Tra oedd yn mynd ar ei ffordd, dyma ddyn yn rhedeg ato ac yn syrthio ar ei bennau gliniau o’i flaen ac yn gofyn iddo: “Athro da, beth sy’n rhaid imi ei wneud i etifeddu bywyd tragwyddol?”
18 Dywedodd Iesu wrtho: “Pam rwyt ti’n fy ngalw i’n dda? Does neb yn dda heblaw am un, sef Duw.
19 Rwyt ti’n gwybod y gorchmynion: ‘Paid â llofruddio, paid â godinebu, paid â dwyn, paid â rhoi camdystiolaeth, paid â thwyllo, anrhydedda dy dad a dy fam.’”
20 Dywedodd y dyn wrtho: “Athro, rydw i wedi cadw’r rhain i gyd ers imi fod yn ifanc.”
21 Edrychodd Iesu arno a theimlodd gariad tuag ato a dywedodd, “Mae ’na un peth ar goll ynot ti: Dos, gwertha’r pethau sydd gen ti a rho i’r tlawd, a bydd gen ti drysor yn y nef; yna tyrd, dilyna fi.”
22 Ond teimlodd y dyn yn ddigalon oherwydd yr ateb ac fe aeth i ffwrdd yn hynod o drist, oherwydd roedd ganddo lawer o eiddo.
23 Ar ôl edrych o gwmpas, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Mor anodd fydd hi i’r rhai sydd ag arian fynd i mewn i Deyrnas Dduw!”
24 Ond roedd y disgyblion wedi synnu at ei eiriau. Yna atebodd Iesu: “Blant, mor anodd ydy hi i fynd i mewn i Deyrnas Dduw!
25 Mae’n haws i gamel fynd trwy dwll nodwydd nag i ddyn cyfoethog fynd i mewn i Deyrnas Dduw.”
26 Dyma nhw’n synnu’n fwy byth ac yn dweud wrtho:* “Pwy yn wir sy’n gallu cael ei achub?”
27 Gan edrych ym myw eu llygaid, dywedodd Iesu: “Gyda dynion mae’n amhosib, ond nid felly gyda Duw, oherwydd mae pob peth yn bosib gyda Duw.”
28 Dechreuodd Pedr ddweud wrtho: “Edrycha! Rydyn ni wedi gadael pob peth ac wedi dy ddilyn di.”
29 Dywedodd Iesu: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, does neb sydd wedi gadael tŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu gaeau er fy mwyn i ac er mwyn y newyddion da
30 na fydd yn cael canwaith mwy nawr yn ystod y cyfnod presennol—tai, brodyr, chwiorydd, mamau, plant, a chaeau, ynghyd ag erledigaeth—ac yn y system sydd i ddod,* fywyd tragwyddol.
31 Ond bydd llawer sy’n gyntaf yn olaf, a bydd yr olaf yn gyntaf.”
32 Nawr roedden nhw’n teithio ar hyd y ffordd i fyny i Jerwsalem, ac roedd Iesu’n mynd o’u blaenau nhw, ac roedden nhw’n rhyfeddu, ond dechreuodd y rhai a oedd yn dilyn deimlo’n ofnus. Unwaith eto, cymerodd ef y Deuddeg ar un ochr a dechreuodd ddweud wrthyn nhw am y pethau a oedd ar fin digwydd iddo:
33 “Edrychwch! Rydyn ni’n mynd i fyny i Jerwsalem, a bydd Mab y dyn yn cael ei roi yn nwylo’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion. Byddan nhw’n ei gondemnio i farwolaeth a’i drosglwyddo i ddynion y cenhedloedd,
34 a bydd y rheini’n ei wawdio ac yn poeri arno ac yn ei chwipio ac yn ei ladd, ond dri diwrnod wedyn fe fydd yn codi.”
35 Aeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, ato a dweud wrtho: “Athro, rydyn ni eisiau iti wneud beth bynnag rydyn ni’n ei ofyn gen ti.”
36 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Beth rydych chi eisiau imi ei wneud ichi?”
37 Atebon nhw: “Gad inni eistedd i lawr, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith, yn dy ogoniant.”
38 Ond dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi’n gofyn amdano. A allwch chi yfed o’r cwpan rydw i’n yfed ohono neu gael eich bedyddio â’r bedydd rydw i’n cael fy medyddio ag ef?”
39 Dyma nhw’n dweud wrtho: “Gallwn.” Ar hynny, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Fe fyddwch chi’n yfed o’r cwpan rydw i’n yfed ohono, ac fe fyddwch chi’n cael eich bedyddio â’r bedydd rydw i’n cael fy medyddio ag ef.
40 Ond, nid fi sy’n penderfynu pwy sy’n eistedd ar fy llaw dde ac ar fy llaw chwith, ond mae’n perthyn i’r rhai sydd wedi cael eu dewis.”
41 Pan glywodd y deg arall am hyn, aethon nhw’n ddig iawn wrth Iago ac Ioan.
42 Ond dyma Iesu’n eu galw nhw ato ac yn dweud wrthyn nhw: “Rydych chi’n gwybod bod y rhai sy’n ymddangos eu bod nhw’n* rheoli’r cenhedloedd yn ei lordio hi drostyn nhw a bod eu rhai blaengar yn dangos eu hawdurdod drostyn nhw.
43 Nid fel hyn y dylai hi fod yn eich plith chi; ond mae’n rhaid i bwy bynnag sydd eisiau bod yn fawr yn eich plith fod yn was ichi,
44 ac mae’n rhaid i bwy bynnag sydd eisiau bod yn gyntaf yn eich plith fod yn gaethwas i bawb.
45 Oherwydd fe ddaeth hyd yn oed Mab y dyn, nid i gael ei wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roi ei fywyd er mwyn talu’r pris i achub llawer o bobl.”*
46 Yna daethon nhw i mewn i Jericho. Ond wrth iddo ef a’i ddisgyblion a thyrfa sylweddol fynd allan o Jericho, roedd ’na gardotyn dall, Bartimeus (mab Timeus), yn eistedd wrth ymyl y ffordd.
47 Pan glywodd ef mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi a dweud: “Fab Dafydd, Iesu, bydda’n drugarog wrtho i!”
48 Ar hynny, dechreuodd llawer o bobl ei geryddu, a dweud wrtho am fod yn ddistaw, ond parhaodd i weiddi’n uwch byth: “Fab Dafydd, bydda’n drugarog wrtho i!”
49 Felly dyma Iesu’n stopio ac yn dweud: “Galwch ef ata i.” Felly gwnaethon nhw alw’r dyn dall, a dweud wrtho: “Bydda’n ddewr! Cod; mae’n galw arnat ti.”
50 Dyma’n taflu ei gôt i ffwrdd, yn neidio ar ei draed ac yn mynd at Iesu.
51 Yna dywedodd Iesu wrtho: “Beth rwyt ti eisiau imi ei wneud iti?” Dywedodd y dyn dall wrtho: “Rabboni,* gad imi gael fy ngolwg yn ôl.”
52 A dywedodd Iesu wrtho: “Dos. Mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” Ac ar unwaith fe gafodd ei olwg yn ôl, a dechreuodd ef ddilyn Iesu ar y ffordd.
Troednodiadau
^ Neu “menyw.”
^ Neu efallai, “wrth ei gilydd.”
^ Neu “sy’n cael eu hadnabod fel y rhai sy’n.”
^ Neu “i roi ei fywyd yn bridwerth dros lawer o bobl.”
^ Sy’n golygu “Athro.”