At y Rhufeiniaid 11:1-36

  • Gwrthod Israel ond nid yn llwyr (1-16)

  • Dameg yr olewydden (17-32)

  • Dyfnder doethineb Duw (33-36)

11  Felly rydw i’n gofyn: A wnaeth Duw wrthod ei bobl? Ddim o gwbl! Rydw innau hefyd yn Israeliad, disgynnydd i Abraham, o lwyth Benjamin. 2  Ni wrthododd Duw ei bobl, y rhai y gwnaeth ef eu dewis* yn gyntaf. Onid ydych chi’n gwybod beth mae’r ysgrythur yn ei ddweud am Elias a sut roedd ef yn ymbil ar Dduw yn erbyn Israel? 3  “Jehofa, maen nhw wedi lladd dy broffwydi; maen nhw wedi tynnu* i lawr dy allorau. Fi ydy’r unig un sydd ar ôl, ac nawr maen nhw’n ceisio fy lladd i.” 4  Ond sut mae Duw yn ei ateb? “Rydw i wedi cadw i mi fy hun 7,000 o ddynion sydd ddim wedi addoli* Baal.” 5  Mae’r un peth yn wir nawr. Mae ’na grŵp bach o rai* sydd wedi cael eu dewis* oherwydd caredigrwydd rhyfeddol Duw. 6  Nawr os ydy Duw wedi eu dewis nhw oherwydd ei garedigrwydd rhyfeddol, dydyn nhw ddim wedi cael eu dewis oherwydd eu bod nhw wedi gweithio amdano. Fel arall, ni fyddai ei garedigrwydd rhyfeddol yn wir yn garedigrwydd rhyfeddol bellach. 7  Beth, felly, gallwn ni ei ddweud? Ni chafodd pobl Israel yr union beth roedden nhw eisiau. Mae’r ychydig sydd wedi cael eu dewis wedi derbyn y peth hwnnw. Gwnaeth y gweddill wrthod ymateb.* 8  Mae’n union fel mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Mae Duw wedi eu rhoi nhw i gysgu’n drwm, fel nad ydy eu llygaid yn gweld ac fel nad ydy eu clustiau yn clywed, hyd at yr union ddiwrnod hwn.” 9  Hefyd, mae Dafydd yn dweud: “Gad i’w gwleddoedd* ddod yn fagl ac yn rhwyd fel y byddan nhw’n cwympo ac yn cael eu cosbi. 10  Gad i’w llygaid gael eu tywyllu fel na allan nhw weld, a gwna iddyn nhw blygu i lawr o dan lwyth trwm.” 11  Rydw i’n gofyn: Pan wnaeth yr Iddewon faglu, a wnaethon nhw syrthio i’w dinistr? Ddim o gwbl! Ond oherwydd eu cam gwag, mae pobl o genhedloedd eraill wedi cael achubiaeth, ac mae hyn yn gwneud i’r Iddewon deimlo’n genfigennus. 12  Mae eu cam gwag wedi dod â chyfoeth i’r byd, ac mae eu lleihad yn golygu mwy o gyfoeth i bobl o genhedloedd eraill. Felly, bydd y fendith yn fwy byth pan fydd eu nifer llawn* yn cael ei gasglu! 13  Nawr rydw i’n siarad â chi sy’n dod o genhedloedd eraill. Gan fy mod i’n apostol i’r cenhedloedd, rydw i’n gwerthfawrogi’n fawr* fy ngwasanaeth i Dduw.* 14  Rydw i hefyd yn gobeithio y galla i rywsut achosi i fy mhobl fy hun deimlo’n genfigennus o’r hyn rydych chi wedi ei dderbyn ac achub rhai ohonyn nhw. 15  Oherwydd eu bod nhw wedi cael eu bwrw allan, mae rhai yn y byd wedi dod yn ffrindiau i Dduw.* Os ydy ef nawr yn eu derbyn nhw* yn ôl, bydd fel petai’n dod â nhw yn ôl i fywyd o’r meirw. 16  Ar ben hynny, os ydy’r rhan o’r toes sy’n cael ei chymryd fel y blaenffrwyth yn sanctaidd, mae’r holl does hefyd yn sanctaidd. Ac os ydy gwreiddyn y goeden yn sanctaidd, mae’r canghennau hefyd yn sanctaidd. 17  Fodd bynnag, cafodd rhai o’r canghennau eu torri i ffwrdd o’r goeden. Yna fe gest ti dy impio ymhlith y canghennau eraill, er dy fod ti’n olewydden wyllt. Nawr rwyt ti’n rhannu maeth* gwreiddyn yr olewydden. 18  Ond paid â meddwl dy fod ti’n well na’r canghennau eraill. Os wyt ti’n meddwl dy fod ti’n well, cofia nad ti sy’n cynnal y gwreiddyn; mae’r gwreiddyn yn dy gynnal di. 19  Bydd rhai ohonoch chi’n dweud: “Cafodd canghennau eraill eu torri i ffwrdd er mwyn i mi gael fy impio i mewn.” 20  Mae hynny’n wir! Cawson nhw eu torri i ffwrdd oherwydd doedd ganddyn nhw ddim ffydd, ond rwyt ti’n aros lle rwyt ti oherwydd dy ffydd. Felly paid â bod yn falch; bydda’n ofnus. 21  Os na wnaeth Duw gadw’r canghennau naturiol, wyt ti’n meddwl bydd ef yn dy arbed di? 22  Rwyt ti’n gallu gweld bod Duw yn garedig ac yn llym. Mae’n llym tuag at y rhai a syrthiodd oherwydd nad oedd ganddyn nhw ffydd. Ond mae Duw yn garedig tuag atat ti cyn belled â dy fod ti’n parhau yn ei garedigrwydd. Fel arall, byddi dithau hefyd yn cael dy dorri i ffwrdd o’r goeden. 23  Ac os ydy’r Iddewon yn dechrau dangos ffydd, byddan nhw’n cael eu himpio yn ôl i mewn i’r goeden oherwydd bod Duw yn gallu eu himpio nhw yn ôl i mewn. 24  Fe gest ti dy dorri allan o’r olewydden wyllt ac, yn groes i natur, fe gest ti dy impio i mewn i olewydden yr ardd. Gymaint yn haws y bydd hi i’r canghennau naturiol gael eu himpio yn ôl i mewn i’w holewydden eu hunain! 25  Oherwydd rydw i eisiau ichi fod yn ymwybodol o’r gyfrinach gysegredig hon, frodyr, fel na fyddwch chi’n meddwl eich bod chi’n ddoeth: Mae rhan o Israel wedi dod yn ystyfnig hyd nes bod nifer llawn y bobl o genhedloedd eraill wedi dod i mewn, 26  a dyma sut bydd Israel gyfan yn cael ei hachub. Yn union fel mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Bydd yr achubwr* yn dod allan o Seion ac yn cael gwared ar bob drygioni o blith disgynyddion Jacob. 27  A dyma’r cyfamod bydda i’n ei wneud â nhw pan fydda i’n cymryd eu pechodau i ffwrdd.” 28  Yn wir, maen nhw’n* elynion i’r newyddion da, ac mae hyn wedi bod o fudd ichi. Ond fe gawson nhw eu dewis gan Dduw, ac mae’n eu caru nhw oherwydd eu cyndadau. 29  Ni fydd Duw yn difaru’r rhoddion mae wedi eu rhoi, ac ni fydd ef yn difaru galw’r rhai mae wedi eu galw. 30  Oherwydd roeddech chi’n arfer bod yn anufudd i Dduw, ond nawr mae ef wedi dangos trugaredd tuag atoch chi oherwydd anufudd-dod yr Iddewon. 31  Nawr, nhw ydy’r rhai anufudd, ac mae Duw wedi dangos trugaredd tuag atoch chi. Ond mae’n gallu dangos trugaredd tuag atyn nhwthau hefyd. 32  Oherwydd mae Duw wedi gwneud pob un ohonyn nhw yn garcharorion i anufudd-dod fel y gallai ef ddangos trugaredd tuag atyn nhw i gyd. 33  Mor ddwfn yw cyfoeth a doethineb a gwybodaeth Duw! Does neb yn gallu deall y ffordd mae ef yn barnu, a does neb yn gallu deall ei ffyrdd! 34  Oherwydd “pwy sydd wedi dod i adnabod meddwl Jehofa, a phwy sy’n gallu rhoi cyngor iddo?” 35  Neu, “pwy sydd wedi rhoi rhywbeth i Dduw yn gyntaf, fel bod angen i Dduw ei dalu yn ôl?” 36  Oherwydd mae pob peth yn dod oddi wrth Dduw a thrwyddo ef ac ar ei gyfer ef. Mae ef yn haeddu’r gogoniant am byth. Amen.

Troednodiadau

Neu “eu hadnabod.”
Llyth., “cloddio.”
Llyth., “plygu glin i.”
Neu “Mae ’na weddill.”
Neu “wedi cael eu dewis o blith yr Iddewon.”
Neu “gwrando.” Llyth., “Fe gafodd eu synhwyrau eu dylu.”
Llyth., “bwrdd.”
Neu “nifer llawn yr Iddewon a’r cenhedloedd.”
Neu “gogoneddu.”
Neu “fy ngweinidogaeth.”
Neu “wedi cymodi â Duw.”
Neu “yn derbyn rhai o’r Iddewon.”
Neu “cyfoeth.”
Neu “y gwaredwr.”
Neu “mae rhai o’r Iddewon yn.”