CÂN 12
Mawr Dduw, Jehofa
(Exodus 34:6, 7)
-
1. Mawr Dduw, Jehofa, nef yw’th breswylfa.
Barnau cyfiawn gennyt sy’;
Canu wnawn dy foliant di.
Crëwr y bydoedd, mawr dy weithredoedd—
Haeddu rwyt pob clod a bri.
-
2. Tad wyt sy’n caru’n dyner ei blantos;
At ‘Wrandawr gweddi’ trown,
Calon dyner Duw cyffrown.
Darllen, myfyrio, ceisiwn dy blesio;
Am dy help, mawr ddiolch rhown.
-
3. “Teilwng o’r clod, y nerth a’r anrhydedd
Wyt, ein Harglwydd Iôr a’n Duw,”
Cana nef a dynol-ryw.
Mawr Dduw Jehofa, craig wyt a noddfa,
Derbyn fawl dy weision triw.
(Gweler hefyd Deut. 32:4; Diar. 16:12; Math. 6:10; Dat. 4:11)