CÂN 16
Moliannwch Jehofa am ei Fab Eneiniog
-
1. Eneiniodd Jehofa ei Fab
Yn frenin arwrol gwiw.
Cyfiawnder yw sail ei frenhiniaeth—
Sefydlog fydd holl ddynol ryw.
(CYTGAN)
Rhowch glod i Jehofa’r Goruchaf
Am iddo eneinio ei Fab!
Fel defaid y praidd, adwaenom ei lais
A dilyn ein Bugail Da.
Moliannwch Jehofa’r Goruchaf!
Rhowch fawl i’w Eneiniog clodwiw!
Eneiniwyd y Crist yn Frenin o fri
Er clod i sanct enw Duw.
-
2. Dewiswyd priodferch i’r Mab,
Eneiniwyd nhw oll gan Dduw.
Fel cenedl cawsant eu geni.
Rheoli wnânt dros ddynol ryw.
(CYTGAN)
Rhowch glod i Jehofa’r Goruchaf
Am iddo eneinio ei Fab!
Fel defaid y praidd, adwaenom ei lais
A dilyn ein Bugail Da.
Moliannwch Jehofa’r Goruchaf!
Rhowch fawl i’w Eneiniog clodwiw!
Eneiniwyd y Crist yn Frenin o fri
Er clod i sanct enw Duw.
(Gweler hefyd Diar. 29:4; Esei. 66:7, 8; Ioan 10:4; Dat. 5:9, 10.)