CÂN 64
Cydweithio yn Llawen yn y Cynhaeaf
-
1. Mae’r cyfnod cynhaeaf yn brysur,
Mae pawb wrthi’n gweithio yn frwd.
Cawn ninnau ymuno â’r gweithwyr
Yn llawen, yn wynder y cnwd.
Cawn weithio ynghyd â’r angylion,
Ac Iesu yn arwain y maes.
Wrth weithio yn eiddgar â’n brodyr cawn
Lawenydd a fydd yn barhaus.
-
2. Ein cariad at Dduw a’n cymydog
Sy’n gwneud i ni fwrw ymlaen.
Heb lusgo ein traed awn i’r caeau,
Heb oedi pregethwn y gair.
Cydweithiwn â Duw wrth lafurio,
Llawenydd gawn ganddo wrth hau.
Mae gwaith y cynhaeaf am ddod i ben—
I’r diwedd gwnawn ddyfalbarhau.
(Gweler hefyd Math. 24:13; 1 Cor. 3:9; 2 Tim. 4:2.)