CÂN 65
Bwria Ymlaen!
-
1. Bwria ’mlaen gan lewyrchu goleuni’r gwir!
Dalier ati! Bob dydd, rhanna’r neges lân a phur.
Gwna dy orau i ddatgan ei Air yn glir.
Ymddirieda’n llwyr yn Nuw.
Yn y gwaith o bregethu parhawn,
Dilyn ôl traed Crist Iesu a wnawn.
Trown at Dduw, ac ei ysbryd a’i fendith gawn.
Ei gefnogaeth, cyson yw.
-
2. Bwria ’mlaen gan gyhoeddi’r newyddion da!
Dalier ati! Parha! Helpa bobl o bob math.
I Jehofa, ein Brenin, cawn seinio cân
Fel un côr ledled y byd.
Paid dal nôl. Amddiffynna y gwir!
Saf yn gryf ac yn ddewr! Dal dy dir!
Paid â dychryn na chilio mewn panics pur.
Brwydro’n ffyddlon wnawn ynghyd.
-
3. Bwrw ’mlaen wnawn gan gofio i alw’n ôl.
Newid dull, hogi sgìl,
gwneud ein gorau glas yw’n nod.
Daliwn ati! Pregethwn dros fryn a dôl,
Wrth aeddfedu yn y ffydd.
Ar ôl bwydo’r rhai newydd ar laeth,
Daliwn ati i roi iachus faeth.
Wrth ymdrechu a bwrw ymlaen â’r gwaith,
Ein goleuni, llachar fydd.
(Gweler hefyd Phil. 1:27; 3:16; Heb. 10:39.)