SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO
Amddiffyn Rhyddid Crefyddol Mewn Cymunedau Brodorol
MAI 1, 2021
Ymhlith y cannoedd o filiynau o bobl sy’n byw yn America Ladin, mae ’na filiynau sydd â’u hieithoedd ac arferion brodorol eu hunain. Mae llawer o’r brodorion cynhenid hyn yn frodyr a chwiorydd ysbrydol inni, sy’n gwerthfawrogi eu hetifeddiaeth ddiwylliannol. Er mwyn helpu pobl i ddysgu gwirionedd y Beibl, maen nhw’n cyfieithu a dosbarthu cyhoeddiadau Tystion Jehofa mewn dros 130 o ieithoedd brodorol America Ladin. a Eto, mae rhai ohonyn nhw wedi cael gwrthwynebiad am ddewis gwasanaethu Jehofa ac am wrthod cymryd rhan mewn arferion anysgrythurol sy’n gyffredin yn eu cymunedau. Sut mae eich cyfraniadau chi wedi cael eu defnyddio i’w helpu?
Cymorth i Ddychwelyd Adref
Ym Mecsico, gwnaeth ein brodyr a chwiorydd oedd yn byw mewn cymuned Hwitsiol yn nhalaith fynyddig Jalisco wrthod yn gwrtais i gymryd rhan mewn arferion crefyddol a oedd yn brifo eu cydwybod. b Ond mi wnaeth hyn ddigio rhai yn y gymuned. Ar Ragfyr 4, 2017, ymosododd torf ffyrnig ar grŵp o Dystion a sawl un arall oedd gyda nhw. Gorfododd y dorf iddyn nhw adael y gymuned, gan ddinistrio eu heiddo, a bygwth lladd unrhyw un oedd yn ceisio dod yn ôl.
Gofalodd Tystion o drefi cyfagos am anghenion y brodyr a chwiorydd. Ond beth oedden nhw’n gallu ei wneud i’w helpu nhw i ddychwelyd adref? “Doedd gynnon ni ddim digon o arian i dalu am gyfreithiwr,” esboniodd brawd o’r enw Agustín, “a doedden ni ddim yn gwybod lle i fynd am gyngor cyfreithiol.”
Gan fod hyn yn ymosodiad ar ryddid y brodyr i addoli, aeth cangen Canolbarth America ati’n syth i weithredu. Yn gyntaf, gofynnon nhw i swyddogion yr awdurdodau lleol i ymchwilio i’r troseddau hyn. Wedyn, cawson nhw ganiatâd Pwyllgor Cydlynwyr Corff Llywodraethol Tystion Jehofa i weithio gyda’r Adran Gyfreithiol yn y pencadlys ac i gychwyn achos cyfreithiol ar ran ein brodyr a chwiorydd Hwitsiol. Yn y pen draw daeth yr achos o flaen Goruchaf Lys y Genedl—llys barn uchaf Mecsico.
Daeth tîm rhyngwladol o gyfreithwyr at ei gilydd i baratoi ymresymiad clir a oedd yn esbonio’r canlynol: Yn yr un modd y mae’n rhaid i eraill barchu diwylliant cymunedau brodorol, mae’n rhaid i’r cymunedau brodorol eu hunain barchu ac amddiffyn rhyddid pob un o’u haelodau. Ni waeth lle maen nhw’n byw, mae gan bawb hawliau penodol.
Ar Orffennaf 8, 2020, dyfarnodd y Goruchaf Lys yn unfrydol o blaid Tystion Jehofa. Mi wnaethon nhw orchymyn y dylai pawb a oedd wedi cael eu hel o’r gymuned gael caniatâd i ddychwelyd i’w cartrefi. Mae Agustín, a ddyfynnwyd ynghynt, yn mynegi ei werthfawrogiad ef ac eraill fel hyn: “’Dyn ni mor ddiolchgar ac yn hapus am beth wnaeth y brodyr droston ni. Petasen nhw heb ein helpu ni, fydden ni ddim wedi gallu gwneud unrhyw beth.”
”Gwneud Cymaint Dros Cyn Lleied”
Yn y cyfamser, gwnaeth ein brodyr yn San Juan de Ilumán, pentref yn Ecwador sy’n gartref i lawer o frodorion cynhenid Dyffryn Otavalo, brofi gwrthwynebiad tebyg. Yn 2014, ar ôl llwyddo i gael pob trwydded oedd ei angen, dechreuon nhw adeiladu Neuadd y Deyrnas. Sut bynnag, daeth offeiriad gyda thorf o dros 100 o bobl a gorfodi’r brodyr i stopio adeiladu. Yna gwnaeth y gymuned orchymyn Tystion Jehofa i beidio cyfarfod â’i gilydd i addoli.
Daeth adrannau cyfreithiol cangen Ecwador a’r pencadlys at ei gilydd i amddiffyn y gynulleidfa rhag y trosedd hwn yn erbyn eu rhyddid i addoli. Aeth y brodyr â’r mater i’r llys. O ganlyniad i hyn stopiodd y gymuned wrthwynebu’r brodyr a gwnaethon nhw ganiatáu i’r gynulleidfa ailddechrau eu cyfarfodydd a gorffen adeiladu eu Neuadd y Deyrnas. Ond er mwyn amddiffyn hawliau ein brodyr yn y dyfodol, gofynnodd ein cynrychiolwyr i’r llysoedd uwch dyfarnu ar fater sylfaenol: A oes rhaid i gymunedau brodorol barchu hawliau dynol rhyngwladol?
Ar Orffennaf 16, 2020, gwnaeth Llys Cyfansoddiadol Ecwador, sef llys uchaf y wlad, glywed yr achos. Mi wnaeth brodyr sydd yn gyfreithwyr yn Ecwador gynrychioli’r gynulleidfa. Yn ogystal â hyn, gwnaeth pedwar o’n brodyr sy’n gyfreithwyr rhyngwladol profiadol annerch y llys. Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, siaradon nhw o wahanol wledydd drwy gyfrwng fideo-gynadledda. Dyma’r tro cyntaf i unrhyw lys ganiatáu i dîm cyfreithiol sy’n cynrychioli Tystion Jehofa yn fyd-eang i gyflwyno eu dadleuon fel hyn. c Cyfeiriodd y tîm at awdurdodau cyfreithiol rhyngwladol i gadarnhau nad ydy unigolion brodorol yn ildio eu hawliau dynol personol am y ffaith syml eu bod yn rhan o gymuned frodorol.
Mae ein brodyr yn Nyffryn Otavalo yn disgwyl yn eiddgar dyfarniad y Llys Cyfansoddiadol. Yn y cyfamser, mae’r cymorth maen nhw wedi ei gael wedi cyffwrdd â’u calonnau. Mae César, sy’n gwasanaethu fel henuriad yng Nghynulleidfa Citshwa Ilumán, yn dweud: “Dim ond Jehofa, drwy ei gyfundrefn, fyddai’n gwneud cymaint dros cyn lleied.”
Mae’r cyfreithwyr sy’n cymryd rhan yn yr achos i gyd yn Dystion Jehofa, ac maen nhw’n hapus i rannu eu harbenigedd cyfreithiol heb godi tâl. Eto, mae cofrestru’r achosion, paratoi ar eu cyfer, a chyflwyno nhw yn y llys yn cymryd amser ac arian. Treuliodd ein cyfreithwyr a brodyr eraill dros 380 o oriau yn paratoi dadleuon cyfreithiol a 240 awr arall yn cyfieithu dogfennau ar gyfer y gwrandawiad ym Mecsico. Treuliodd bron 40 o gyfreithwyr o bedwar ban y byd gannoedd o oriau ar achos Ecwador. Sut rydyn ni wedi gallu gofalu am gostau amddiffyn ein brodyr? Drwy’r cyfraniadau rydych chi wedi eu gwneud gan ddefnyddio’r gwahanol ddulliau sy’n cael eu hesbonio ar donate.ps8318.com. Diolch am eich haelioni.
a Mae Tystion Jehofa hefyd yn cyfieithu i lawer o ieithoedd eraill sy’n cael eu siarad yn America Ladin yn ogystal â sawl iaith arwyddion sy’n unigryw i’r rhanbarth.
b Mae’r bobl Hwitsiol hefyd yn cael eu hadnabod fel llwyth y Wicsáritari, a chyfeirir at eu hiaith fel Wicsárica.
c Er nad oedd ein cyfundrefn fyd-eang yn rhan o’r achos, caniataodd y barnwyr ein brodyr i ymddangos o flaen y llys fel amicus curiae, sef “cyfaill y llys.”