Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y RHAI SY’N GALARU

Ymdopi â Galar—Yr Hyn Gallwch Chi ei Wneud Heddiw

Ymdopi â Galar—Yr Hyn Gallwch Chi ei Wneud Heddiw

Os ydych chi’n edrych am gyngor ar sut i ymdrin â galar, mae ’na lu o syniadau—rhai yn fwy defnyddiol na’r lleill. Y rheswm pam, efallai, ydy bod pawb yn galaru mewn ffordd wahanol. Dydy’r hyn sy’n helpu un person ddim o reidrwydd yn helpu rhywun arall.

Er hynny, mae rhai awgrymiadau sylfaenol wedi bod o fudd i lawer. Yn aml, fe’u dyfynnwyd gan rai sy’n arbenigo mewn galar, ac maen nhw’n adleisio egwyddorion digyfnewid a geir mewn hen lyfr sy’n llawn doethineb, y Beibl.

1: DERBYNIWCH HELP GAN Y TEULU A FFRINDIAU

  • Yn ôl rhai arbenigwyr, dyma’r ffactor bwysicaf sy’n helpu rhywun i godi uwchlaw galar. Ond, ar adegau, rydych chi eisiau bod ar eich pen eich hun. Gallwch hyd yn oed deimlo’n flin tuag at y rhai sy’n ceisio eich helpu. Mae hyn yn normal.

  • Peidiwch â theimlo eich bod chi’n gorfod bod yng nghwmni pobl eraill o hyd, ond peidiwch chwaith â gwrthod cwmni rhai eraill yn llwyr. Wedi’r cwbl, gallwch fod eisiau eu cefnogaeth yn y dyfodol. Rhowch wybod i eraill mewn ffordd gariadus beth rydych chi’n ei angen a beth nad ydych chi.

  • Yn ôl eich anghenion, ceisiwch ddod o hyd i gydbwysedd rhwng bod gyda phobl eraill a bod ar eich pen eich hun.

EGWYDDOR: “Mae dau gyda’ i gilydd yn well nag un . . . Os bydd un yn syrthio, bydd y llall yn gallu ei helpu i godi.”—Pregethwr 4:9, 10.

2: CADWCH LYGAD AR EICH DEIET AC AR EICH YMARFER CORFF

  • Bydd deiet cytbwys yn eich helpu i ddelio â straen galar. Ceisiwch fwyta amrywiaeth o ffrwythau, llysiau, a phroteinau braster isel.

  • Yfwch ddigon o ddŵr a diodydd iachus eraill.

  • Os nad oes chwant bwyd arnoch chi, bwytewch lai o fwyd ond yn amlach. Gofynnwch hefyd i’ch doctor am sut y gallwch ychwanegu maeth at eich bwyd. *

  • Gall cerdded yn gyflym ac ymarfer corff leihau emosiynau negyddol, a rhoi’r amser ichi feddwl am eich colled neu roi’r cyfle ichi stopio meddwl am y peth.

EGWYDDOR: “Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain—maen nhw’n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw.”—Effesiaid 5:29.

3: CYSGWCH DDIGON

  • Mae cwsg bob amser yn bwysig, ond mae hyn yn enwedig yn wir yn achos rhai sy’n galaru, oherwydd bod galar yn achosi iddyn nhw flino yn fwy na’r arfer.

  • Byddwch yn ofalus o ran faint o gaffein ac alcohol rydych chi’n ei yfed, oherwydd y gall y ddau beth ddifetha eich cwsg.

EGWYDDOR: “‘Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.’ Ydy, mae fel ceisio rheoli’r gwynt!”—Pregethwr 4:6.

4: BYDDWCH YN HYBLYG

  • Cofiwch fod pawb yn galaru’n wahanol. Yn y pen draw, bydd yn rhaid dod o hyd i strategaeth sy’n gweithio i chi.

  • Mae llawer yn teimlo bod mynegi eu teimladau yn eu helpu, tra bo eraill yn dewis peidio â gwneud hynny. Mae arbenigwyr yn amrywio yn eu barn ynglŷn ag a ydy mynegi teimladau yn hanfodol ar gyfer ymdopi â galar. Os ydych chi’n teimlo’r angen i fwrw eich bol wrth rywun ond yn dal yn ôl rhag gwneud hynny, efallai y gallwch chi gymryd camau bach drwy fynegi rhai o’ch teimladau i ffrind agos.

  • Mae rhai pobl yn credu bod llefain yn eu helpu nhw i ddelio â galar, tra bo eraill wedi ymdopi er eu bod nhw’n llefain llai.

EGWYDDOR: “Dim ond y galon ei hun sy’n gwybod mor chwerw ydy hi.”—Diarhebion 14:10.

5: OSGOWCH ARFERION HUNANDDINISTRIOL

  • Mae rhai unigolion yn ceisio lleihau eu poen emosiynol drwy gamddefnyddio alcohol neu gyffuriau. Mae ceisio “dihangfa” o’r fath yn hunanddinistriol ac mae’r rhyddhad yn fyr ei barhad ac yn dod â chanlyniadau negyddol dybryd. Ceisiwch ffyrdd llai niweidiol i dawelu eich pryderon.

EGWYDDOR: “Gadewch i ni lanhau’n hunain o unrhyw beth allai’n gwneud ni’n aflan.”—2 Corinthiaid 7:1.

6: TREFNWCH EICH AMSER YN GYTBWYS

  • Un peth ymarferol ydy treulio amser yn gwneud rhywbeth sy’n eich helpu chi i feddwl llai am y golled er mwyn peidio â chanolbwyntio o hyd ar y boen.

  • Gall rhyddhad dros dro ddod o atgyfnerthu’r berthynas rhyngoch chi a’ch ffrindiau neu o gael ffrindiau newydd, o ddysgu sgiliau newydd, neu o gael digon o amser hamdden.

  • Wrth i amser fynd heibio, efallai y byddwch chi’n sylwi bod y cyfnodau i ffwrdd o’r broses alaru yn dod yn hirach ac yn fwy aml—rhan naturiol o’r broses o wella.

EGWYDDOR: “Mae amser wedi ei bennu i bopeth, . . . amser i wylo ac amser i chwerthin, amser i alaru ac amser i ddawnsio.”—Pregethwr 3:1, 4.

7: CADWCH DREFN YN EICH BYWYD

  • Cyn gynted ag y bo modd, pwysig ydy ailgydio yn eich trefn bob dydd.

  • Pan fyddwch chi’n cadw at eich trefn arferol o ran cysgu, gweithio, a gweithgareddau eraill, bydd eich bywyd yn dod yn fwy normal unwaith eto.

  • Gall cadw eich hun yn brysur mewn gweithgareddau positif helpu i liniaru tipyn bach ar y boen emosiynol.

EGWYDDOR: “Pan mae Duw wedi llenwi ei fywyd â llawenydd, dydy rhywun felly ddim yn poeni rhyw lawer fod bywyd mor fyr.”—Pregethwr 5:20.

8: PEIDIWCH Â GWNEUD PENDERFYNIADAU MAWR YN RHY GYNNAR

  • Mae llawer sydd wedi gwneud penderfyniadau mawr yn fuan ar ôl colli rhywun annwyl yn eu difaru yn y pen draw.

  • Os yw’n bosib, pam na wnewch chi ddisgwyl am gyfnod rhesymol o amser cyn symud tŷ, newid swydd, neu gael gwared ar eiddo personol eich anwylyn.

EGWYDDOR: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled; ond dydy brys gwyllt ddim ond yn arwain i dlodi.”—Diarhebion 21:5.

9: COFIWCH EICH ANWYLYN

  • Mae llawer sy’n galaru yn teimlo ei bod hi’n fuddiol i wneud pethau sy’n cadw’r cof am y sawl sydd wedi marw yn fyw.

  • Efallai y byddwch chi’n cael cysur o gasglu lluniau, neu o gadw dyddiadur o’r digwyddiadau a’r hanesion yr hoffech chi eu cofio.

  • Cadwch eitemau sy’n achosi ichi hel atgofion melys ac ewch trwyddyn nhw wedyn pan fyddwch chi’n teimlo’n barod.

EGWYDDOR: “Cofiwch y dyddiau a fu.”—Deuteronomium 32:7.

10: EWCH I FFWRDD

  • Efallai y gallwch chi feddwl am fynd ar eich gwyliau.

  • Os nad ydy gwyliau hir yn ymarferol bosib, efallai y gallwch chi wneud rhywbeth pleserus am ddiwrnod neu ddau, fel cerdded, ymweld ag amgueddfa, neu fynd am dro yn y car.

  • Gall hyd yn oed newid bach yn eich trefn arferol wneud byd o les ichi.

EGWYDDOR: “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.”—Marc 6:31.

11: HELPWCH ERAILL

  • Cofiwch fod unrhyw amser rydych chi’n ei dreulio yn helpu pobl eraill yn eich helpu chithau i deimlo’n well.

  • Efallai ei bod hi’n syniad i helpu’r rhai sydd hefyd yn galaru am eich anwylyn, fel eich ffrindiau neu’ch teulu oherwydd eich bod chi’n deall eu galar ac yn cydymdeimlo.

  • Gall cefnogi a chysuro eraill eich helpu i adennill eich llawenydd ynghyd â rhoi pwrpas unwaith eto i’ch bywyd.

EGWYDDOR: “Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.”—Actau 20:35.

12: AILYSTYRIWCH EICH BLAENORIAETHAU

  • Gall galar eich helpu i gael goleuni pellach ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig mewn bywyd.

  • Manteisiwch ar bob cyfle i asesu sut rydych chi’n byw eich bywyd.

  • Yn ôl yr angen, rhowch sylw i sut rydych chi’n blaenoriaethu.

EGWYDDOR: “Mae’n well mynd i gartref lle mae pawb yn galaru nag i dŷ lle mae pawb yn cael parti. Marw fydd y diwedd i bawb, a dylai pobl ystyried hynny.”—Pregethwr 7:2.

Mewn gwirionedd, ni fydd unrhyw beth yn cael gwared yn llwyr ar y boen. Fodd bynnag, mae llawer sydd wedi dioddef profedigaeth yn gallu tystio i’r ffaith fod cymryd camau cadarnhaol, fel y rhai a restrwyd yn yr erthygl hon, wedi eu helpu i ddod o hyd i gysur. Wrth gwrs, dydy hon ddim yn rhestr hollgynhwysfawr. Ond os ceisiwch roi ar waith rai o’r awgrymiadau hyn, efallai y byddan nhw’n gallu dod â rhywfaint o ryddhad ichi.

^ Par. 13 Dydy Deffrwch! ddim yn ceisio hyrwyddo unrhyw driniaeth feddygol benodol.