Neidio i'r cynnwys

Sut Mae’r Beibl Wedi Goroesi

Sut Mae’r Beibl Wedi Goroesi

Sut Mae’r Beibl Wedi Goroesi

Mae’r ffaith bod y Beibl wedi goroesi hyd heddiw yn ddim llai na gwyrth. Cafodd ei gwblhau fwy na 1,900 o flynyddoedd yn ôl. Ysgrifennwyd ar ddeunyddiau sydd ddim yn para am byth, sef papyrws wedi ei wneud o blanhigion, a memrwn sydd wedi ei wneud o groen anifeiliaid. Ysgrifennwyd y Beibl yn wreiddiol mewn ieithoedd nad yw llawer o bobl heddiw yn eu siarad. Ar ben hynny, roedd dynion pwerus, gan gynnwys ymerawdwyr ac arweinwyr crefyddol, yn gwneud eu gorau i’w ddinistrio.

SUT mae’r llyfr rhyfeddol hwn, y llyfr enwocaf yn y byd, wedi goroesi? Ystyriwch ddau reswm.

Y Nifer o Gopïau

Roedd ceidwaid llawysgrifau cynnar y Beibl, yr Israeliaid, yn ofalus iawn i gadw’r sgroliau gwreiddiol a gwneud llawer o gopïau. Er enghraifft, roedd brenhinoedd Israel i wneud copi o’r Gyfraith, gan gopïo’r un oedd ym meddiant yr offeiriaid o lwyth Lefi.—Deuteronomium 17:18.

Roedd llawer o’r Israeliaid yn hoffi darllen yr Ysgrythurau, gan eu hystyried yn Air Duw. Roedd y testunau’n cael eu copïo’n ofalus iawn gan gopïwyr medrus. Enw un o’r copïwyr galluog hyn oedd Esra, a oedd yn “arbenigwr yn y Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, i Moses.” (Esra 7:6) Roedd y Masoretiaid, a oedd yn copïo’r Ysgrythurau Hebraeg, neu’r “Hen Destament,” rhwng y chweched a’r ddegfed ganrif OG, yn arfer cyfrif pob llythyren yn y testun er mwyn osgoi gwallau.

Er enghraifft, yn 168 COG, ceisiodd y Brenin Antiochus IV ddinistrio pob copi o’r Ysgrythurau Hebraeg ym Mhalesteina. Mae un llyfr hanes Iddewig yn nodi: “Torrwyd llyfrau’r gyfraith a ddarganfuwyd yn ddarnau, a’u llosgi â thân.” Dywed y Jewish Encyclopedia: “Aeth y swyddogion ati i gyflawni eu tasg yn drylwyr ac yn llym, . . . gan ladd unrhyw un oedd ag un o’r llyfrau sanctaidd yn eu meddiant.” Ond roedd copïau o’r Ysgrythurau yn goroesi ymhlith yr Iddewon ym Mhalesteina a’r Iddewon a oedd yn byw mewn gwledydd eraill.

Ar ôl i ysgrifenwyr yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, neu’r “Testament Newydd,” orffen eu gwaith, roedd eraill yn gwneud copïau o’r llythyrau, proffwydoliaethau, a’r cofnodion hanesyddol ysbrydoledig. Er enghraifft, ysgrifennodd Ioan ei Efengyl yng nghyffiniau Effesus. Ond mae darn bach o gopi o’i Efengyl wedi cael ei ddarganfod gannoedd o filltiroedd i ffwrdd yn yr Aifft. Mae arbenigwyr yn dweud bod y copi hwn wedi ei wneud lai na 50 mlynedd ar ôl i Ioan ysgrifennu ei Efengyl. Mae hyn yn dangos bod copïau o’r testunau wedi cyrraedd Cristnogion mewn gwledydd pell yn weddol fuan.

Rheswm arall i’r Beibl oroesi oedd ei ddosbarthiad eang yn y canrifoedd ar ôl amser Crist. Er enghraifft, mae haneswyr yn disgrifio’r Ymerawdwr Rhufeinig Diocletian, ym mis Chwefror, 303 OG, yn gwylio ei filwyr yn malu drws eglwys a llosgi copïau o’r Ysgrythurau. Roedd Diocletian yn meddwl y gallai gael gwared ar Gristnogaeth drwy ddinistrio ei hysgrifau sanctaidd. Y diwrnod wedyn, gorchmynnodd i bob copi o’r Beibl gael ei losgi’n gyhoeddus drwy’r Ymerodraeth i gyd. Serch hynny, fe wnaeth gopïau oroesi, a chafodd copïau eraill eu gwneud. Yn wir, mae darnau hir o ddau gopi o’r Beibl yn yr iaith Roeg, sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod ychydig ar ôl ymgyrch Diocletian, yn dal yn bodoli heddiw. Mae un yn Rhufain, a’r llall yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain.

Er nad oes neb wedi darganfod llawysgrifau gwreiddiol y Beibl hyd yn hyn, mae miloedd o gopïau cyfan, neu rannau ohono, wedi goroesi i’n hamser ni. Mae rhai yn hen iawn. A yw’r neges yn y testunau gwreiddiol wedi newid wrth gael eu copïo? Dywedodd yr ysgolhaig W. H. Green am yr Ysgrythurau Hebraeg: “Diogel yw dweud nad yw’r un llyfr hynafol arall wedi ei gopïo mor gywir.” Ynglŷn â’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol, ysgrifennodd Sir Frederic Kenyon, awdurdod blaenllaw ar lawysgrifau’r Beibl: “Mae’r bwlch rhwng dyddiad ysgrifennu’r testunau gwreiddiol a dyddiad y llawysgrifau cynharach sydd gennym mor fach fel y gallwn ei ddiystyru, ac mae unrhyw sail dros gredu bod yr Ysgrythurau heddiw yn wahanol i’r ysgrifau gwreiddiol wedi ei dileu. Gallwn ddweud bod dilysrwydd a chywirdeb cyffredinol y Testament Newydd wedi eu cadarnhau y tu hwnt i amheuaeth.” Dywedodd hefyd: “Gallwn ddweud yn hyderus fod cywirdeb sylfaenol testun y Beibl yn sicr. . . . Ni ellir dweud hyn am unrhyw lyfr hynafol arall yn y byd.”

Cyfieithu’r Beibl

Rheswm arall bod y Beibl ar gael i fwy o bobl nag unrhyw lyfr arall yw’r ffaith ei fod wedi ei gyfieithu i gynifer o ieithoedd. Mae hyn yn dangos bod Duw eisiau i bobl o bob cenedl ac iaith ddod i’w adnabod a’i addoli “fel y mae mewn gwirionedd.”​—Ioan 4:​23, 24; Micha 4:2.

Y cyfieithiad cyntaf o’r Ysgrythurau Hebraeg oedd cyfieithiad y Septuagint i’r iaith Roeg. Cafodd ei gwblhau tua dwy ganrif cyn amser Iesu Grist, ar gyfer Iddewon y tu allan i Balesteina a oedd yn siarad yr iaith Roeg. Cyfieithwyd y Beibl cyfan, gan gynnwys yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, i nifer fawr o ieithoedd o fewn ychydig ganrifoedd o’i gwblhau. Ond yn ddiweddarach, yn lle annog pobl i ddarllen Gair Duw, roedd brenhinoedd a hyd yn oed offeiriaid yn gwneud eu gorau i rwystro pobl rhag ei ddarllen. Roedden nhw’n gwrthod caniatáu cyfieithu’r Beibl i ieithoedd y bobl gyffredin er mwyn atal y bobl rhag dysgu’r gwir am Dduw.

Sut bynnag, roedd dynion dewr yn fodlon herio’r Eglwys a’r Wladwriaeth a mentro eu bywydau i gyfieithu’r Beibl i’r ieithoedd roedd pobl gyffredin yn eu siarad. Er enghraifft, ym 1530, fe wnaeth William Tyndale, Sais a gafodd ei addysg ym mhrifysgol Rhydychen gyfieithu pum lyfr cyntaf yr Ysgrythurau Hebraeg. Tyndale oedd y dyn cyntaf i gyfieithu’r Beibl yn uniongyrchol o’r Hebraeg i’r Saesneg, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn. Tyndale hefyd oedd y cyfieithydd Saesneg cyntaf i ddefnyddio enw Jehofa. Esiampl arall yw’r ysgolhaig Casiodoro de Reina o Sbaen a gafodd ei erlid gan yr Eglwys Gatholig. Roedd ei fywyd mewn peryg cyson wrth iddo weithio ar un cyfieithiad cynnar o’r Beibl i Sbaeneg. Roedd yn rhaid iddo ffoi i Loegr, yr Almaen, Ffrainc, yr Iseldiroedd, a’r Swistir wrth geisio cwblhau ei gyfieithiad. *

Heddiw, mae’r Beibl yn dal i gael ei gyfieithu i fwy o ieithoedd nag erioed, ac mae miliynau o gopïau yn cael eu cyhoeddi. Mae’r ffaith bod y Beibl wedi goroesi a’i fod ar gael i fwy o bobl nag unrhyw lyfr arall, yn dangos bod geiriau’r apostol Pedr yn wir: “Mae’r glaswellt yn gwywo a’r blodyn yn syrthio, ond mae neges yr Arglwydd yn aros am byth.”—1 Pedr 1:24, 25.

[Troednodyn]

^ Par. 14 Cafodd cyfieithiad Reina ei gyhoeddi ym 1569 a’i ddiwygio gan Cipriano de Valera ym 1602.

[Blwch/Lluniau]

PA GYFIEITHIAD DYLWN I EI DDARLLEN?

Mewn llawer o ieithoedd, mae sawl cyfieithiad o’r Beibl ar gael. Mae’r iaith yn rhai o’r cyfieithiadau hyn yn henffasiwn ac yn anodd ei deall. Mae eraill yn gyfieithiadau llac, wedi eu haralleirio; mae’r rhain yn hawdd eu darllen ond yn llai cywir. Mae eraill eto yn gyfieithiadau llythrennol, air am air bron.

Cafodd cyfieithiad Saesneg o’r New World Translation of the Holy Scriptures, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa, ei baratoi o’r ieithoedd gwreiddiol gan bwyllgor dienw. Yn ei dro, mae’r cyfieithiad hwn wedi bod yn brif destun ar gyfer cyfieithiadau i lawer o ieithoedd eraill. Sut bynnag, roedd cyfieithwyr yr ieithoedd hynny’n ofalus i gymharu’r testunau yn yr ieithoedd gwreiddiol. Mae’r New World Translation yn dilyn yr ieithoedd gwreiddiol yn agos, lle mae’n bosib gwneud hynny a chadw’r ystyr yn glir. Nod y cyfieithwyr yw gwneud y Beibl yr un mor hawdd i’w ddeall heddiw ag yr oedd y testun gwreiddiol i ddarllenwyr yn amser y Beibl.

Mae rhai arbenigwyr wedi cymharu cyfieithiadau modern o’r Beibl​—gan gynnwys y New World Translation​—i weld ba mor gywir ydyn nhw. Un o’r ysgolheigion hyn yw Jason David BeDuhn, uwch ddarlithydd astudiaethau crefyddol ym Mhrifysgol Gogledd Arizona yn yr Unol Daleithiau. Yn 2003, cyhoeddodd astudiaeth 200-tudalen sydd yn cymharu naw “o’r Beiblau mwyaf poblogaidd yn yr iaith Saesneg.” * Edrychodd yr astudiaeth ar nifer o destunau dadleuol yn y Beibl, gan mai “dyna le mae rhagfarn yn fwy tueddol o effeithio ar y cyfieithu.” Ym mhob achos, cymharodd y testun Groeg â’r trosiad yn y cyfieithiadau Saesneg, gan chwilio am unrhyw ymdrechion i newid yr ystyr. Beth oedd ei gasgliad?

Mae BeDuhn yn nodi bod tuedd i bobl yn gyffredinol, ac i lawer o ysgolheigion Beiblaidd, dybio mai dylanwad safbwynt crefyddol y cyfieithwyr sy’n gyfrifol am y gwahaniaethau rhwng y New World Translation (NW) a chyfieithiadau eraill. Sut bynnag, mae’n dweud: “Mae’r rhan fwyaf o’r gwahaniaethau yn deillio o gywirdeb NW fel cyfieithiad llythrennol a cheidwadol.” Er bod BeDuhn yn anghytuno â rhai trosiadau yn y New World Translation, y mae’n ei alw’n gyfieithiad “hynod o dda,” gan ddweud mai hwn yw’r “un mwyaf cywir o’r cyfieithiadau a gymharwyd.”

Dywedodd Dr Benjamin Kedar, ysgolhaig Hebraeg yn Israel, rywbeth tebyg am y New World Translation. Ym 1989, dywedodd: “Mae’r cyfieithiad hwn yn ymdrech onest i ddeall y testun mewn ffordd sydd mor gywir â phosib. . . . Nid ydw i erioed wedi gweld unrhyw ymdrech yn y New World Translation i roi rhywbeth yn y testun sydd heb fod yno.”

Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Beth yw fy nod wrth ddarllen y Beibl? A ydw i eisiau Beibl sy’n hawdd i’w ddarllen ond sydd heb fod mor gywir? Neu ydw i am ddarllen cyfieithiad sy’n adlewyrchu’r testun ysbrydoledig gwreiddiol mor agos â phosib?’ (2 Pedr 1:20, 21) Bydd eich atebion i’r cwestiynau hyn yn eich helpu chi i ddewis cyfieithiad.

[Troednodyn]

^ Par. 22 Y cyfieithiadau eraill, yn ogystal â’r New World Translation, oedd The Amplified New Testament, The Living Bible, The New American Bible With Revised New Testament, New American Standard Bible, The Holy Bible​—New International Version, The New Revised Standard Version, The Bible in Today’s English Version, a’r King James Version.

[Llun]

Mae’r “New World Translation of the Holy Scriptures” ar gael mewn llawer o ieithoedd

[Llun]

Llawysgrifau Masoretaidd

[Llun]

Dernyn sy’n cynnwys Luc 12:7, “. . . Peidiwch ag ofni; yr ydych yn werth mwy na llawer o adar y to”

[Llinellau Cydnabod Lluniau]

Foreground page: National Library of Russia, St. Petersburg; second and third: Bibelmuseum, Münster; background: © The Trustees of the Chester Beatty Library, Dublin