Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gofyn am Help

Gofyn am Help

Gofyn am Help

“Pan fydd rhywun yn ymosod, mae dau yn fwy tebygol o’i rwystro nag un.”​—Pregethwr 4:​12.

RYDYN ni’n fwy tebygol o lwyddo yn erbyn gelyn gyda chymorth pobl eraill​—pwy bynnag neu beth bynnag yw’r gelyn hwnnw. Felly, os ydych chi am stopio ysmygu, peth da yw gofyn am help gan deulu a ffrindiau.

Gallwch ofyn i bobl sydd wedi stopio ysmygu eich helpu chi gan eu bod nhw’n deall eich heriau a’ch teimladau. “Roedd cymorth gan bobl eraill yn hynod o werthfawr i mi,” meddai Torben, Cristion o Ddenmarc. Mae Abraham sy’n byw yn India yn dweud: “Roedd y cariad a ddangosodd fy nheulu a fy nghyd-Gristnogion tuag ata i wedi fy helpu i stopio ysmygu.” Ond weithiau mae angen mwy na chymorth teulu a ffrindiau.

“Roeddwn i’n ysmygu am 27 mlynedd,” meddai dyn o’r enw Bhagwandas, “ond, ar ôl dysgu beth mae’r Beibl yn ei ddweud am arferion aflan, penderfynais stopio ysmygu. Ceisiais ysmygu llai o sigaréts. Newidiais fy ffrindiau. Ac es i am help proffesiynol. Ond, nid oedd dim byd yn gweithio. Un noson, wnes i dywallt fy nghalon i Jehofa mewn gweddi ac erfyn arno am help. Yna, o’r diwedd, llwyddais!”

Mae’n bwysig hefyd eich bod chi’n paratoi ar gyfer yr heriau byddech chi’n debygol o’u hwynebu. Beth yw’r rhain? Bydd yr erthygl nesaf yn egluro.

[Blwch]

A DDYLECH CHI DDEFNYDDIO MEDDYGINIAETH?

Mae llawer o bobl yn defnyddio patches nicotîn er mwyn ceisio rhoi’r gorau i ysmygu. Ond cyn dechrau ar y llwybr hwnnw, ystyriwch y cwestiynau canlynol:

Beth yw’r buddion? Mae llawer o driniaethau yn gwneud hi’n haws ichi stopio ysmygu drwy leihau symptomau rhoi’r gorau i ysmygu. Ond nid yw pawb yn cytuno bod y triniaethau hyn yn effeithiol yn y tymor hir.

Beth yw’r peryglon? Mae gan rai meddyginiaethau sgil-effeithiau bosib sef cyfog, iselder ysbryd, a meddyliau hunanladdol. Cofiwch hefyd fod y triniaethau hyn yn ffordd arall o dderbyn nicotîn ynghyd â’i beryglon meddygol. Mewn gwirionedd, mae’r un sy’n eu defnyddio yn dal yn gaeth i nicotîn.

Beth arall sydd ar gael? Yn ôl un arolwg, roedd 88 y cant o bobl a oedd wedi rhoi’r gorau i ysmygu wedi stopio yn sydyn heb ddefnyddio meddyginiaeth.