Pwy Ydy Duw?
Mae llawer o bobl yn dweud eu bod nhw’n credu yn Nuw. Ond petasech chi’n gofyn pwy ydy Duw, byddech chi’n cael atebion gwahanol. I rai, mae Duw yn farnwr llym sy’n awyddus i gosbi pobl am eu gweithredoedd drwg. I eraill, mae Duw bob amser yn gariadus ac yn maddau i bawb ni waeth beth maen nhw’n ei wneud. Mae eraill yn credu bod Duw yn bell i ffwrdd ac nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb ynon ni. Yn wyneb y fath wahaniaeth barn, mae llawer wedi dod i’r casgliad nad oes modd adnabod Duw o gwbl.
Ydy hi’n bwysig? Ydy. Mae dod i adnabod Duw yn gallu rhoi ystyr i’n bywydau. (Actau 17:26-28) Drwy nesáu at Dduw, byddwch yn teimlo ei gariad ac yn cael ei help. (Iago 4:8) Yn y pen draw, mae dod i adnabod Duw yn gallu arwain i fywyd tragwyddol.—Ioan 17:3.
Sut gallwch chi ddod i adnabod Duw? Meddyliwch am un o’ch ffrindiau agosaf. Sut daethoch chi’n ffrindiau? Mae’n debyg eich bod chi wedi dechrau drwy ddod i wybod ei enw, ac yna darganfod ei bersonoliaeth, ei gynlluniau, ei hoff a chas bethau, a mwy. Roeddech chi’n cael eich denu ato drwy ddysgu amdano.
Mewn ffordd debyg, gallwn ni ddod i adnabod Duw drwy ystyried y canlynol:
Pwrpas y cylchgrawn hwn ydy ateb y cwestiynau hynny o’r Beibl. Bydd yr erthyglau’n eich helpu chi i ddysgu, nid yn unig pwy ydy Duw, ond hefyd sut bydd perthynas ag ef yn eich helpu.