Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ennill y Frwydr i Reoli Dy Feddwl

Ennill y Frwydr i Reoli Dy Feddwl

MAE gelyn yn ymosod arnat ti! A’r gelyn hwnnw yw Satan, ac mae’n defnyddio arf pwerus dros ben. Pwrpas yr arf arbennig hwn yw ymosod ar dy feddwl, nid dy gorff. Sôn am beth rydyn ni? Propaganda!

Roedd Paul yn gwybod bod propaganda Satan yn beryglus iawn. Ond doedd pob Cristion ddim yn ymwybodol o’r perygl. Er enghraifft, mae hi’n ymddangos bod rhai yng Nghorinth wedi meddwl eu bod nhw mor gryf yn y gwirionedd fel na fyddan nhw byth yn cael eu twyllo gan Satan. (1 Cor. 10:12) Dyna pam y rhoddodd Paul y rhybudd hwn: “Dw i ofn i chi gael eich llygru a’ch denu i ffwrdd o’ch ymroddiad llwyr iddo, yn union fel y cafodd Efa ei thwyllo gan yr hen sarff gyfrwys.”—2 Cor. 11:3.

Dangos mae geiriau Paul pa mor bwysig yw peidio â bod yn orhyderus. Er mwyn ennill y frwydr yn erbyn propaganda Satan, mae’n rhaid iti gydnabod pa mor beryglus yw’r dacteg hon ac yna sicrhau dy fod ti’n dy amddiffyn dy hun.

PA MOR BERYGLUS YDY PROPAGANDA?

Yn y cyd-destun hwn, propaganda yw gwybodaeth anghywir a chamarweiniol a ddefnyddir i dwyllo pobl neu i reoli’r ffordd maen nhw’n meddwl ac yn ymddwyn. Yn ôl y llyfr Propaganda and Persuasion, mae propaganda yn “anfoesegol, yn niweidiol, ac yn annheg.” Diffiniad rhai pobl o’r gair ydy “celwydd, twyllo, ffugio, a rheoli’r meddwl.”

Mae propaganda yn hynod o beryglus oherwydd ei fod yn gallu dylanwadu, yn araf deg, ar ein meddyliau heb inni sylweddoli. Mae’n debyg i nwy gwenwynig na allwn ni ei weld na’i arogli. Dywedodd Vance Packard, arbenigwr mewn ymddygiad dynol, fod propaganda yn effeithio ar y ffordd rydyn ni’n ymddwyn “yn fwy nag yr ydyn ni’n sylweddoli.” Dywedodd arbenigwr arall fod propaganda wedi achosi i bobl ymddwyn mewn ffyrdd peryglus ac afresymol iawn ac wedi arwain at hil-laddiad, rhyfel, ac erledigaeth oherwydd hil neu grefydd.—Easily LedA History of Propaganda.

Os ydy dynion yn gallu ein twyllo â’u propaganda, oni fyddai Satan yn fwy effeithiol? Mae’r Diafol wedi astudio ymddygiad bodau dynol ers i ddyn gael ei greu. Hefyd, oherwydd ei fod wedi twyllo’r “byd o’n cwmpas ni,” gallai ddefnyddio unrhyw ran o’r byd i wasgaru ei gelwyddau. (1 Ioan 5:19; Ioan 8:44) Mae Satan “wedi dallu’r rhai sydd ddim yn credu” â’i bropaganda nes ei fod bellach wedi “twyllo’r byd i gyd.” (2 Cor. 4:4; Dat. 12:9) Sut gelli di wrthsefyll propaganda?

CRYFHA DY FFYDD

Soniodd Iesu am ffordd syml o wrthsefyll propaganda: “Byddwch yn dod i wybod beth sy’n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw’n rhoi rhyddid i chi.” (Ioan 8:31, 32) Mewn rhyfel, mae angen i filwr wybod i le y dylai fynd i gael gwybodaeth ddibynadwy oherwydd bod y gelyn yn lledaenu celwyddau er mwyn ei dwyllo. O le y cei di wybodaeth ddibynadwy? Yng Ngair Duw y cei di hyd i bopeth rwyt ti yn ei angen i frwydro yn erbyn propaganda Satan.—2 Tim. 3:16, 17.

Wrth gwrs, mae Satan yn gwybod hyn. Felly, mae’n defnyddio’r byd sydd o dan ei reolaeth i ddenu ein sylw ac i’n perswadio i beidio â darllen ac astudio’r Beibl. Paid â gadael “triciau slei y diafol” i dy dwyllo di. (Eff. 6:11) Dydy dealltwriaeth sylfaenol o’r gwirionedd ddim yn ddigon. Mae’n rhaid gweithio’n galed i ddyfnhau ein gwybodaeth o’r gwirionedd. (Eff. 3:18) Fel y dywedodd yr awdur Noam Chomsky: “Does neb yn mynd i dywallt y gwirionedd i mewn i dy ymennydd. Rhywbeth ydy hynny y mae’n rhaid i ti ei ddarganfod drosot ti dy hun.” Felly, dos i ddarganfod y gwir “drosot ti dy hun” drwy fynd “ati i chwilio’r ysgrifau sanctaidd yn ofalus.”—Act. 17:11.

Er mwyn ennill y frwydr i reoli dy feddwl, mae’n rhaid cydnabod pa mor beryglus ydy propaganda a dy amddiffyn dy hun rhagddo

Dydy Satan ddim eisiau iti feddwl yn glir a deall y gwirionedd. Pam? Oherwydd bod propaganda “yn debygol o fod yn fwy effeithiol” os ydy pobl yn cael eu hannog “i beidio â rhesymu’n gall.” (Media and Society in the Twentieth Century) Paid â chredu popeth rwyt ti’n ei glywed heb feddwl yn ofalus amdano. (Diar. 14:15) Mae Jehofa wedi rhoi “deall” iti, felly defnyddia dy ddeall i resymu a chryfhau dy ffydd.—Diar. 2:10-15; Rhuf. 12:1, 2.

AROS YN UNEDIG

Mae milwyr sydd wedi dod o dan ddylanwad propaganda yn dod yn ofnus ac yn llai tebygol o fod eisiau brwydro. Gall propaganda hefyd achosi iddyn nhw ymladd yn erbyn ei gilydd neu i’w cadw eu hunain ar wahân i weddill y milwyr. Yn ôl cadfridog Almaenig, propaganda oedd un rheswm a achosodd i’r Almaen golli’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd fel petai’r bobl wedi cael eu hypnoteiddio. Mae Satan yn defnyddio dulliau tebyg i ddinistrio undod Cristnogion heddiw. Er enghraifft, mae’n ceisio achosi i frodyr ffraeo ymysg ei gilydd. Neu mae’n gwneud iddyn nhw feddwl fod cyfundrefn Jehofa wedi bod yn annheg neu wedi gwneud rhywbeth anghywir fel eu bod nhw’n gadael y gyfundrefn.

Paid â chael dy dwyllo. Dilyna’r cyngor yng Ngair Duw er mwyn cadw’n agos at dy frodyr. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud bod “maddau i eraill” yn bwysig inni a bod rhaid datrys anghytundebau yn gyflym. (Col. 3:13, 14; Math. 5:23, 24) Ac mae’n ein rhybuddio ni i beidio â’n cadw ein hunain ar wahân i’r gynulleidfa. (Diar. 18:1) Gwna’n siŵr dy fod ti’n barod i wrthsefyll propaganda Satan. Gofynna i ti dy hun: ‘Y tro diwethaf i rywun fy mhechu i, a wnes i ymateb mewn ffordd a oedd yn plesio Jehofa neu Satan?’—Gal. 5:16-26; Eff. 2:2, 3.

BYDDA’N HYDERUS

Dydy milwr sydd ddim yn deyrngar i’w arweinydd byth yn ymladd yn dda. Felly, mae gelynion yn defnyddio propaganda i danseilio hyder milwyr yn eu harweinwyr. Os ydy arweinwyr yn gwneud camgymeriadau, bydd y gelyn yn defnyddio hyn gan ddweud: “Allwch chi ddim eu trystio nhw! Peidiwch â gadael iddyn nhw eich arwain i ddinistr!” Mae Satan yn gwneud yr un fath. Mae’n ceisio gwneud iti golli dy hyder yn y rhai mae Jehofa yn eu defnyddio i arwain ei bobl.

Sut gelli di dy amddiffyn dy hun? Bydda’n benderfynol o aros yng nghyfundrefn Jehofa. Mae angen dal ati i gefnogi’n ffyddlon y dynion sy’n arwain pobl Dduw, er eu bod nhw’n amherffaith. (1 Thes. 5:12, 13) Efallai bydd gwrthgilwyr a rhai twyllodrus eraill yn ymosod ar y gyfundrefn. (Titus 1:10) Hyd yn oed os ydy hi’n ymddangos bod yr hyn maen nhw’n ei ddweud yn wir, “peidiwch cynhyrfu na chael eich drysu.” (2 Thes. 2:2) Dilyna’r cyngor a roddodd Paul i Timotheus: “Dal di dy afael yn beth rwyt wedi ei ddysgu” a chofia “sut bobl ddysgodd di.” (2 Tim. 3:14, 15) Meddylia am yr holl dystiolaeth sy’n profi dy fod ti’n gallu ymddiried yn y gwas ffyddlon a chall y mae Jehofa wedi bod yn ei ddefnyddio am bron i gan mlynedd erbyn hyn i ddysgu’r gwirionedd inni.—Math. 24:45-47; Heb. 13:7, 17.

PAID Â BOD OFN

Mae Satan hefyd yn ceisio dylanwadu arnat ti mewn ffyrdd mwy uniongyrchol. Weithiau mae’n ceisio gwneud iti deimlo’n ofnus. Codi braw ar bobl yw “un o’r ffurfiau hynaf ar bropaganda o bob math.” (Easily LedA History of Propaganda) Ysgrifennodd yr Athro Philip M. Taylor o Brydain fod yr Asyriaid wedi cyfuno propaganda â dychryn pobl er mwyn trechu eu gelynion. Bydd Satan yn defnyddio ofn dyn, ofn erledigaeth, ac ofn marw i geisio dy rwystro di rhag gwasanaethu Jehofa.—Esei. 8:12; Jer. 42:11; Heb. 2:15.

Paid â gadael i Satan wneud hyn i ti! Dywedodd Iesu: “Peidiwch bod ofn pobl. Maen nhw’n gallu lladd eich corff chi, ond ddim mwy na hynny.” (Luc 12:4) Bydda’n hyderus y bydd Jehofa yn cadw ei addewid i ofalu amdanat ti, a rhoi “grym anhygoel” iti, a dy helpu di i wrthsefyll ymosodiadau Satan.—2 Cor. 4:7-9; 1 Pedr 3:14.

Wrth gwrs, mae’n bosibl iti deimlo’n wan neu’n ofnus ar adegau. Ond cofia eiriau calonogol Jehofa i Josua: “Bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o’r ffordd!” (Jos. 1:9) Os wyt ti’n teimlo ofn, gweddïa ar Jehofa yn syth i drafod dy bryderon. Gelli di fod yn sicr y bydd yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg—yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau.” Yna bydd gen ti’r cryfder i wrthsefyll propaganda Satan.—Phil. 4:6, 7, 13.

Wyt ti’n cofio’r propaganda a ddefnyddiodd negesydd yr Asyriaid, y Rabshace, i godi arswyd ar bobl Dduw? Roedd eisiau iddyn nhw gredu na fyddai neb yn gallu eu hamddiffyn rhag yr Asyriaid, gan gynnwys Jehofa. Dywedodd hefyd fod Jehofa wedi gofyn iddyn nhw ddinistrio Jerwsalem. Beth oedd ymateb Jehofa? “Paid gadael i’r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort ar fy mhen i dy ddychryn di.” (2 Bren. 18:22-25; 19:6) Yna, anfonodd Duw angel a ddinistriodd 185,000 o Asyriaid mewn un noson!—2 Bren. 19:35.

BYDDA’N DDOETH—GWRANDA AR JEHOFA BOB AMSER

Wyt ti erioed wedi gwylio ffilm lle nad yw un o’r cymeriadau yn sylweddoli ei fod yn cael ei dwyllo? Efallai y byddi di’n teimlo fel gweiddi: ‘Paid â chredu’r peth! Maen nhw’n dweud celwydd!’ Dychmyga, felly, fod yr angylion yn dweud wrthyt ti: “Paid â chael dy dwyllo gan gelwyddau Satan!”

Felly, paid â gwrando ar bropaganda Satan. (Diar. 26:24, 25) Gwranda ar Jehofa ac ymddiried ynddo ym mhopeth y byddi di’n ei wneud. (Diar. 3:5-7) Mae’n dy garu di ac yn dy annog di: “Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi’n hapus.” (Diar. 27:11) Os gwnei di hyn, byddi di’n ennill y frwydr i reoli dy feddwl!