Gwasanaethu o’u Gwirfodd—Yn Nhwrci
GWNAETH Cristnogion ymdrech lew i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl gyda’r “newyddion da am deyrnasiad Duw.” (Math. 24:14) Fe wnaeth rhai deithio i wledydd tramor hyd yn oed. Er enghraifft, aeth yr apostol Paul i’r rhanbarth lle mae Twrci wedi cael ei leoli heddiw, a phregethodd lawer yn ystod ei daith genhadol. * Tua 2,000 o flynyddoedd wedyn, yn 2014, roedd ymgyrch bregethu arbennig yn digwydd unwaith eto yn Nhwrci. Pam cafodd yr ymgyrch hon ei threfnu? Pwy oedd yn rhan ohoni?
“BETH SY’N MYND YMLAEN?”
Mae yna 2,800 o gyhoeddwyr a mwy yn Nhwrci, ond mae gan y wlad honno boblogaeth o 79 miliwn. Mae hynny’n golygu bod yna bron 1 cyhoeddwr i bob 28,000 o bobl. Fel y gelli di ddychmygu, mae’r cyhoeddwyr wedi gallu cyrraedd dim ond nifer bychan o bobl yn y wlad hon. Bwriad yr ymgyrch bregethu oedd cyrraedd cymaint o bobl â phosibl mewn cyfnod byr. Teithiodd tua 550 o frodyr a chwiorydd sy’n siarad Twrceg o wledydd eraill i bregethu gyda’r rhai lleol yn ystod yr ymgyrch. Beth oedd y canlyniad?
Rhoddwyd tystiolaeth eang. Ysgrifennodd un gynulleidfa yn Istanbwl: “Pan wnaeth pobl ein gweld ni, gofynnon nhw, ‘Oes yna gynhadledd arbennig yn digwydd yma? Mae yna Dystion Jehofa ym mhobman!’” Ysgrifennodd cynulleidfa yn ninas Izmir: “Daeth dyn a oedd yn gweithio mewn safle tacsis at henuriad lleol a gofyn, ‘Beth sy’n mynd ymlaen? Ydych chi wedi ehangu eich gwaith?’” Yn wir, gwnaeth yr ymgyrch ddenu sylw pobl.
Gwnaeth y Tystion o wledydd tramor fwynhau’r gwaith pregethu’n fawr iawn. Dywed Steffen, sy’n dod o Ddenmarc: “Bob dydd, roeddwn i’n siarad â phobl nad oedden nhw erioed wedi clywed am Jehofa o’r blaen. Roeddwn i’n teimlo fy mod i wir yn hysbysebu enw Jehofa.” Ysgrifennodd Jean-David, o Ffrainc: “Pregethon ni am oriau ar un stryd yn unig. Roedd yn brofiad bendigedig! Doedd y rhan fwyaf o bobl ddim yn gyfarwydd â Thystion Jehofa. Ar bron bob drws, roedden ni’n gallu dechrau sgyrsiau, dangos fideos, a gosod llenyddiaeth gyda’r deiliad.”
Gwnaeth y 550 o gyhoeddwyr a gymerodd ran yn yr ymgyrch osod tua 60,000 o gyhoeddiadau mewn pythefnos! Oherwydd yr ymgyrch, llwyddon nhw i roi tystiolaeth eang.
O ganlyniad i sêl y brodyr lleol gynyddu, dechreuodd llawer feddwl am ymuno yn y gwasanaeth llawn-amser. Hefyd, roedd nifer yr arloeswyr yn Nhwrci wedi cynyddu 24 y cant yn ystod y 12 mis ar ôl yr ymgyrch.
Gwnaeth cyhoeddwyr a oedd wedi teithio o dramor fynegi’r effaith a gafodd yr ymgyrch ar eu gweinidogaeth hyd yn oed pan wnaethon nhw ddychwelyd adref. Ysgrifennodd Şirin, chwaer o’r Almaen: “Roedd tystiolaethu’n anffurfiol mor hawdd iddyn nhw. Rydw i’n swil iawn o ran pregethu’n anffurfiol. Ond o ganlyniad i’r ymgyrch, esiampl y brodyr lleol, a llawer o weddïau, roeddwn ni’n gallu gwneud pethau nad oeddwn o’r blaen. Gwnes i hyd yn oed bregethu a dosbarthu taflenni yn y rheilffordd danddaearol! Nawr, dydw i ddim mor swil ag yr oeddwn i o’r blaen.”
“Dysgais bethau i’w defnyddio yn fy ngweinidogaeth fy hun,” meddai Johannes o’r Almaen. “Mae’r brodyr yn Nhwrci wir eisiau rhannu’r gwirionedd efo cymaint o bobl â phosibl. Maen nhw’n rhoi tystiolaeth ar bob cyfle. Penderfynais wneud yr un fath pan es i adref i’r Almaen. Ac nawr, rydw i’n pregethu i fwy o bobl nag yr oeddwn i gynt.”
“Cafodd yr ymgyrch hon effaith fawr ar fy ngweinidogaeth bersonol. Mae wedi fy helpu i fod yn fwy dewr ac i ddibynnu ar Jehofa’n fwy,” meddai Zeynep, o Ffrainc.
Gwnaeth y cyhoeddwyr agosáu at ei gilydd. Roedd cariad ac undod y brodyr o wahanol wledydd wedi gwneud argraff barhaol. “Cawson ni flas ar letygarwch y brodyr,” meddai Jean-David, y soniwyd amdano uchod. Ychwanegodd: “Cawson ni ein derbyn yn ffrindiau ac yn rhan o’r teulu. Roedden nhw’n gadael inni aros yn eu cartrefi. Roeddwn i’n gwybod ein bod ni’n frawdoliaeth fyd-eang; roeddwn i wedi darllen hynny sawl gwaith yn ein llenyddiaeth. Ond y tro yma gwelais y peth gyda
fy llygaid fy hun. Teimlais mor falch o fod yn un o bobl Jehofa, a gwnes i ddiolch iddo am y fraint arbennig honno.”“Roedd y brodyr o Ddenmarc, Ffrainc, yr Almaen, a Thwrci i gyd yn un teulu. Roedd fel petai Duw wedi rwbio’r holl ffiniau cenedlaethol allan gyda rhwbiwr mawr,” meddai Claire o Ffrainc.
Ychwanegodd Stéphanie, o Ffrainc: “Gwnaeth yr ymgyrch arbennig ein dysgu mai’r hyn sy’n ein huno yw ein cariad tuag at Jehofa, nid diwylliant na iaith.”
BUDDION HIRDYMOR
Dechreuodd llawer o’r cyhoeddwyr feddwl am symud i Dwrci i helpu gyda’r gwaith mawr sydd angen ei wneud yno. Mae sawl un wedi symud yn barod. Mae’r rhai hyn yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn.
Meddylia, er enghraifft, am grŵp bach o 25 o gyhoeddwyr mewn ardal anghysbell. Am lawer o flynyddoedd, dim ond un henuriad oedd yn y grŵp. Dychmyga pa mor hapus oedden nhw yn 2015 pan symudodd chwech o gyhoeddwr o’r Almaen a’r Iseldiroedd i’w helpu!
GWASANAETHU AR FLAEN Y GAD
Beth mae rhai cyhoeddwyr sydd wedi bod yn byw yn Nhwrci ers tipyn yn ei ddweud am eu bywyd yno? Wrth gwrs, weithiau mae problemau’n codi, ond mae llawer o fendithion yn dod o wasanaethu lle mae’r angen yn fawr. Ystyria beth mae rhai wedi ei ddweud:
“Mae byw heb lawer o bethau materol yn fy helpu i deimlo’n rhydd ac i ganolbwyntio ar y pethau pwysicaf,” meddai Federico, brawd priod yn ei 40au cynnar a symudodd o Sbaen. A fyddai’n awgrymu’r math hwn o wasanaeth i eraill? “Byddwn, yn bendant!” meddai. “Pan wyt ti’n symud dramor i helpu pobl i ddod i adnabod Jehofa, rwyt ti’n dy roi dy hun yn ei ddwylo ef. Rwyt ti wir yn teimlo gofal Jehofa yn fwy nag erioed.”
“Teimlad o foddhad yw gwasanaethu ar flaen y gad, fel petai, a rhannu’r gwirionedd â chymaint o
bobl sydd ddim wedi ei glywed o’r blaen,” meddai Rudy, brawd priod yn ei 50au hwyr o’r Iseldiroedd. “Rydw i wrth fy modd yn gweld hapusrwydd y bobl pan fyddan nhw’n derbyn y gwirionedd.”Dywedodd Sascha, brawd priod yn ei 40au cynnar a symudodd o’r Almaen: “Bob tro rydw i’n mynd ar y weinidogaeth, rydw i’n cwrdd â phobl sy’n clywed y gwirionedd am y tro cyntaf. Mae rhoi’r cyfle iddyn nhw ddod i adnabod Jehofa yn rhoi boddhad mawr imi.”
Mae Atsuko, chwaer briod yn ei 30au canol o Japan yn dweud: “Yn y gorffennol, roeddwn i eisiau i Armagedon ddod ar unwaith. Ond, ar ôl symud i Dwrci, rydw i’n diolch i Jehofa am iddo barhau i ddangos amynedd. Mwya’n y byd rydw i’n gweld sut mae Jehofa’n arwain pethau, mwya’n y byd rydw i eisiau agosáu ato.”
Dywed Alisa, chwaer yn ei 30au cynnar o Rwsia: “Mae gwasanaethu Jehofa yn y math hwn o weinidogaeth wedi fy helpu i brofi ei ddaioni.” (Salm 34:8) Mae’n ychwanegu: “Mae Jehofa nid yn unig yn Dad imi ond hefyd yn Ffrind agos, un rydw i’n dod i’w adnabod yn well o dan amgylchiadau gwahanol. Mae fy mywyd yn llawn atgofion hapus, profiadau cyffrous, a bendithion hael!”
“EDRYCHWCH AR Y CAEAU!”
Oherwydd yr ymgyrch bregethu arbennig yn Nhwrci, gwnaeth y newyddion da gyrraedd llawer mwy o bobl. Ond eto, mae yna ardaloedd enfawr heb eu cyffwrdd o hyd. Bob dydd, mae’r gwirfoddolwyr a symudodd i Dwrci yn cwrdd â phobl sydd ddim wedi clywed am Jehofa o’r blaen. A fyddet ti’n hoffi gwasanaethu mewn tiriogaeth o’r fath? Os felly, rydyn ni’n dy annog di i ddilyn geiriau Iesu: “Agorwch eich llygaid! Edrychwch ar y caeau! Mae’r cynhaeaf yn barod!” (Ioan 4:35) A elli di helpu mewn rhan o’r byd lle “mae’r cynhaeaf yn barod”? Os gelli di, cymera gamau ymarferol nawr er mwyn iti gyrraedd y nod hwnnw. Mae un peth yn sicr: Bydd gwneud mwy yn y gwaith o ledaenu’r newyddion da “drwy’r byd i gyd” yn dod â bendithio di-rif!—Act. 1:8.
^ Par. 2 Gweler y llyfryn “See the Good Land,” tt. 32-33.