Rho Hyfforddiant i Rai Dibynadwy
“Rhanna’r cwbl gyda phobl y gelli di ddibynnu arnyn nhw i ddysgu eraill.”—2 TIM. 2:2.
CANEUON: 123, 53
1, 2. Beth yw agwedd llawer o bobl tuag at eu gwaith?
YN AML, mae pobl yn cael eu hadnabod wrth y gwaith y maen nhw’n ei wneud. I lawer, mae swydd rhywun yn adlewyrchu ei hunan-werth. Mewn rhai diwylliannau, un o’r cwestiynau cyntaf mae pobl yn eu gofyn wrth ddod i adnabod rhywun yw, “Beth yw eich gwaith chi?”
2 Mae’r Beibl weithiau’n disgrifio pobl wrth y gwaith roedden nhw’n ei wneud. Darllenwn am Mathew a “oedd yn casglu trethi,” “Simon y gweithiwr lledr,” a’r “doctor Luc.” (Math. 10:3; Act. 10:6; Col. 4:14) Roedd pobl yn cael eu hadnabod wrth eu haseiniadau ysbrydol hefyd. Darllenwn am y Brenin Dafydd, y proffwyd Elias, a’r apostol Paul. Gwerthfawrogodd y dynion hyn yr aseiniadau a roddwyd iddyn nhw gan Dduw. Os oes gennyn ni freintiau yn y gwirionedd, dylen ninnau hefyd eu gwerthfawrogi.
3. Pam mae angen i’r rhai hŷn hyfforddi’r rhai iau? (Gweler y llun agoriadol.)
3 Mae llawer ohonon ni’n hoff iawn o’n gwaith, a bydden ni’n hapus i’w wneud am byth. Ond, yn anffodus, ers dyddiau Adda, mae pob cenhedlaeth yn heneiddio ac un arall yn cymryd ei lle. (Preg. 1:4) Yn yr oes fodern, mae hyn wedi achosi her unigryw i wir Gristnogion. Mae gwaith pobl Jehofa wedi ehangu a mynd yn fwy cymhleth. Wrth inni weithio ar brosiectau newydd, mabwysiadir dulliau newydd o weithio—yn aml mae hyn yn cynnwys technoleg sy’n datblygu’n gyflym. Gall rhai hŷn ei chael hi’n anodd mynd yr un mor gyflym â’r datblygiadau hyn. (Luc 5:39) Hyd yn oed pan nad yw hynny’n wir, efallai fod gan y rhai ifanc fwy o nerth ac egni na’r rhai hŷn. (Diar. 20:29) Felly, y peth cariadus a doeth i’w wneud yw paratoi’r rhai ifanc ar gyfer derbyn mwy o gyfrifoldebau.—Darllen Salm 71:18.
4. Pam mae dirprwyo awdurdod yn anodd i rai? (Gweler y blwch “Pam Nad Yw Rhai yn Dirprwyo Gwaith?”)
4 Weithiau, nid yw’n hawdd i’r rhai mewn awdurdod ddirprwyo gwaith i’r rhai iau. Mae rhai’n ofni colli braint sy’n agos at eu calon. Mae eraill yn poeni am golli rheolaeth, gan feddwl na fydd y rhai ifanc yn medru gwneud pethau mor dda. Gall rhai resymu nad oes ganddyn nhw amser i hyfforddi rhywun arall. Ar y llaw arall, pwysig yw i’r rhai iau beidio â cholli amynedd os nad ydyn nhw’n cael mwy i’w wneud.
5. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon?
5 Gad inni drafod y mater o ddirprwyo o ddau safbwynt. Yn gyntaf, sut gall y rhai hŷn helpu’r rhai ifanc i dderbyn mwy o gyfrifoldeb, a pham mae hyn yn bwysig? (2 Tim. 2:2) Yn ail, pam mae’n bwysig i’r rhai iau gadw agwedd dda wrth gynorthwyo brodyr sy’n fwy profiadol a dysgu oddi wrthyn nhw? I ddechrau, gad inni weld sut gwnaeth y Brenin Dafydd helpu ei fab i dderbyn cyfrifoldeb pwysig.
DAFYDD YN CEFNOGI SOLOMON
6. Beth roedd y Brenin Dafydd eisiau ei wneud, a beth oedd ateb Jehofa?
6 Ar ôl iddo fyw am flynyddoedd fel ffoadur, daeth Dafydd yn frenin a byw mewn tŷ crand. Teimlodd siom nad oedd yna deml wedi ei chysegru i Jehofa, ac roedd eisiau adeiladu un. Felly, dyma’n dweud wrth y proffwyd Nathan: “Edrych! RGLWYDD yn dal mewn pabell.” Atebodd Nathan: “Mae Duw gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti’n feddwl sy’n iawn.” Ond, roedd cyfarwyddyd Jehofa’n wahanol. Rhoddodd neges i Dafydd drwy Nathan: “Ti ddim i adeiladu teml i mi fyw ynddi.” Er i Jehofa sicrhau Dafydd y byddai’n parhau i’w fendithio, pwrpas Duw oedd i fab Dafydd, Solomon, adeiladu’r deml. Beth oedd ymateb Dafydd?—1 Cron. 17:1-4, 8, 11, 12; 29:1.
Dw i’n byw yma mewn palas crand o goed cedrwydd, tra mae Arch yr A7. Sut gwnaeth Dafydd ymateb i arweiniad Jehofa?
7 Ni wrthododd Dafydd gefnogi’r prosiect, na phwdu oherwydd bod y clod am adeiladu’r deml yn mynd i rywun arall. A’r enw a roddwyd ar y deml oedd teml Solomon, nid teml Dafydd. Er i Dafydd efallai deimlo siom am nad oedd yn gallu cyflawni dymuniad ei galon, roedd yn cefnogi’r prosiect yn llwyr. Aeth ati’n frwd i drefnu grwpiau gweithio a chasglu haearn, copr, arian, ac aur, ynghyd â choed cedrwydd. Ar ben hynny, rhoddodd anogaeth i Solomon: “Nawr, fy mab, boed i’r ARGLWYDD fod gyda ti! Boed i ti lwyddo, ac adeiladu teml i’r ARGLWYDD dy Dduw, fel dwedodd e.”—1 Cron. 22:11, 14-16.
8. Pam y byddai Dafydd wedi gallu meddwl nad oedd Solomon yn gymwys, ond beth a wnaeth?
8 Darllen 1 Cronicl 22:5. Gallai Dafydd fod wedi dod i’r casgliad nad oedd Solomon yn gymwys ar gyfer arolygu prosiect mor bwysig. Wedi’r cwbl, roedd y deml yn gorfod bod yn “wych,” a bryd hynny, roedd Solomon “yn ifanc ac yn ddibrofiad.” Ond, gwyddai Dafydd y byddai Jehofa yn galluogi Solomon i ysgwyddo’r gwaith a roddwyd iddo. Felly, canolbwyntiodd Dafydd ar yr hyn yr oedd yn gallu ei wneud i helpu, sef paratoi digon o ddeunydd.
PROFA’R LLAWENYDD O HYFFORDDI ERAILL
9. Sut gall rhai hŷn deimlo bodlonrwydd o drosglwyddo cyfrifoldebau? Eglura.
9 Ni ddylai brodyr hŷn ddigalonni pan fydd rhaid iddyn nhw drosglwyddo eu haseiniad i ddynion iau. Mewn gwirionedd, y peth gorau ar gyfer llwyddiant y gwaith yw hyfforddi rhai iau i dderbyn cyfrifoldebau. Dylai dynion hŷn deimlo bodlonrwydd o weld y rhai iau y maen nhw wedi eu hyfforddi yn dod yn gymwys ar gyfer gwneud y gwaith. I egluro, dychmyga fod tad yn dysgu ei fab sut i yrru car. Ac yntau’n blentyn, dim ond gwylio’r tad y mae’r mab. Wrth i’r bachgen dyfu, mae’r tad yn egluro beth mae’n ei wneud. Wedyn, pan fydd y bachgen yn ddigon hen, mae’n dechrau gyrru’r car wrth i’w dad roi cyfarwyddyd iddo. Weithiau, bydden nhw’n gyrru bob yn ail, ond yn y pen draw, bydd y mab yn gwneud y rhan fwyaf o’r gyrru, os nad y cwbl, ar gyfer ei dad sydd
mewn oed. Mae’r tad doeth yn falch fod ei fab yn cymryd yr awenau, ac nid yw’n teimlo bod rhaid iddo ef reoli’r car. Mewn ffordd debyg, mae dynion hŷn yn teimlo’n falch pan fyddan nhw’n hyfforddi rhai iau i dderbyn cyfrifoldebau theocrataidd.10. Sut roedd Moses yn teimlo am glod ac awdurdod?
10 A ninnau’n hŷn, mae’n bwysig inni warchod ein hunain rhag teimlo cenfigen. Sylwa ar ymateb Moses ar ôl iddo glywed bod eraill yng ngwersyll Israel wedi dechrau ymddwyn fel proffwydi. (Darllen Numeri 11:24-29.) Roedd Josua, cynorthwyydd Moses, eisiau eu hatal nhw. Mae’n debyg iddo deimlo eu bod nhw’n tynnu oddi ar barch ac awdurdod Moses. Ond, atebodd Moses: “Wyt ti’n eiddigeddus drosto i? O na fyddai pobl Dduw i gyd yn broffwydi! Byddwn i wrth fy modd petai’r ARGLWYDD yn rhoi ei Ysbryd arnyn nhw i gyd!” Gwelodd Moses law Jehofa yn y sefyllfa. Gan wrthod clod iddo’i hun, roedd Moses yn dymuno i bob un o weision Jehofa rannu’r un breintiau ysbrydol. Fel Moses, onid ydyn ninnau’n hapus pan fydd eraill yn derbyn breintiau a fyddai wedi gallu dod i ni?
11. Beth ddywedodd un brawd am drosglwyddo ei gyfrifoldebau?
11 Heddiw, mae llawer o frodyr wedi gweithio’n egnïol am ddegawdau ac wedi hyfforddi eraill i dderbyn cyfrifoldebau ehangach. Er enghraifft, roedd Peter wedi gwasanaethu am dros 74 o flynyddoedd yn llawn amser, a 35 o’r rheini yn un o swyddfeydd cangen Ewrop. Tan yn ddiweddar, roedd yn arolygwr ar yr Adran Wasanaeth. Nawr, mae Paul, brawd iau a oedd yn gweithio wrth ochr Peter am sawl blynedd, yn gofalu am y cyfrifoldeb hwnnw. Pan ofynnwyd i Peter am sut roedd yn teimlo am y newid yn ei aseiniad, atebodd: “Rydw i mor hapus fod yna frodyr sydd wedi cael eu hyfforddi i dderbyn mwy o gyfrifoldeb ac sy’n gwneud yn arbennig o dda yn eu gwaith.”
GWERTHFAWROGI’R RHAI HŶN YN EIN PLITH
12. Pa wers gallwn ni ei dysgu oddi wrth hanes Rehoboam?
12 Ar ôl i Solomon farw, daeth ei fab, Rehoboam yn frenin. Pan oedd angen cyngor ar Rehoboam ynglŷn â’i gyfrifoldebau, fe aeth at y dynion hŷn yn gyntaf. Ond, gwrthododd eu cyngor! Yn hytrach, gwrandawodd ar gyngor y dynion iau, ei gyfoedion. Roedd y canlyniadau’n drychinebus. (2 Cron. 10:6-11, 19) Beth yw’r wers? Doeth yw ceisio cyngor y rhai hŷn a phrofiadol a meddwl yn ofalus am yr hyn maen nhw’n ei ddweud. Er na ddylai’r rhai iau deimlo eu bod nhw’n gaeth i’r hen ffyrdd o wneud pethau, ni ddylen nhw fod yn rhy gyflym i anwybyddu cyngor y rhai hŷn.
13. Sut dylai’r rhai iau gydweithio â’r rhai hŷn?
13 Efallai fod rhai ifanc bellach yn cydlynu gwaith sy’n cynnwys brodyr hŷn. Er bod rôl y rhai ifanc hyn wedi newid, da fyddai iddyn nhw fanteisio ar ddoethineb a phrofiad y rhai hŷn cyn gwneud penderfyniad. Dywedodd Paul, a ddaeth yn arolygwr ar adran ym Methel yn lle Peter: “Roeddwn i’n neilltuo amser ar gyfer gofyn am gyngor Peter, ac roeddwn i’n annog eraill yn yr adran i wneud yr un peth.”
14. Beth a ddysgwn ni o’r ffordd roedd Timotheus a’r apostol Paul yn cydweithio?
14 Gweithiodd y dyn ifanc Timotheus ochr yn ochr â’r apostol Paul am flynyddoedd lawer. (Darllen Philipiaid 2:20-22.) Roedd Paul wedi ysgrifennu at y Corinthiaid: “Dyna pam dw i’n anfon Timotheus atoch chi—mae e’n fab annwyl i mi yn yr Arglwydd, a dw i’n gallu dibynnu’n llwyr arno. Bydd yn eich atgoffa chi sut dw i’n ymddwyn a beth dw i’n ei ddysgu am y Meseia Iesu. Dyma dw i’n ei ddysgu yn yr eglwysi i gyd, ble bynnag dw i’n mynd.” (1 Cor. 4:17) Mae’r datganiad hwnnw’n dangos bod Paul a Timotheus yn cydweithio’n agos. Roedd Paul wedi cymryd yr amser i ddysgu Timotheus am ei ddulliau. Roedd Timotheus wedi dysgu’n dda ac wedi ennill cariad Paul, ac roedd Paul yn hyderus y byddai Timotheus yn gallu gofalu am anghenion ysbrydol y gynulleidfa yng Nghorinth. Dyna esiampl dda i henuriaid ei hefelychu heddiw wrth iddyn nhw hyfforddi dynion eraill i arwain yn y gynulleidfa.
MAE GAN BOB UN EI RAN
15. Sut dylai cyngor Paul ar gyfer Cristnogion yn Rhufain ein helpu ni wrth wynebu newidiadau?
15 Amser cyffrous yw hwn. Mae’r rhan ddaearol o gyfundrefn Jehofa yn tyfu mewn sawl ffordd, ond mae tyfiant yn gofyn am newidiadau. Wrth i newidiadau effeithio arnon ni, gad inni fod yn ostyngedig, gan ganolbwyntio ar ewyllys Jehofa yn hytrach na’n hanghenion ein hunain. Bydd hynny’n hyrwyddo undod. Ysgrifennodd Paul at y Cristnogion yn Rhufain: “Mae’r eglwys yr un fath â’r corff dynol—mae gwahanol rannau i’r corff, a dydy pob rhan o’r corff ddim yn gwneud yr un gwaith. Yn yr eglwys dyn ni gyda’n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia.”—Rhuf. 12:3-5.
16. Sut gall y rhai hŷn, y rhai ifanc, a’r gwragedd helpu i gadw heddwch ac undod yng nghyfundrefn Jehofa?
16 Felly, beth bynnag yw ein hamgylchiadau, gad i bob un ohonon ni hyrwyddo materion Teyrnas odidog Jehofa. Chi rai hŷn, helpwch y rhai iau i fod yn gymwys i wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud. Frodyr ifanc, byddwch yn barod i dderbyn cyfrifoldeb, byddwch yn wylaidd, a chadwch agwedd dda tuag at y rhai hŷn. A chi wragedd, efelychwch esiampl Priscila, a wnaeth gefnogi ei gŵr Acwila wrth i’w hamgylchiadau newid.—Act. 18:2.
17. Pa hyder oedd gan Iesu ynglŷn â’i ddisgyblion, ac ar gyfer beth roedd ef yn eu hyfforddi?
17 Wrth sôn am hyfforddi eraill i dderbyn mwy o gyfrifoldebau, nid oes esiampl well na Iesu. Roedd yn gwybod y byddai ei weinidogaeth ar y ddaear yn dod i ben ac y byddai eraill yn parhau yn y gwaith hwnnw. Er bod ei ddisgyblion yn amherffaith, roedd yn hyderus y bydden nhw’n cyflawni mwy o weithredoedd nag ef, a dywedodd Iesu hynny wrthyn nhw. (Ioan 14:12) Roedd Iesu wedi eu hyfforddi’n ofalus, a gwnaethon nhw ledaenu’r newyddion da drwy’r byd i gyd yr adeg honno.—Col. 1:23.
18. Pa obaith sydd o’n blaenau, a beth gallwn ni ei wneud nawr?
18 Ar ôl iddo aberthu ei fywyd, atgyfodwyd Iesu i’r nefoedd a rhoddwyd iddo fwy o waith i’w wneud gydag awdurdod “llawer uwch nag unrhyw un arall sy’n teyrnasu neu’n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy’n bod.” (Eff. 1:19-21) Os ydyn ni’n marw’n ffyddlon cyn Armagedon, byddwn ni’n cael ein hatgyfodi yn y byd newydd, lle bydd digonedd o waith boddhaol i’w wneud. Ond nawr, mae yna waith hanfodol y gall pob un ohonon ni gyfrannu ato—sef, pregethu’r newyddion da a gwneud disgyblion. Gad inni i gyd, boed yn hen neu’n ifanc, barhau i roi ein hunain “yn llwyr i waith yr Arglwydd.”—1 Cor. 15:58.