ERTHYGL ASTUDIO 12
Pryd Yw’r Adeg Orau i Siarad?
“Mae amser . . . i gadw’n dawel ac amser i siarad.”—PREG. 3:1, 7.
CÂN 124 Bythol Ffyddlon
CIPOLWG *
1. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o Pregethwr 3:1, 7?
MAE rhai ohonon ni yn hoff iawn o siarad. Mae eraill yn hoff iawn o fod yn ddistaw. Fel mae thema’r erthygl hon yn ei ddangos, mae ’na amser i siarad ac i gadw’n dawel. (Darllen Pregethwr 3:1, 7.) Fodd bynnag, efallai y dymunwn i rai o’n brodyr a’n chwiorydd siarad mwy. Ac i eraill siarad llai.
2. Pwy sydd â’r hawl i osod y safonau ynglŷn â phryd a sut dylen ni siarad?
2 Mae’r gallu i siarad yn anrheg gan Jehofa. (Ex. 4:10, 11; Dat. 4:11) Yn ei Air, mae’n helpu inni ddeall y ffordd gywir o ddefnyddio’r anrheg honno. Byddwn ni’n ystyried yn yr erthygl hon, esiamplau o’r Beibl a fydd yn ein helpu i wybod pryd i siarad a phryd i gadw’n ddistaw. Byddwn ni hefyd yn gweld sut mae Jehofa’n teimlo am yr hyn a ddywedwn wrth eraill. Yn gyntaf, gad inni ystyried pryd dylen ni siarad.
PRYD DYLEN NI SIARAD?
3. Yn ôl Rhufeiniaid 10:14, pryd dylen ni siarad?
3 Dylen ni wastad fod yn barod i siarad am Jehofa a’r Deyrnas. (Math. 24:14; darllen Rhufeiniaid 10:14.) Drwy wneud hyn rydyn ni’n efelychu Iesu. Un o’r prif resymau pam daeth Iesu i’r ddaear oedd er mwyn dweud wrth eraill y gwir am ei Dad. (Ioan 18:37) Ond rhaid inni gofio bod y ffordd rydyn ni’n siarad hefyd yn bwysig. Felly pan ydyn ni’n siarad ag eraill am Jehofa, mae’n rhaid inni wneud hynny “gydag addfwynder a pharchedig ofn,” a dylen ni fod yn ystyriol o deimladau a daliadau’r person arall. (1 Pedr 3:15, BCND) Wedyn, byddwn ni’n gwneud mwy na siarad yn unig, byddwn ni’n ei ddysgu ac efallai yn cyrraedd ei galon.
4. Yn ôl Diarhebion 9:9, sut gall ein geiriau helpu eraill?
Diarhebion 9:9.) Pam mae hi’n bwysig inni fagu’r hyder i siarad pan fo rhaid? Ystyria ddwy esiampl wahanol. Mewn un achos roedd rhaid i ddyn gywiro ei feibion, ac mewn achos arall, roedd rhaid i ddynes wynebu darpar frenin.
4 Ni ddylai henuriaid oedi rhag dweud rhywbeth os ydyn nhw’n gweld bod brawd neu chwaer angen cyngor. Wrth gwrs, byddan nhw’n dewis yr adeg gywir i siarad fel nad ydyn nhw’n codi cywilydd ar y person hwnnw. Bydden nhw eisiau disgwyl nes bod neb arall o gwmpas. Mae henuriaid wastad yn ymdrechu i siarad mewn ffordd sy’n gwarchod hunan-barch y gwrandawr. Eto, dydyn nhw ddim yn dal yn ôl rhag rhannu egwyddorion o’r Beibl a all helpu eraill i wneud penderfyniadau doeth. (Darllen5. Pryd gwnaeth Eli ddal ei dafod pan ddylai fod wedi siarad?
5 Roedd yr Archoffeiriad Eli yn caru ei ddau fab yn fawr iawn. Ond, doedd gan y meibion hynny ddim parch tuag at Jehofa. Roedd ganddyn nhw gyfrifoldebau pwysig fel offeiriaid yn gwasanaethu yn y tabernacl. Ond, roedden nhw’n camddefnyddio eu hawdurdod, drwy ddangos diffyg parch llwyr tuag at yr offrymau a oedd yn rhoddion i Jehofa, a chyflawni anfoesoldeb rhywiol heb ddim cywilydd o gwbl. (1 Sam. 2:12-14, BCND, 15-17, 22) Yn ôl Cyfraith Moses, roedd meibion Eli yn haeddu marw, eto dim ond eu dwrdio’n ysgafn a wnaeth Eli a gadael iddyn nhw barhau i wasanaethu yn y tabernacl. (Deut. 21:18-21) Beth roedd Jehofa’n ei feddwl o’r ffordd y gwnaeth Eli ddelio â’r sefyllfa? Dywedodd wrth Eli: “Pam wyt ti’n dangos mwy o barch at dy feibion nag ata i?” A dyma Jehofa yn penderfynu lladd y ddau ddyn drwg hynny.—1 Sam. 2:29, 34.
6. Beth rydyn ni’n ei ddysgu oddi wrth Eli?
6 Rydyn ni’n dysgu gwers bwysig oddi wrth Eli. Os ydyn ni’n cael gwybod bod ffrind neu aelod o’n teulu wedi torri cyfraith Duw, dylen ni siarad ag ef, gan ei atgoffa o safonau Jehofa. Wedyn, dylen ni sicrhau ei fod yn cael yr help sydd ei angen arno gan gynrychiolwyr Jehofa. (Iago 5:14) Fydden ni byth eisiau bod fel Eli, yn anrhydeddu ffrind neu aelod o’n teulu yn fwy na Jehofa. Mae’n gofyn am ddewrder i allu wynebu rhywun sydd angen ei gywiro, ond mae’n werth yr ymdrech. Sylwa ar y gwahaniaeth rhwng esiampl Eli ac esiampl Abigail, dynes o Israel.
7. Pam siaradodd Abigail â Dafydd?
7 Roedd Abigail yn wraig i berchennog tir cyfoethog o’r enw Nabal. Pan oedd Dafydd a’i ddynion yn ffoi oddi wrth y Brenin Saul, treulion nhw beth amser gyda bugeiliaid Nabal, a gwnaethon nhw amddiffyn ei braidd rhag lladron. A oedd Nabal yn ddiolchgar am eu help? Nac oedd. Pan ofynnodd Dafydd am rywfaint o fwyd a dŵr i’w ddynion, gwylltiodd Nabal gan weiddi a rhegi arnyn nhw. (1 Sam. 25:5-14) O ganlyniad, penderfynodd Dafydd y byddai’n lladd pob dyn yn nhŷ Nabal. (1 Sam. 25:13, 22) A oedd modd osgoi’r fath drychineb? Sylweddolodd Abigail ei bod hi’n amser i siarad, felly aeth yn ddewr i wynebu’r 400 o ddynion arfog, dig, a llwglyd er mwyn siarad â Dafydd.
8. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Abigail?
8 Pan wnaeth Abigail gyfarfod Dafydd, siaradodd yn llawn hyder, parch a pherswâd. Ymddiheurodd i Dafydd, er nad hi oedd ar fai. Apeliodd at rinweddau da Dafydd a dibynnodd ar Jehofa i’w helpu hi. (1 Sam. 25:24, 26, 28, 33, 34) Fel Abigail, mae angen i ni fagu’r dewrder i siarad pan welwn fod rhywun yn gwneud rhywbeth a allai arwain at gamgymeriad difrifol. (Salm 141:5) Mae’n rhaid inni fod yn barchus, ond hefyd mae’n rhaid inni fod yn hyderus. Drwy gynnig cyngor cariadus pan fo angen, byddwn ni’n dangos ein bod ni’n ffrind go iawn.—Diar. 27:17.
9-10. Beth dylai henuriaid ei gofio wrth roi cyngor i eraill?
9 Mae’n bwysig fod gan henuriaid yn enwedig y dewrder i siarad â rhai yn y gynulleidfa sydd wedi gwneud camgymeriad. (Gal. 6:1) Mae henuriaid gostyngedig hefyd yn sylweddoli eu bod nhw’n amherffaith, ac efallai bydd angen cyngor arnyn nhwthau un diwrnod. Ond dydy henuriaid ddim yn gadael i hynny eu dal nhw’n ôl rhag disgyblu pan fydd angen. (2 Tim. 4:2; Titus 1:9) Wrth roi cyngor i rywun, maen nhw’n ceisio defnyddio eu gallu i siarad er mwyn ei ddysgu â sgìl ac amynedd. Maen nhw’n caru eu brawd, a’r cariad hwnnw sy’n eu hysgogi nhw i weithredu. (Diar. 13:24) Ond eu blaenoriaeth yw anrhydeddu Jehofa trwy gefnogi ei safonau, ac amddiffyn y gynulleidfa rhag niwed.—Act. 20:28.
10 Hyd yma, rydyn ni wedi trafod pryd i siarad. Ond, mae ’na adegau pan fydd hi’n well dweud dim. Pa heriau gallen ni eu hwynebu ar adegau felly?
PRYD DYLEN NI GADW’N DAWEL?
11. Pa eglureb ddefnyddiodd Iago, a pham mae hi’n briodol?
11 Gall fod yn anodd inni reoli ein tafod. Roedd Iago, un o ysgrifenwyr y Beibl, yn rhoi eglureb am ffrwyn ar geffyl pan ddywedodd: “Os oes rhywun yn gallu rheoli ei dafod, a dweud dim byd o’i le byth, dyna i chi berson perffaith! Rhywun sy’n gallu rheoli ei hun yn llwyr.” (Iago 3:2, 3) Rhoddir ffrwyn ar war ceffyl, a genfa yn ei geg. Drwy dynnu ar yr awenau, gall marchog arwain y ceffyl neu ei stopio. Os ydy’r marchog yn colli gafael ar yr awenau, gall y ceffyl redeg yn wyllt ac achosi niwed iddo’i hun a’r marchog. Mewn ffordd debyg, os ydyn ni’n colli rheolaeth ar ein tafod, gall hynny achosi niwed mawr. Gad inni ystyried rhai sefyllfaoedd pan fydd rhaid inni “ffrwyno ein tafod” a dal yn ôl rhag siarad.
12. Pryd dylen ni “ffrwyno” a dal yn ôl rhag siarad?
12 Sut rwyt ti’n ymateb os oes gan frawd neu chwaer wybodaeth gyfrinachol? Er enghraifft, os wyt ti’n cyfarfod rhywun
sy’n byw mewn gwlad lle mae ein gwaith o dan waharddiad, a wyt ti’n ysu am ofyn iddo am fanylion ynglŷn â sut mae’r gwaith yn cael ei drefnu yn y wlad honno? Wrth gwrs, dwyt ti ddim yn dymuno drwg iddyn nhw. Rydyn ni’n caru ein brodyr a’n chwiorydd ac mae gennyn ni ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw. Rydyn ni hefyd eisiau bod yn benodol wrth inni weddïo drostyn nhw. Ond, dyma yw’r amser i “ffrwyno” a dal yn ôl rhag siarad. Os byddwn ni’n rhoi pwysau ar rywun sydd â gwybodaeth gyfrinachol, byddwn yn dangos diffyg cariad tuag at y person hwnnw, a’r brodyr a chwiorydd sy’n dibynnu arno i gadw’n ddistaw ynglŷn â’u gweithgareddau. Yn bendant, fyddai’r un ohonon ni eisiau ychwanegu at anawsterau ein brodyr a’n chwiorydd sy’n byw mewn gwledydd lle mae’r gwaith wedi ei wahardd. Mewn ffordd debyg, ni fydd brawd neu chwaer sy’n gwasanaethu mewn gwlad o’r fath eisiau datgelu manylion ynglŷn â sut mae’r Tystion sy’n byw yno yn mynd o gwmpas eu gweinidogaeth neu weithgareddau Cristnogol.13. Yn ôl Diarhebion 11:13, beth dylai henuriaid ei wneud, a pham?
13 Mae’n rhaid i henuriaid yn enwedig weithredu ar yr egwyddor yn Diarhebion 11:13 drwy gadw cyfrinachedd. (Darllen.) Gall hyn fod yn her, yn enwedig os yw’r henuriad yn briod. Mae cwpl priod yn cadw eu perthynas yn gryf drwy siarad yn aml â’i gilydd a drwy rannu eu meddyliau, teimladau, a phryderon. Ond mae henuriad yn sylweddoli na ddylai ‘fradychu cyfrinachau’ y rhai sydd yn y gynulleidfa. Os byddai’n gwneud hynny, byddai’n colli eu hymddiriedaeth ynddo a difetha ei enw da. Ni all y rhai sydd â chyfrifoldebau yn y gynulleidfa fod “yn ddauwynebog.” (1 Tim. 3:8) Hynny ydy, ni allan nhw fod yn dwyllodrus nac yn dueddol o gario clecs. Os yw henuriad yn caru ei wraig, ni fydd yn llwytho gwybodaeth arni nad ydy hi angen ei wybod.
14. Sut gall gwraig henuriad ei helpu i gadw enw da?
14 Gall gwraig helpu ei gŵr i gadw enw da drwy beidio â rhoi pwysau arno i rannu materion cyfrinachol. Pan fydd gwraig yn gweithredu ar y cyngor hwn, nid yn unig bydd hi’n cefnogi ei gŵr ond bydd hi hefyd yn parchu’r rhai sydd wedi ymddiried ynddo. Ac yn bennaf oll, bydd hi’n gwneud Jehofa yn hapus oherwydd bydd hi’n cyfrannu at heddwch ac undod y gynulleidfa.—Rhuf. 14:19.
SUT MAE JEHOFA’N TEIMLO AM YR HYN RYDYN NI’N EI DDWEUD?
15. Beth roedd Jehofa’n ei feddwl am dri o gysurwyr Job, a pham?
15 Gallwn ni ddysgu llawer o hanes Job yn y Beibl ynglŷn â sut a phryd i siarad. Ar ôl i Job ddioddef cyfres o drychinebau torcalonnus, daeth pedwar dyn i’w gysuro a chynnig cyngor. Treuliodd y dynion hynny lawer o amser yn hollol fud. Ond mae’n amlwg o beth ddywedodd tri o’r dynion yn nes ymlaen—Eliffas, Bildad, a Soffar—nad oedden nhw wedi defnyddio’r amser yna i feddwl am sut gallen nhw helpu Job. Yn hytrach, roedden nhw’n meddwl am sut gallen nhw brofi bod Job wedi gwneud rhywbeth o’i le. Roedd rhai o’u datganiadau yn wir, ond roedd rhan helaeth o’u geiriau am Job a Jehofa un ai’n angharedig neu ddim yn wir. Wnaethon nhw gyhuddo Job o fod yn berson drwg. (Job 32:1-3) Beth oedd ymateb Jehofa? Roedd yn gandryll â’r tri dyn hynny. Galwodd nhw’n ffyliaid, a dywedodd wrthyn nhw am fynd at Job a gofyn iddo weddïo drostyn nhw.—Job 42:7-9.
16. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiamplau drwg Eliffas, Bildad, a Soffar?
Math. 7:1-5) Yn hytrach, dylen ni wrando’n astud arnyn nhw cyn siarad. Dim ond trwy wneud hynny gallwn ni ddeall eu sefyllfa. (1 Pedr 3:8) Yn ail, pan ydyn ni’n siarad, dylen ni sicrhau bod ein geiriau’n garedig ac yn wir. (Eff. 4:25) Ac yn drydydd, mae gan Jehofa ddiddordeb mawr yn yr hyn rydyn ni’n ei ddweud wrth ein gilydd.
16 Dysgwn sawl gwers o esiamplau drwg Eliffas, Bildad, a Soffar. Yn gyntaf, ni ddylen ni farnu ein brodyr. (17. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Elihw?
17 Y pedwerydd dyn i ymweld â Job oedd Elihw, o deulu Abraham. Gwrandawodd wrth i Job a’r tri dyn arall siarad. Yn amlwg talodd sylw manwl i’r hyn a gafodd ei ddweud oherwydd roedd yn gallu rhoi cyngor caredig ac onest a helpodd Job i gywiro ei ffordd o feddwl. (Job 33:1, 6, 17) Y peth pwysicaf i Elihw oedd anrhydeddu Jehofa, nid ei hun nac unrhyw ddyn arall. (Job 32:21, 22; 37:23, 24) O esiampl Elihw, dysgwn fod ’na amser i gadw’n dawel a gwrando. (Iago 1:19) Dysgwn hefyd mai anrhydeddu Jehofa, nid ein hunain, yw’r peth pwysicaf pan rown gyngor.
18. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi ein gallu i siarad?
18 Dangoswn ein bod ni’n gwerthfawrogi ein gallu i siarad drwy ddilyn cyngor y Beibl ynglŷn â phryd a sut i siarad. Ysbrydolwyd y Brenin Solomon i ysgrifennu: “Mae gair o ganmoliaeth fel gemwaith aur mewn tlws arian.” (Diar. 25:11) Pan fyddwn ni’n gwrando’n astud ar beth mae eraill yn ei ddweud, ac yn meddwl cyn siarad, gall ein geiriau fod yn debyg i’r gemwaith aur hwnnw—yn werthfawr ac yn hyfryd. Wedyn, p’un ai ydyn ni’n siaradus neu’n dawel, bydd ein geiriau’n calonogi eraill, a bydd Jehofa’n falch ohonon ni. (Diar. 23:15; Eff. 4:29) Dyna yw’r ffordd orau inni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r anrheg hon gan Dduw!
CÂN 82 ‘Disgleiriwch Eich Golau’
^ Par. 5 Mae Gair Duw yn cynnwys egwyddorion sy’n gallu ein helpu i wybod pryd i siarad a phryd i gadw’n dawel. Pan ydyn ni’n gwybod beth mae’r Beibl yn ei ddweud ac yn ei roi ar waith, bydd ein geiriau yn plesio Jehofa.
^ Par. 62 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Chwaer yn rhoi cyngor doeth i chwaer arall.
^ Par. 64 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Brawd yn cynnig awgrymiadau ynglŷn â glendid.
^ Par. 66 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Daeth canlyniadau da pan ddewisodd Abigail amser priodol i siarad â Dafydd.
^ Par. 68 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Cwpl yn ymatal rhag datgelu manylion ynglŷn â’n gwaith lle y mae wedi ei wahardd.
^ Par. 70 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Henuriad yn sicrhau bod neb yn gallu ei glywed yn siarad am fater cyfrinachol y gynulleidfa.