Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dysgu o Air Duw

Beth Fydd yn Digwydd ar Ddydd y Farn?

Beth Fydd yn Digwydd ar Ddydd y Farn?

Mae’r erthygl hon yn trafod cwestiynau efallai eich bod chi wedi gofyn ac yn dangos lle gallwch chi ddarllen yr atebion yn eich Beibl. Bydd Tystion Jehofa wrth eu boddau yn trafod yr atebion hyn gyda chi.

1. Beth yw Dydd y Farn?

Fel sydd wedi cael ei ddarlunio yn y llun ar y dde, mae llawer o bobl yn dychmygu y bydd biliynau o eneidiau yn dod o flaen gorsedd Duw ar Ddydd y Farn i gael eu barnu yn ôl eu gweithredoedd cynt​—rhai i gael eu gwobrwyo gyda bywyd yn y nef, ac eraill i gael eu poenydio yn uffern. Ond mae’r Beibl yn dangos mai pwrpas Dydd y Farn yw achub pobl o anghyfiawnder. (Salm 96:13) Mae Duw wedi penodi Iesu yn Farnwr a fydd yn adfer cyfiawnder i ddynolryw.—Darllenwch Eseia 11:1-5; Actau 17:31.

2. Sut bydd Dydd y Farn yn adfer cyfiawnder?

Pan wrthryfelodd y dyn cyntaf, Adda, yn fwriadol yn erbyn Duw, condemniodd bob un o’i ddisgynyddion i bechod, dioddefaint, a marwolaeth. (Rhufeiniaid 5:12) I unioni’r anghyfiawnder hwnnw, bydd Iesu yn dod â biliynau o’r meirwon yn ôl yn fyw, neu’n eu hatgyfodi. Yn ôl llyfr Datguddiad, bydd hyn yn digwydd yn ystod teyrnasiad mil blynyddoedd Crist Iesu.—Darllenwch Datguddiad 20:4, 11, 12.

Bydd y rhai sydd wedi cael eu hatgyfodi yn cael eu barnu, nid ar sail yr hyn maen nhw wedi ei wneud cyn iddyn nhw farw, ond ar sail beth maen nhw’n ei wneud pan fydd cynnwys y “llyfrau” y sonnir amdanyn nhw yn Datguddiad pennod 20 yn cael ei ddatgelu. (Rhufeiniaid 6:7) Yn ôl yr apostol Paul, ymhlith y rhai a fydd yn dod yn ôl yn fyw a chael y cyfle i ddysgu am Dduw yw’r bobl “sy’n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg.”—Darllenwch Actau 24:15.

3. Beth bydd Dydd y Farn yn ei gyflawni?

Bydd y rhai a fu farw heb erioed adnabod na gwasanaethu Jehofa Dduw yn cael y cyfle i newid a gwneud daioni. Os byddan nhw’n gwneud hynny, bydd eu hatgyfodiad nhw yn golygu eu bod “yn codi i gael bywyd.” Ond bydd ’na rai sy’n cael eu hatgyfodi fydd ddim eisiau dysgu am ffyrdd Jehofa. Bydd eu hatgyfodiad nhw yn golygu “codi i gael eu barnu.”—Darllenwch Ioan 5:28, 29; Eseia 26:10; 65:20.

Erbyn diwedd Dydd y Farn, a fydd yn para fil o flynyddoedd, bydd Jehofa wedi adfer dynoliaeth ufudd i’w chyflwr perffaith gwreiddiol. (1 Corinthiaid 15:24-28) Am ddyfodol rhyfeddol fydd hynny i bawb sy’n ufudd! Mewn prawf terfynol, bydd Duw yn rhyddhau o’r pydew diwaelod Satan y Diafol, a fydd wedi bod dan glo yno ers mil o flynyddoedd. Bydd Satan yn ceisio eto i droi pobl i ffwrdd oddi wrth Jehofa, ond bydd y rhai sy’n gwrthsefyll Satan yn cael mwynhau bywyd ar y ddaear am byth.—Darllenwch Eseia 25:8; Datguddiad 20:7-9.

4. Pa ddydd barn arall bydd yn dod â bendithion i ddynolryw?

Mae’r term “dydd y farn” yn y Beibl yn cyfeirio hefyd at ddigwyddiad fydd yn dod â’r system bresennol i ben. Mi fydd y dydd barn hwn yn dod yn sydyn fel yn oes Noa, a ysgubodd genhedlaeth ddrygionus gyfan i ffwrdd. Y newyddion da yw, mae dinistr “pobl annuwiol,” sydd ar fin digwydd, yn mynd i agor y ffordd i gymdeithas ddaearol newydd “lle mae cyfiawnder yn cartrefu.”—Darllenwch 2 Pedr 3:6, 7, 13, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.