MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU
“Dechreuais Feddwl o Ddifri am Gyfeiriad Fy Mywyd”
GANWYD: 1941
GWLAD ENEDIGOL: AWSTRALIA
HANES: YSMYGU A CHAMDDEFNYDDIO ALCOHOL
FY NGHEFNDIR:
Cefais fy magu yn y cefn gwlad mewn tref fach o’r enw Warialda, yn Ne Cymru Newydd. Mae Warialda yn gymuned amaethyddol lle mae pobl yn cadw defaid a gwartheg, yn tyfu ŷd a chnydau eraill. Mae’n dref lân a diogel.
Fi oedd yr hynaf o ddeg o blant, ac yn 13 oed, dechreuais weithio i helpu cynnal y teulu. Gan nad oeddwn i wedi cael llawer o addysg, cefais waith ar ffermydd, ac yn 15 oed roeddwn i’n gweithio fel dyn stoc, yn dofi ceffylau.
Roeddwn i wir yn mwynhau’r gwaith a’r awyrgylch ar y ffermydd. Roeddwn i wrth fy modd yn eistedd wrth y tân yn yr awyr agored, yn edrych ar y lleuad a’r sêr. Dw i’n cofio meddwl: ‘Mae’n rhaid bod Rhywun wedi creu’r holl bethau rhyfeddol hyn.’ Ond roedd y bobl o’m cwmpas yn ddylanwad drwg arna i. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ysmygu ac yn rhegi, ac yn fuan iawn roeddwn i’n gwneud yr un fath.
Ar ôl imi droi’n 18 oed, symudais i Sydney, gan fwriadu ymuno â’r fyddin. Ond ces i fy ngwrthod oherwydd nad oedd gen i ddigon o addysg. Cefais waith yn Sydney ac aros am flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe wnes i gwrdd â Thystion Jehofa am y tro cyntaf. Cefais wahoddiad i fynd i un o’u cyfarfodydd, ac roeddwn i’n gallu clywed tinc y gwirionedd yn eu dysgeidiaethau yn syth.
Sut bynnag, yn fuan wedyn, penderfynais fynd yn ôl i’r cefn gwlad. Symudais i Goondiwindi, yn Queensland. Yno, ces i swydd a phriodi, ond yn anffodus dechreuais yfed.
Cawson ni ddau fab. Ar ôl iddyn nhw gael eu geni, dechreuais feddwl o ddifri am gyfeiriad fy mywyd. Roeddwn i’n cofio beth glywais i yng nghyfarfod y Tystion yn Sydney, a phenderfynais wneud rhywbeth amdani.
Ddes i o hyd i hen gopi o’r Tŵr Gwylio, oedd yn cynnwys cyfeiriad swyddfa cangen Tystion Jehofa yn Awstralia. Anfonais lythyr yn gofyn am help a daeth Tyst caredig i ymweld â ni. Yn fuan wedyn, dechreuais astudio’r Beibl.
SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:
Wrth imi astudio’r Beibl, sylweddolais fod angen imi wneud newidiadau mawr yn fy mywyd. Cafodd 2 Corinthiaid 7:1 effaith fawr arna i. Yno mae’n dweud bod rhaid inni “lanhau ein hunain oddi wrth bob peth sy’n llygru cnawd.”
Penderfynais roi’r gorau i ysmygu a chamddefnyddio alcohol. Doedd hynny ddim yn hawdd, gan fod yr arferion hyn wedi bod yn rhan o fy mywyd ers blynyddoedd. Ond roeddwn i’n benderfynol y byddwn ni’n byw mewn ffordd sy’n plesio Duw. Yr help mwyaf oedd yr egwyddor yn Rhufeiniaid 12:2: “Stopiwch gael eich mowldio gan y byd hwn. Yn hytrach, gadewch i Dduw newid y ffordd rydych chi’n meddwl.” Sylweddolais fod angen imi newid fy ffordd o feddwl er mwyn newid fy mywyd. Roedd yn rhaid imi weld fy arferion yn bethau niweidiol, fel mae Duw yn eu gweld nhw. Gyda’i help, llwyddais i roi’r gorau i ysmygu a chamddefnyddio alcohol.
“Sylweddolais fod angen imi newid fy ffordd o feddwl er mwyn newid fy mywyd”
Ond yr her fwyaf oedd rhoi’r gorau i regi. Roeddwn i’n gwybod beth mae’r Beibl yn ei ddweud yn Effesiaid 4:29: “Peidiwch â gadael i air drwg ddod allan o’ch ceg.” Serch hynny, cymerodd amser imi newid fy iaith. Roedd myfyrio ar eiriau Eseia 40:26 yn help mawr imi. Yno, mae’n dweud: “Edrychwch i fyny ar y sêr! Pwy wnaeth eu creu nhw? Pwy sy’n eu galw nhw allan bob yn un? Pwy sy’n galw pob un wrth ei enw? Mae e mor gryf ac mor anhygoel o nerthol—does dim un ohonyn nhw ar goll.” Roeddwn i wrth fy modd yn edrych ar y sêr, ac roeddwn i’n meddwl, ‘Os ydy Duw yn gallu defnyddio ei bŵer i greu’r bydysawd, yn sicr mae’n gallu rhoi nerth imi er mwyn imi wneud newidiadau i’w blesio.’ Gyda gweddi a llawer o ymdrech, yn raddol bach, dysgais i reoli fy nhafod.
FY MENDITHION:
Pan oeddwn i’n gweithio fel dyn stoc ar y ffermydd, doedd dim llawer o bobl o gwmpas imi siarad â nhw. Serch hynny, drwy’r hyfforddiant sydd ar gael yng nghyfarfodydd Tystion Jehofa, dw i wedi dysgu sut i gyfathrebu. Ac mae’r hyfforddiant hynny wedi fy helpu i siarad ag eraill am y newyddion da am Deyrnas Dduw.—Mathew 6:9, 10; 24:14.
Dw i wedi bod yn gwasanaethu fel henuriad am sawl blwyddyn erbyn hyn, ac mae’n fraint cael gwneud fy ngorau glas i helpu fy mrodyr. Ond y fendith fwyaf sydd gen i yw gwasanaethu Jehofa gyda fy ngwraig ffyddlon a’n plant annwyl.
Dw i’n diolch i Jehofa am fy nysgu, er nad oedd gen i lawer o addysg. (Eseia 54:13) Dw i’n cytuno’n llwyr â geiriau Diarhebion 10:22, sy’n dweud: “Bendith yr ARGLWYDD sy’n cyfoethogi bywyd.” Rydyn ni fel teulu yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am Jehofa a’i wasanaethu am byth.