Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AR Y CLAWR | CELWYDDAU SYʼN GWNEUD HIʼN ANODD CARU DUW

Y Celwydd Sy’n Gwneud Duw yn Ddienw

Y Celwydd Sy’n Gwneud Duw yn Ddienw

CRED GYFFREDIN

“Nid oes cytundeb o ran a oes gan Dduw enw penodol, ac os felly, beth yw’r enw hwnnw.”—yr Athro David Cunningham, Theological Studies.

Y GWIR O’R BEIBL

Mae’r Beibl yn dweud “Tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFA wrth dy enw, Oruchaf ar yr holl ddaear.” (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Enw Hebraeg yw Jehofa, y mae’n golygu “Mae ef yn Peri i Fod.”

Mae Jehofa am i ni ddefnyddio ei enw. ‘Galwch ar ei enw,’ meddai’r Beibl. “Dwedwch wrth bobl y gwledydd beth wnaeth e; cyhoeddwch fod ei enw wedi’i godi’n uchel.”—Eseia 12:4.

Roedd Iesu yn defnyddio enw Duw. Gweddïodd Iesu ar Jehofa, gan ddweud am ei ddisgyblion: “Dw i wedi dangos pwy wyt ti [dy enw di, BCND] iddyn nhw, a bydda i yn dal ati i wneud hynny.” Pam roedd Iesu yn sôn am enw Duw wrth ei ddisgyblion? Aeth ymlaen i ddweud: “Er mwyn iddyn nhw garu eraill fel rwyt ti wedi fy ngharu i.”—Ioan 17:26.

PAM MAE’N BWYSIG

Ysgrifennodd y diwinydd Walter Lowrie: “Nid ydy dyn nad yw’n gwybod enw Duw yn gallu ei adnabod yn iawn na’i garu.”

Mae cuddio enw Duw, neu roi rhywbeth arall yn ei le, yn debyg i dorri ei enw allan o’r Beibl

Roedd dyn o’r enw Victor yn mynd i’r eglwys bob wythnos ond nid oedd yn teimlo ei fod yn adnabod Duw yn iawn. “Wedyn, dysgais mai Jehofa yw enw Duw, ac roedd hyn fel cwrdd ag ef am y tro cyntaf,” meddai. “Ro’n i’n teimlo fy mod i wedi cwrdd â’r un ro’n i wedi clywed gymaint amdano. Mi wnes i ddechrau ei weld fel ffrind go iawn.”

Mae Jehofa yn agosáu at y rhai sy’n defnyddio ei enw. I’r rhai sy’n “meddwl yn uchel ohono [“meddwl am ei enw,” BCND]” mae Duw yn addo: “Bydda i’n gofalu amdanyn nhw fel mae tad yn gofalu am fab sy’n gweithio iddo.” (Malachi 3:16, 17) Mae Duw hefyd yn gwobrwyo’r rhai sy’n galw ar ei enw. Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd pwy bynnag sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael ei achub.”—Rhufeiniaid 10:13.