Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

Doeddwn i Ddim yn Mynd i Nunlle Heb fy Ngwn

Doeddwn i Ddim yn Mynd i Nunlle Heb fy Ngwn
  • GANWYD: 1958

  • GWLAD ENEDIGOL: YR EIDAL

  • HANES: AELOD TREISGAR O GANG

FY NGHEFNDIR:

Ces i fy ngeni a fy magu mewn ardal dlawd yn Rhufain. Roedd bywyd yn galed. Dw i erioed wedi cyfarfod fy mam a doedd gen i ddim perthynas dda gyda fy nhad. Wnes i dyfu fyny yn dysgu sut i edrych ar ôl fy hun ar y stryd.

Erbyn o’n i’n 10 mlwydd oed o’n i wedi dechrau dwyn yn barod. Pan o’n i’n 12 wnes i redeg i ffwrdd o gartref am y tro cyntaf. Ar fwy nag un achlysur roedd rhaid i fy nhad bigo fi fyny o swyddfa’r heddlu a mynd a fi adref. O’n i’n ffraeo efo pobl drwy’r adeg—o’n i dreisgar, ac yn flin efo pawb a phopeth. Pan o’n i’n 14 wnes i adael gartref ac es i ddim yn ôl. Wnes i ddechrau cymryd cyffuriau a byw ar y stryd, a gan fod gen i nunlle i gysgu o’n i’n arfer torri i mewn i geir ac aros ynddyn nhw tan oriau mân y bore. Ac wedyn o’n i’n mynd i edrych am ffownten i gael molchi.

Des i’n dda iawn am ddwyn—unrhyw beth o ddwyn bagiau i dorri i mewn i fflatiau a thai crand yn ystod y nos. O’n i wedi dechrau cael enw drwg, ac yn fuan iawn ces i wahoddiad i ymuno â gang adnabyddus, a rhoddodd hynny gyfle imi “ehangu” fy ngwaith a dwyn o fanciau. Oherwydd fy mhersonoliaeth ymosodol, yn fuan iawn roedd gweddill y gang yn fy mharchu. Doeddwn i ddim yn mynd i nunlle heb fy ngwn. A dweud y gwir, o’n i’n cysgu efo fo o dan fy nghlustog. Roedd trais, cyffuriau, dwyn, iaith anweddus, ac anfoesoldeb yn rhan fawr o mywyd. Roedd yr heddlu ar fy ôl i o hyd. Ces i fy arestio sawl gwaith, a wnes i dreulio blynyddoedd i mewn ac allan o’r carchar.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

Ar un o’r adegau pan ges i fy rhyddhau o’r carchar, wnes i benderfynu mynd i weld fy modryb. Heb yn wybod i mi, oedd hi a dau o fy nghefndryd wedi dod yn Dystion Jehofa. Wnaethon nhw fy ngwahodd i i un o gyfarfodydd y Tystion. Wnes i benderfynu mynd efo nhw jest i fusnesu. Pan wnaethon ni gyrraedd y Neuadd, wnes i fynnu eistedd wrth ymyl y drws i gael cadw llygaid ar bwy oedd yn mynd ac yn dod. Ac wrth gwrs, o’n i’n cario fy ngwn.

Wnaeth y cyfarfod hwnnw newid fy mywyd. Dw i’n cofio meddwl mod i ar blaned arall. Ges i groeso cynnes gan bobl gyfeillgar ac oedden nhw i gyd yn gwenu. Dw i dal i gofio’n glir y caredigrwydd a’r gonestrwydd oedd yn eu llygaid. Oedd hyn yn gwbl wahanol i’r byd o’n i wedi arfer efo fo!

Wnes i ddechrau astudio’r Beibl gyda’r Tystion, a’r mwyaf o’n i’n dysgu, y mwyaf amlwg oedd hi fy mod i angen newid fy ffordd o fyw yn llwyr. Wnaeth y geiriau yn Diarhebion 13:20 daro tant gyda mi, mae’n dweud: “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.” Wnes i sylweddoli fy mod i angen gadael y gang. Doedd hynny ddim yn hawdd i’w wneud, ond gyda help Jehofa, mi wnes i lwyddo.

Am y tro cyntaf erioed o’n i wedi dechrau cael rheolaeth dros fy mywyd

Wnes i lawer o newidiadau eraill hefyd. Wnes i stopio ysmygu a chymryd cyffuriau. Doedd hynny ddim yn hawdd o bell ffordd. Wnes i dorri fy ngwallt hir, cael gwared o’r clustlysau, a stopio defnyddio iaith anweddus. Am y tro cyntaf erioed, o’n i wedi dechrau cael rheolaeth dros fy mywyd.

O’n i erioed wedi mwynhau darllen ac astudio, felly roedd hi’n her go iawn i ganolbwyntio ar astudio’r Beibl. Ond, wrth imi wneud yr ymdrech wnes i ddechrau caru Jehofa fesul tipyn, a dechreuodd rhywbeth newid y tu mewn i mi—wnaeth fy nghydwybod dechrau fy mhigo. O’n i’n aml yn brwydro teimladau negyddol am fy hun, gan amau nad oedd Jehofa yn gallu maddau imi o gwbl am yr holl bethau drwg o’n i wedi eu gwneud. Ar yr adegau hynny, ges i gysur mawr o ddarllen am Jehofa yn maddau i’r Brenin Dafydd ar ôl iddo bechu’n ddifrifol.—2 Samuel 11:1–12:13.

Oedd hi hefyd yn anodd iawn imi bregethu o ddrws i ddrws. (Mathew 28:19, 20) Oedd gen i ofn cyfarfod rhywun o’n i wedi brifo neu wedi pechu mewn rhyw ffordd yn y gorffennol. Ond, fesul dipyn wnes i lwyddo i drechu fy ofn. Wnes i ddechrau mwynhau helpu eraill i ddysgu am ein Tad nefol cariadus sy’n maddau mor hael inni.

FY MENDITHION:

Mae dysgu am Jehofa wedi achub fy mywyd. Mae’r rhan fwyaf o fy hen ffrindiau un ai wedi marw neu yn y carchar. Ond mae gen i fywyd wirioneddol hapus a dyfodol i edrych ymlaen ato. Dw i wedi dysgu bod yn ostyngedig ac yn ufudd, a dysgu i reoli fy nhymer gwyllt. O ganlyniad, mae gen i berthynas well efo’r bobl o’m cwmpas. Mae gen i a fy ngwraig hyfryd, Carmen, briodas hapus. Ac efo’n gilydd, ’dyn ni wrth ein boddau yn dysgu eraill am y Beibl.

O, a bellach mae gen i waith gonest, sydd weithiau’n dal i wneud â banciau, ond yn hytrach na dwyn oddi wrthyn nhw, dw i’n eu glanhau nhw!