Oeddet Ti’n Gwybod?
Beth oedd cychwyn y synagog?
MAE’R gair “synagog” yn dod o air Groeg sy’n golygu “cynulliad” neu “dod ynghyd.” Addas iawn yw’r enw oherwydd bod synagogau wedi cael eu defnyddio yn y cymunedau Iddewig ers amser maith er mwyn dysgu ac addoli. Does dim cyfeiriad amlwg at synagogau yn yr Ysgrythurau Hebraeg, ond mae hi’n glir o ddarllen yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol fod mannau ymgynnull o’r fath eisoes wedi eu sefydlu erbyn y ganrif gyntaf.
Mae’r rhan fwyaf o ysgolheigion yn credu bod synagogau wedi cychwyn yn ystod y gaethglud Iddewig ym Mabilon. Mae’r Encyclopaedia Judaica yn rhesymu: “Byddai’r Alltudion, a hwythau wedi eu hamddifadu o’r Deml, yn byw mewn gwlad estron, ac yn teimlo’r angen am gysur yn eu cyfyngder, yn cwrdd o bryd i’w gilydd ar y Saboth, yn ôl pob tebyg, i ddarllen yr Ysgrythurau.” Ar ôl cael eu rhyddhau o’u caethglud, mae’n ymddangos bod yr Iddewon wedi parhau i gwrdd ar gyfer gweddïo a darllen yr Ysgrythurau, ac wedi sefydlu synagogau le bynnag yr oedden nhw wedi ymsefydlu.
Erbyn y ganrif gyntaf, y synagog felly oedd canolfan bywyd crefyddol a chymdeithasol yr Iddewon ar gyfer eu cymunedau a oedd wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y Môr Canoldir, trwy’r Dwyrain Canol i gyd, ac yn Israel ei hun. “Roedd [y synagog] yn lle ar gyfer astudio, prydau bwyd cysegredig, achosion cyfreithiol, cadw arian cymunedol, a chynnal cyfarfodydd gwleidyddol a chymdeithasol,” meddai’r Athro Lee Levine o Brifysgol Hebraeg Jerwsalem. Mae’n ychwanegu: “O’r pwys mwyaf, wrth gwrs, oedd y gwasanaethau crefyddol.” Nid yw’n syndod felly fod Iesu wedi mynd yn aml i’r synagog. (Marc 1:21; 6:2; Luc 4:16) Yno yr oedd yn dysgu, yn annog, ac yn calonogi y rhai a oedd yn bresennol. Yn dilyn sefydlu’r gynulleidfa Gristnogol, roedd yr apostol Paul hefyd yn pregethu cryn dipyn mewn synagogau. Byddai’r rhai a oedd gan ddiddordeb mewn pethau ysbrydol yn mynd i’r synagog, ac felly pan oedd Paul yn cyrraedd dinas, ei arferiad oedd mynd i’r synagog yn gyntaf a phregethu yno.—Act. 17:1, 2; 18:4.