Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae Bod yn Ffyddlon yn Plesio Duw

Mae Bod yn Ffyddlon yn Plesio Duw

Efelycha’r rhai sydd drwy ffydd ac amynedd yn etifeddu’r addewidion.​—HEBREAID 6:12.

CANEUON: 86, 54

1, 2. Pa her roedd Jefftha a’i ferch yn ei hwynebu?

RHEDODD merch ifanc i gwrdd â’i thad. Roedd hi’n hapus iawn i weld ei thad yn dychwelyd yn ddiogel o’r rhyfel. Canodd a dawnsiodd mewn llawenydd oherwydd buddugoliaeth ei thad. Ond, dychmyga syndod y ferch o weld yr hyn a wnaeth ei thad nesaf. Rhwygodd ei thad ei ddillad a dweud: “Gwae fi, fy merch! Yr wyt ti wedi fy nryllio’n llwyr.” Wedyn, dywedodd wrthi am yr addewid a wnaeth i Jehofa a fyddai’n newid ei bywyd am byth. Roedd addewid ei thad yn golygu na fyddai hi’n gallu priodi na chael plant. Ond ymateb y ferch oedd annog ei thad i gadw ei addewid i Jehofa. Dangosodd hyn ei bod hi’n gwybod y byddai’r hyn yr oedd Jehofa yn ei ofyn ganddi yn rhywbeth da. (Barnwyr 11:34-37) Pan welodd y tad ei ffydd, teimlodd yn falch iawn ohoni oherwydd ei fod yn gwybod y byddai ei pharodrwydd yn plesio Jehofa.

2 Roedd Jefftha a’i ferch yn ymddiried yn llwyr yn Jehofa ac yn ei ffordd ef o wneud pethau. Roedden nhw’n ffyddlon hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd. Roedden nhw’n ceisio cymeradwyaeth Jehofa ac roedd hynny’n werth unrhyw aberth.

3. Sut gall esiampl Jefftha a’i ferch fod o les inni heddiw?

3 Nid yw aros yn ffyddlon i Jehofa bob amser yn hawdd. Mae angen inni ymladd “yn y frwydr o blaid y ffydd.” (Jwdas 3) I’n helpu ni i wneud hyn, gad inni ddysgu sut roedd Jefftha a’i ferch yn dyfalbarhau er gwaethaf anawsterau. Sut roedden nhw’n aros yn ffyddlon i Jehofa?

AROS YN FFYDDLON ER GWAETHAF DYLANWADAU BYDOL

4, 5. (a) Pa orchymyn a roddodd Jehofa i’r Israeliaid pan aethon nhw i mewn i Wlad yr Addewid? (b) Yn ôl Salm 106, beth ddigwyddodd i’r Israeliaid oherwydd eu hanufudd-dod?

4 Bob dydd, byddai Jefftha a’i ferch wedi cael eu hatgoffa o ganlyniadau anufudd-dod yr Israeliaid. Bron i 300 o flynyddoedd yn gynharach, gorchmynnodd Jehofa i’r Israeliaid ladd pob un o’r gau addolwyr yng Ngwlad yr Addewid, ond ni wnaethon nhw wrando. (Deuteronomium 7:1-4) Yn hytrach, dechreuodd llawer o’r Israeliaid efelychu’r Canaaneaid, pobl a oedd yn addoli gau dduwiau ac yn byw bywydau anfoesol.—Darllen Salm 106:34-39.

5 Oherwydd anufudd-dod yr Israeliaid, ni wnaeth Jehofa eu hamddiffyn nhw rhag eu gelynion. (Barnwyr 2:1-3, 11-15; Salm 106:40-43) Byddai hi wedi bod yn anodd iawn i’r teuluoedd a oedd yn caru Jehofa aros yn ffyddlon yn ystod y blynyddoedd anodd hynny. Ond, mae’r Beibl yn sôn am rai a arhosodd yn ffyddlon i Jehofa ac a oedd yn benderfynol o’i blesio, rhai fel Jefftha a’i ferch, Elcana, Hanna, a Samuel.—1 Samuel 1:20-28; 2:26.

6. Pa ddylanwadau drwg sy’n bodoli heddiw, a beth dylen ni ei wneud?

6 Yn ein hamser ni, mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn fel yr oedd y Canaaneaid. Maen nhw’n rhoi eu holl fryd ar arian, trais, a rhyw. Ond mae Jehofa’n rhoi rhybuddion clir inni. Mae Duw eisiau ein hamddiffyn yn yr un modd yr amddiffynnodd yr Israeliaid rhag dylanwadau drwg. A fyddwn ni’n dysgu o’u camgymeriadau? (1 Corinthiaid 10:6-11) Mae’n rhaid inni wneud popeth y gallwn ni i osgoi meddylfryd y byd. (Rhufeiniaid 12:2) A fyddwn ni’n gwneud ein gorau i wneud hynny?

ARHOSODD JEFFTHA YN FFYDDLON ER GWAETHAF SIOMEDIGAETH

7. (a) Sut cafodd Jefftha ei drin gan ei bobl ei hun? (b) Sut gwnaeth Jefftha ymateb?

7 Yn oes Jefftha, oherwydd anufudd-dod yr Israeliaid, cawson nhw eu gorthrymu gan y Philistiaid a’r Ammoniaid. (Barnwyr 10:7, 8) Yn ychwanegol i’r cenhedloedd gelyniaethus, roedd gan Jefftha broblemau gyda’i frodyr ei hun a chydag arweinwyr Israel. Oherwydd bod ei frodyr yn ei gasáu ac yn genfigennus ohono, roedden nhw’n gorfodi Jefftha i adael y tir yr oedd yn perthyn iddo’n gyfreithiol. (Barnwyr 11:1-3) Nid oedd Jefftha yn caniatáu i ymddygiad creulon ei wrthwynebwyr effeithio ar ei agwedd ef. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Pan wnaeth henuriaid y genedl ymbil arno am help, ymatebodd yn syth. (Barnwyr 11:4-11) Beth oedd yn ysgogi Jefftha i ymateb fel hynny?

8, 9. (a) Pa egwyddorion yng Nghyfraith Moses a oedd efallai wedi helpu Jefftha? (b) Beth oedd y peth pwysicaf i Jefftha?

8 Rhyfelwr dewr oedd Jefftha a gwyddai hanes Israel a Chyfraith Moses i’r dim. O weld y ffordd roedd Jehofa yn trin Ei bobl, dysgodd am safonau Duw. (Barnwyr 11:12-27) Defnyddiodd Jefftha’r wybodaeth honno er mwyn gwneud penderfyniadau. Gwyddai sut roedd Jehofa yn teimlo am bobl yn gwylltio ac yn dial ar ei gilydd, a bod Jehofa eisiau i’w bobl ddangos cariad tuag at ei gilydd. Ar ben hynny, gwnaeth y Gyfraith ddysgu Jefftha sut i drin eraill, hyd yn oed y rhai a oedd yn ei gasáu.—Darllen Exodus 23:5; Lefiticus 19:17, 18.

9 Mae’n debyg fod esiampl Joseff wedi helpu Jefftha. Byddai wedi dysgu am drugaredd Joseff tuag at ei frodyr er eu bod nhw’n ei gasáu ef. (Genesis 37:4; 45:4, 5) Efallai roedd myfyrio ar yr esiampl hon yn helpu Jefftha i ymateb mewn ffordd a oedd yn plesio Jehofa. Roedd yr hyn a wnaeth ei frodyr wedi brifo Jefftha i’r byw. Ond roedd ymladd dros enw Jehofa a’i bobl yn bwysicach iddo na’i deimladau ei hun. (Barnwyr 11:9) Roedd yn benderfynol o fod yn ffyddlon, ac oherwydd ei agwedd dda, cafodd ef a’r Israeliaid eu bendithio.—Hebreaid 11:32, 33.

Ni ddylen ni ganiatáu i’n siomedigaeth ein hatal ni rhag gwasanaethu Jehofa

10. Sut y gallwn ninnau ganiatáu i egwyddorion dwyfol ein helpu ni i ymddwyn fel Cristnogion heddiw?

10 A fyddwn ni’n dysgu oddi wrth esiampl Jefftha? Beth byddwn ni’n ei wneud petaen ni’n cael ein siomi gan y brodyr neu os ydyn ni’n teimlo nad ydyn nhw wedi ein trin ni’n deg? Ni ddylen ni ganiatáu i’r siomedigaeth honno ein hatal ni rhag gwasanaethu Jehofa. Paid byth â stopio mynd i’r cyfarfodydd na chymdeithasu â’r gynulleidfa. Bydd ufuddhau i Jehofa yn ein helpu ni i gael y llaw uchaf ar sefyllfaoedd anodd, fel y gallwn ninnau hefyd fod yn esiampl dda.—Rhufeiniaid 12:20, 21; Colosiaid 3:13.

MAE ABERTHAU O’N GWIRFODD YN DATGELU EIN FFYDD

11, 12. Pa addewid a wnaeth Jefftha, a beth roedd hyn yn ei gynnwys?

11 Gwyddai Jefftha fod angen help Duw arno i ryddhau’r Israeliaid o ormes yr Ammoniaid. Addawodd Jefftha i Jehofa y byddai’n aberthu’n “boethoffrwm” i Dduw y person cyntaf a fyddai’n dod allan o’r tŷ ar ôl iddo ddychwelyd o’r frwydr, petai Duw yn rhoi’r fuddugoliaeth iddo. (Barnwyr 11:30, 31) Beth roedd hynny yn ei olygu?

12 Mae Jehofa yn casáu’r weithred o aberthu pobl yn llythrennol, felly rydyn ni’n sicr nad oedd Jefftha yn bwriadu gwneud hynny. (Deuteronomium 18:9, 10) O dan Gyfraith Moses, roedd poethoffrwm yn anrheg arbennig yr oedd rhywun yn ei rhoi yn llwyr i Jehofa. Felly, bwriad Jefftha oedd i’r person y byddai yn ei roi i Jehofa yn gwasanaethu yn y tabernacl am weddill ei oes. Gwrandawodd Jehofa ar Jefftha a’i helpu i ennill y frwydr. (Barnwyr 11:32, 33) Ond pwy fyddai Jefftha yn ei roi i Jehofa?

13, 14. Beth mae geiriau Jefftha yn Barnwyr 11:35 yn ei ddatgelu am ei ffydd?

13 Dychmyga’r olygfa a ddisgrifiwyd ar ddechrau’r erthygl hon. Pan ddaeth Jefftha yn ôl o’r frwydr, y person cyntaf i ddod allan o’r tŷ oedd ei ferch annwyl, ei unig blentyn! A fyddai Jefftha yn cadw at ei air? A fyddai’n rhoi ei ferch ei hun i Jehofa i wasanaethu yn y tabernacl am weddill ei hoes?

14 Unwaith eto, mae’n debyg fod yr egwyddorion yng Nghyfraith Duw wedi helpu Jefftha i wneud y penderfyniad iawn. Efallai, cofiodd y geiriau yn Exodus 23:19 sy’n dweud y dylai pobl Dduw fod yn barod i roi’r gorau sydd ganddyn nhw i Jehofa. Roedd y Gyfraith hefyd yn dweud y canlynol am rywun a oedd yn gwneud addewid i Jehofa: “Nid yw i dorri ei air, ond y mae i wneud y cyfan a addawodd.” (Numeri 30:2) Fel Hanna, a oedd yn fwy na thebyg yn byw yn yr un cyfnod, roedd rhaid i Jefftha gadw ei addewid, er iddo wybod y canlyniadau. Oherwydd bod ei ferch yn gwasanaethu yn y tabernacl, ni fyddai hi byth yn cael plant. Felly, nid oedd unrhyw un ar gael i etifeddu enw a thiroedd Jefftha. (Barnwyr 11:34) Er hynny, dywedodd Jefftha: “Gwneuthum addewid i’r ARGLWYDD, ac ni allaf ei thorri.” (Barnwyr 11:35) Derbyniodd Jehofa aberth mawr Jefftha a’i fendithio. A fyddet ti wedi bod yr un mor ffyddlon â Jefftha?

15. Pa addewid y mae llawer ohonon ni wedi ei wneud, a sut gallwn ni aros yn ffyddlon?

15 Pan ymgysegron ni ein bywydau i Jehofa, fe wnaethon ni addo gwneud ei ewyllys doed a ddelo. Roedden ni’n gwybod na fyddai hi bob tro yn hawdd cadw at ein haddewid. Ond sut rydyn ni’n ymateb pan fo rhywun yn gofyn inni wneud rhywbeth nad ydyn ni’n ei hoffi? Os ydyn ni’n trechu ein teimladau ac yn ufuddhau i Dduw, rydyn ni’n profi ein bod ni’n cadw at ein haddewid. Gall ein haberthau fod yn boenus, ond mae bendithion Jehofa yn wastad yn well. (Malachi 3:10) Ond sut roedd merch Jefftha yn ymateb i addewid ei thad?

Sut gallwn ni efelychu ffydd Jefftha a’i ferch? (Gweler paragraffau 16, 17)

16. Beth oedd ymateb merch Jefftha i addewid ei thad? (Gweler y llun agoriadol.)

16 Roedd addewid Jefftha yn wahanol i un Hanna. Roedd hi wedi addo rhoi ei mab Samuel i wasanaethu yn y tabernacl fel Nasaread. (1 Samuel 1:11) Roedd y Nasareaid yn cael priodi a chael teulu. Ond roedd merch Jefftha “yn boethoffrwm,” felly nid oedd y llawenydd o fod yn wraig ac yn fam ar gael iddi. (Barnwyr 11:37-40) Meddylia am y peth! Mae’n debyg y byddai hi wedi gallu priodi’r dyn gorau yn y wlad gan mai ei thad oedd arweinydd Israel. Ond nawr, byddai hi’n gwasanaethu yn y tabernacl. Beth oedd ymateb y ferch? Roedd hi’n dangos bod ei gwasanaeth i Jehofa yn dod yn gyntaf drwy ddweud: “Gwna imi fel yr addewaist.” (Barnwyr 11:36) Aberthodd merch Jefftha ei hawydd naturiol i gael gŵr a phlant er mwyn gwasanaethu Jehofa. Sut gallwn ni efelychu ei hagwedd hunanaberthol hi?

Aberthodd merch Jefftha ei hawydd naturiol i gael gŵr a phlant er mwyn gwasanaethu Jehofa

17. (a) Sut gallwn ni efelychu ffydd Jefftha a’i ferch? (b) Sut mae’r geiriau yn Hebreaid 6:10-12 yn dy annog di i fod yn hunanaberthol?

17 Mae miloedd o Gristnogion ifanc yn dewis peidio â phriodi a chael plant, o leiaf dro dros. Pam? Oherwydd eu bod nhw eisiau canolbwyntio ar wasanaethu Jehofa. Hefyd, mae llawer o’r rhai hŷn yn aberthu amser gyda’u plant a’u hwyrion er mwyn rhoi mwy o’u hamser a’u hegni i Jehofa. Mae rhai ohonyn nhw’n gweithio ar brosiectau adeiladu, neu’n mynychu’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas ac yn symud i gynulleidfa sydd angen mwy o gyhoeddwyr. Mae eraill yn ehangu eu gwasanaeth i Jehofa adeg y Goffadwriaeth. Ni fydd Jehofa byth yn anghofio aberthau cariadus ei weision ffyddlon. (Darllen Hebreaid 6:10-12.) Beth amdanat ti? A elli di aberthu er mwyn gwneud mwy yn dy wasanaeth i Jehofa?

BETH RYDYN NI WEDI EI DDYSGU?

18, 19. Beth rydyn ni wedi ei ddysgu o hanes Jefftha a’i ferch, a sut gallwn ni eu hefelychu?

18 Beth helpodd Jefftha i godi uwchlaw ei broblemau? Roedd yn gadael i Jehofa lywio ei benderfyniadau. Penderfynodd Jefftha beidio â gadael i’r bobl o’i gwmpas ddylanwadu arno. Ac arhosodd yn ffyddlon hyd yn oed pan oedd eraill yn ei siomi. Cafodd Jefftha a’i ferch eu bendithio gan Jehofa am yr aberthau a offrymon nhw o’u gwirfodd, ac fe gawson nhw eu defnyddio gan Jehofa i hybu gwir addoliad. Hyd yn oed pan oedd eraill yn gwneud pethau drwg, arhosodd Jefftha a’i ferch yn ffyddlon.

19 Dywed y Beibl y dylen ni efelychu’r “rhai sydd drwy ffydd ac amynedd yn etifeddu’r addewidion.” (Hebreaid 6:12) Gad inni efelychu Jefftha a’i ferch, gan wybod os ydyn ni’n aros yn ffyddlon, bydd Jehofa yn ein bendithio.