Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Lleianod yn Dod yn Wir Chwiorydd Ysbrydol

Lleianod yn Dod yn Wir Chwiorydd Ysbrydol

LAWER o flynyddoedd yn ôl, dyma fy chwaer iau Araceli yn gwylltio ac yn gweiddi: “Taw. Rwyf wedi cael llond bol o glywed am dy grefydd. Mae’n gwneud imi deimlo’n sâl. Rwy’n dy gasáu di!” Roedd ei geiriau wedi fy mrifo i’r byw. Rwyf bellach yn 91 mlwydd oed, ac rwy’n cofio’r geiriau hyd heddiw. Ond, fel y dywed Pregethwr 7:8: “Y mae diwedd peth yn well na’i ddechrau.”—Felisa.

Felisa: Cefais fy magu mewn teulu cyffredin yn Sbaen. Catholigion oedden ni, ac roedden ni’n grefyddol iawn. Yn wir, roedd 13 o’m perthnasau yn offeiriaid neu’n gweithio i’r eglwys. Roedd cefnder fy mam yn offeiriad ac yn athro mewn ysgol Gatholig. Ar ôl iddo farw, cafodd ei anrhydeddu a’i wynfydu gan y Pab Ioan Pawl II. Gweithiwr metel oedd fy nhad, a gweithio yn y caeau oedd fy mam. Cawson nhw wyth o blant, a minnau oedd yr hynaf.

Pan oeddwn yn 12 oed, dechreuodd rhyfel cartref yn Sbaen. Ar ôl y rhyfel, carcharwyd fy nhad oherwydd nad oedd y llywodraeth yn hoff iawn o’i syniadau gwleidyddol. Roedd fy mam yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddigon o fwyd inni. Felly, anfonwyd fy nhair chwaer, Araceli, Lauri, a Ramoni, i fyw gyda lleianod mewn cwfaint yn ninas Bilbao. Yno, roedd gan fy chwiorydd ddigon o fwyd i’w fwyta.

Araceli: Bryd hynny, roeddwn yn 14 mlwydd oed, Lauri yn 12, a Ramoni yn 10. Roedden ni’n colli ein teulu yn fawr iawn. Yn y cwfaint, ein gwaith oedd glanhau. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cawson ni ein hanfon gan y lleianod i gwfaint mawr yn Zaragoza a oedd yn gofalu am yr henoed. Roedd yn rhaid inni weithio’n galed yn glanhau’r gegin, ac roedden ni wedi ymlâdd ar ôl gwneud hyn.

Felisa: Pan aeth fy chwiorydd i’r cwfaint yn Zaragoza, penderfynodd fy mam a’m hewythr, yr offeiriad lleol, fy anfon i yno hefyd. Roedden nhw eisiau fy nghadw yn bell oddi wrth fachgen a oedd yn fy hoffi. Oherwydd fy mod i’n caru Duw, edrychais ymlaen at dreulio amser yn y cwfaint. Roeddwn i’n mynd i’r eglwys bob dydd, ac roeddwn eisiau mynd yn genhades Gatholig fel fy nghefnder yn Affrica.

Chwith: Y cwfaint yn Zaragoza, Sbaen; de: Y cyfieithiad Nácar-Colunga o’r Beibl

Ond yn y cwfaint, roeddwn i’n teimlo nad oeddwn i’n medru gwireddu fy mreuddwydion. Ni chefais anogaeth gan y lleianod i fynd i wasanaethu dramor fel yr oeddwn yn gobeithio. Felly, flwyddyn yn ddiweddarach, es i adref a gofalu am fy ewythr, yr offeiriad. Roeddwn yn gwneud gwaith tŷ iddo, ac roedden ni’n adrodd y gweddïau gyda’n gilydd gyda’r nos. Roeddwn i hefyd yn hoff o drefnu’r blodau yn yr eglwys a gofalu am y delwau o’r Forwyn Fair a’r “seintiau.”

Araceli: Tra oeddwn yn Zaragoza, roedd yn rhaid imi wneud fy addunedau cyntaf er mwyn mynd yn lleian. Yna, penderfynodd y lleianod fy ngwahanu oddi wrth fy chwiorydd. Felly, cefais innau fy anfon i gwfaint ym Madrid a Lauri i gwfaint yn Valencia. Arhosodd Ramoni yn Zaragoza. Ym Madrid, penderfynais wneud fy ail set o addunedau i ddod yn lleian. Roedd llawer o bobl yn dod i aros yn y cwfaint, fel myfyrwyr a phobl oedrannus. Felly, roedd digon o waith i’w wneud. Roeddwn i’n gweithio yn ysbyty’r cwfaint.

Edrychais ymlaen at fy mywyd fel lleian. Roeddwn i’n disgwyl treulio amser yn darllen y Beibl ac yn dysgu amdano. Ond cefais fy siomi. Doedd neb yn defnyddio’r Beibl nac ychwaith yn siarad am Dduw na Iesu. Dysgais beth Lladin, astudio hanes y seintiau Catholig, ac addoli Mair. Ond, yn amlach na pheidio, roedden ni’n gwneud dim byd arall ond gweithio’n galed.

Dechreuais boeni a theimlo o dan straen. Roeddwn i’n teimlo y dylwn i fod yn ennill arian er mwyn helpu fy nheulu yn hytrach na gweithio mewn cwfaint i wneud pobl eraill yn gyfoethog. Felly, siaradais â’r uchel fam ynglŷn â hyn, a dweud wrthi fy mod i eisiau gadael. Ond fe wnaeth hi fy nghloi mewn cell. Roedd hi’n meddwl y byddai hyn yn dwyn perswâd arnaf i aros.

Gwnaeth y lleianod adael imi ddod allan o’r gell, ond pan sylweddolon nhw fy mod i’n dal eisiau gadael y cwfaint, cefais fy rhoi dan glo unwaith eto. Ar ôl gwneud hyn deirgwaith, dywedon nhw y byddwn i’n gallu gadael petawn i’n fodlon ysgrifennu’r canlynol: “Rwy’n gadael oherwydd y mae’n well gen i wasanaethu Satan yn hytrach na Duw.” Roeddwn i wedi dychryn drwof. Roeddwn yn wir eisiau gadael, ond doeddwn i ddim yn gallu ysgrifennu’r geiriau hynny. Yn y diwedd, llwyddais i siarad ag offeiriad ac adrodd yr hanes wrtho. Cafodd yntau ganiatâd oddi wrth yr esgob imi fynd yn ôl i’r cwfaint yn Zaragoza. Ar ôl ychydig o fisoedd yno, cefais ganiatâd i adael. Yn fuan wedyn, gwnaeth Lauri a Ramoni hefyd adael y cwfaint.

LLYFR A DDAETH RHYNGON NI

Felisa

Felisa: Mewn amser, priodais a mynd i fyw i Cantabria, sef ardal yn Sbaen. Roeddwn o hyd yn mynd i’r eglwys. Un dydd Sul yn yr eglwys, dyma’r offeiriad yn gweiddi’n gas, “Edrychwch ar y llyfr yma!” Dangosodd inni’r llyfr The Truth That Leads to Eternal Life. Dywedodd, “Os oes unrhyw un wedi rhoi copi ichi, rhowch y llyfr i mi neu taflwch ef!”

Doedd gen i ddim copi o’r llyfr, ond roeddwn eisiau un. Yna, rai dyddiau’n ddiweddarach, daeth dwy ddynes acw. Tystion Jehofa oedden nhw, a dyma nhw’n cynnig y llyfr hwnnw imi. Darllenais y llyfr y noson honno. Pan ddaeth y merched yn eu holau, gofynnon nhw imi astudio’r Beibl gyda nhw, a chytunais.

Y llyfr Truth

Roeddwn yn wastad eisiau plesio Duw. Pan ddysgais y gwirionedd am Jehofa, tyfodd cariad dwfn tuag ato yn fy nghalon. Roeddwn eisiau dweud wrth bawb amdano. Ym 1973, cefais fy medyddio. Bryd bynnag yr oeddwn yn gallu, roeddwn yn ceisio siarad â’m teulu am y gwir. Ond roedd fy nheulu, yn enwedig fy chwaer Araceli, yn mynnu bod yr hyn roeddwn yn ei gredu yn anghywir.

Araceli: Oherwydd imi gael fy nhrin mor wael yn y cwfaint, roedd fy nghrefydd yn gwneud imi deimlo’n drist a blin. Ond daliais ati i fynd i’r eglwys ar ddydd Sul, a dweud fy mhader bob dydd. Roeddwn i’n awyddus o hyd i ddeall y Beibl, a gofynnais i Dduw fy helpu. Yna soniodd Felisa wrthyf am yr hyn roedd hi wedi bod yn ei ddysgu. Roedd hi wedi cyffroi cymaint nes imi feddwl ei bod hi’n mynd o’i chof. Doeddwn i ddim yn cytuno â’i syniadau.

Araceli

Yn ddiweddarach, es yn ôl i Madrid i weithio ac yna priodais. Dros y blynyddoedd, sylwais nad oedd y bobl a oedd yn mynychu’r eglwys yn byw yn unol â dysgeidiaethau Iesu. Felly, fe wnes i stopio mynd i’r eglwys. Doeddwn i ddim bellach yn credu mewn “seintiau” nac uffern, nac yn y syniad fod offeiriaid yn gallu maddau pechodau. Fe wnes i hefyd gael gwared ar y delwau crefyddol roedd gen i. Doeddwn i ddim yn sicr a oeddwn yn gwneud y peth iawn neu beidio. Teimlais yn siomedig, ond daliais ati i weddïo ar Dduw: “Rydw i eisiau dod i’th adnabod. Helpa fi!” Cnociodd Tystion Jehofa lawer gwaith ar fy nrws, ond doeddwn i byth yn agor. Doeddwn i ddim yn ymddiried mewn unrhyw grefydd.

Roedd fy chwaer Lauri yn byw yn Ffrainc, ac roedd Ramoni yn byw yn Sbaen. Tua 1980, dechreuon nhw astudio’r Beibl gyda’r Tystion. Roeddwn i’n sicr, fel yn achos Felisa, nad oedden nhw’n sylweddoli eu bod nhw’n dysgu dim mwy na chelwyddau. Yn ddiweddarach, cwrddais ag Angelines, sef cymydog imi, a daethon ni’n ffrindiau agos. Roedd hithau hefyd yn un o Dystion Jehofa. Gofynnodd Angelines a’i gŵr lawer gwaith imi astudio’r Beibl gyda nhw. Er fy mod i’n dweud nad oedd gen i ddim amynedd o gwbl gyda chrefydd, sylweddolon nhw fy mod i wir eisiau dysgu am y Beibl. Yn y diwedd, dywedais: “Iawn, ond rwyf eisiau defnyddio fy Meibl fy hun!” Roedd gen i’r cyfieithiad Nácar-Colunga o’r Beibl.

Y BEIBL YN DOD Â NI AT EIN GILYDD O’R DIWEDD

Felisa: Pan gefais fy medyddio ym 1973, roedd tua 70 o Dystion yn Santander, sef prifddinas Cantabria. Roedd rhaid inni deithio’n bell i bregethu i’r holl bobl a oedd yn byw yn y cannoedd o bentrefi cefn gwlad. Felly, teithion ni ar y bws ac yna mewn car i fynd o bentref i bentref.

Dros y blynyddoedd, astudiais y Beibl gyda llawer o bobl, ac fe gafodd 11 ohonyn nhw eu bedyddio. Catholigion oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw. Roedd rhaid imi fod yn amyneddgar â nhw. Fel minnau, roedd angen amser arnyn nhw i sylweddoli bod yr hyn roedden nhw’n credu ynddo yn anghywir. Roeddwn yn gwybod mai dim ond y Beibl ac ysbryd glân Jehofa oedd yn gallu helpu rhywun i newid ei ffordd o feddwl a deall y gwirionedd. (Hebreaid 4:12) Cafodd fy ngŵr, Bienvenido, a oedd yn gyn-blismon, ei fedyddio ym 1979, a dechreuodd fy mam astudio’r Beibl ychydig cyn iddi farw.

Araceli: Pan ddechreuais astudio’r Beibl gyda’r Tystion, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n gallu ymddiried ynddyn nhw. Ond wrth i amser fynd heibio, doeddwn i ddim yn teimlo fel hynny rhagor. Roedd y Tystion yn dysgu eraill am gynnwys y Beibl a hefyd yn byw yn unol â’i ddysgeidiaethau. Cryfhaodd fy ffydd yn Jehofa ac yn y Beibl, a theimlais yn llawer hapusach. Roedd rhai o’m cymdogion wedi sylwi ar y newid hwn, a dywedon nhw, “Araceli, dal ati i gerdded ar y llwybr rwyt ti wedi ei ddewis!”

Rwy’n cofio gweddïo: “Diolch Jehofa am beidio â cholli amynedd gyda mi ac am roi’r cyfle imi ddod o hyd i’r hyn roeddwn i’n edrych amdano—y wybodaeth gywir am y Beibl.” Gofynnais hefyd i’m chwaer Felisa faddau imi am ddweud pethau cas wrthi. O hynny ymlaen, yn hytrach na ffraeo â’n gilydd, roedden ni’n mwynhau sgwrsio am y Beibl. Cefais fy medyddio ym 1989, pan oeddwn yn 61 mlwydd oed.

Felisa: Rwyf bellach yn 91 mlwydd oed. Mae fy ngŵr wedi marw, ac ni allaf wneud cymaint ag yr oeddwn. Ond, rwy’n dal yn darllen y Beibl bob dydd, ac rwy’n mynd i’r cyfarfodydd ac allan yn y weinidogaeth pan fedraf.

Araceli: Rwy’n hoff iawn o siarad am Jehofa â’r offeiriaid a’r lleianod rwy’n cwrdd yn y weinidogaeth, oherwydd dyna oeddwn i ar un adeg. Rwyf wedi cael sgyrsiau diddorol â rhai ohonyn nhw, ac mae llawer wedi cymryd llyfrau a chylchgronau. Rwy’n cofio un offeiriad yn enwedig. Ar ôl imi siarad ag ef ychydig o weithiau, cytunodd â’r hyn roeddwn yn ei ddweud. Yna dywedodd wrthyf i: “Ond i le gallaf fynd a minnau’n hen ddyn bellach? Beth fyddai’r plwyfolion a’r teulu yn ei ddweud?” Atebais: “Ond beth fyddai Duw yn ei ddweud?” Sylweddolodd fy mod i’n iawn, ac roeddwn yn gweld ei fod yn drist. Ond mae’n ymddangos nad oedd yn ddigon dewr i newid.

Ni wnaf byth anghofio pan ddywedodd fy ngŵr wrthyf ei fod eisiau dod i’r cyfarfod gyda mi. Roedd dros ei wyth deg pan ddaeth i’r cyfarfodydd am y tro cyntaf, ac ni wnaeth golli yr un cyfarfod wedi hynny. Astudiodd y Beibl a dechreuodd bregethu. Mae gen i lawer o atgofion melys ohonon ni’n gweithio gyda’n gilydd yn y weinidogaeth. Bu farw ddau fis cyn y diwrnod yr oedd am gael ei fedyddio.

Felisa: Pan ddechreuais wasanaethu Jehofa, roedd fy nhair chwaer iau yn fy erbyn. Ond, yn ddiweddarach, gwnaethon nhw hefyd dderbyn y gwirionedd. Roedd hynny’n un o’r pethau gorau a ddigwyddodd imi. Wedi hynny, roedden ni’n mwynhau treulio amser gyda’n gilydd yn siarad am ein Duw annwyl Jehofa, a’i Air y Beibl. O’r diwedd, roedden ni’n addoli Jehofa ar y cyd! *

^ Par. 29 Mae Araceli yn 87 mlwydd oed, Felisa yn 91, a Ramoni yn 83. Maen nhw i gyd yn gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon. Bu farw Lauri ym 1990, ac arhosodd hithau hefyd yn ffyddlon i Jehofa.