ATODIAD
Agwedd y Beibl Tuag at Ysgaru a Gwahanu
Mae Jehofa yn disgwyl i bobl briod gadw at eu haddunedau priodas. Wrth uno Adda ac Efa mewn priodas, dywedodd Jehofa: “Bydd dyn . . . yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd.” Yn nes ymlaen, fe wnaeth Iesu ailadrodd y geiriau hynny gan ychwanegu: “Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai neb ei wahanu.” (Genesis 2:24; Mathew 19:3-6) I Jehofa ac i Iesu, mae priodas yn ymrwymiad gydol oes sydd ond yn dod i ben pan fo un cymar yn marw. (1 Corinthiaid 7:39) Gan fod priodas yn gysegredig, nid ar chwarae bach y dylai Cristion ysgaru. Yn wir, mae Jehofa yn casáu ysgariad sydd heb sail Ysgrythurol.—Malachi 2:15, 16.
Beth yw’r sail Ysgrythurol dros ysgaru? Wel, mae Jehofa yn casáu godineb ac anfoesoldeb rhywiol. (Genesis 39:9; 2 Samuel 11:26, 27; Salm 51:4) Yn wir, oherwydd bod anfoesoldeb rhywiol mor ffiaidd i Dduw, mae’n caniatáu i bobl ysgaru ar y sail honno. (Am ddiffiniad manwl o anfoesoldeb rhywiol, gweler Pennod 9, paragraff 7.) Mae Jehofa yn caniatáu i’r cymar dieuog ddewis naill ai aros gyda’r un sydd wedi bod yn anffyddlon neu ysgaru. (Mathew 19:9) Felly, dydy cymar dieuog sy’n dewis ysgaru ddim yn gwneud rhywbeth y mae Jehofa yn ei gasáu. Wedi dweud hynny, nid yw’r gynulleidfa Gristnogol yn annog neb i ysgaru. Yn wir, gall rhai amgylchiadau achosi i’r cymar dieuog ddewis aros gyda’r un sydd wedi bod yn anffyddlon, yn enwedig petai ef neu hi yn wir edifeiriol. Ond, yn y pen draw, bydd rhaid i’r rhai sydd â rheswm Ysgrythurol dros ysgaru benderfynu drostyn nhw eu hunain a derbyn unrhyw ganlyniadau a all ddilyn.—Galatiaid 6:5.
Mewn rhai amgylchiadau hynod o anodd, mae rhai Cristnogion wedi penderfynu gwahanu neu ysgaru, er nad yw eu partneriaid wedi ymddwyn yn rhywiol anfoesol. Mewn achosion fel hyn, mae’r Beibl yn dweud y dylai’r un sy’n gadael “aros yn ddibriod, neu gymodi.” (1 Corinthiaid 7:11) Ni fydd y Cristion yn rhydd i ganlyn rhywun arall gyda’r bwriad o ailbriodi. (Mathew 5:32) Gad inni ystyried rhai o’r amgylchiadau eithriadol y mae rhai Cristnogion wedi eu cymryd fel rhesymau dilys dros wahanu.
Gwrthod cynnal y teulu. Petai gŵr yn dewis peidio â chynnal ei deulu, mae’n bosibl y bydd y teulu’n mynd heb anghenion sylfaenol bywyd. Dywed y Beibl, “Pwy bynnag nad yw’n darparu ar gyfer . . . ei deulu ei hun, y mae wedi gwadu’r ffydd ac y mae’n waeth nag anghredadun.” (1 Timotheus ) Os na fydd y gŵr yn newid, bydd rhaid i’r wraig benderfynu a oes angen ymwahaniad cyfreithiol er ei lles ei hun ac er lles ei phlant. Wrth gwrs, petai Cristion yn cael ei gyhuddo o wrthod cynnal ei deulu, dylai’r henuriaid ystyried y sefyllfa yn ofalus iawn. Gall rhywun sy’n gwrthod cynnal ei deulu gael ei ddiarddel. 5:8
Camdriniaeth gorfforol ddifrifol. Gall un partner ymddwyn mor dreisgar nes bod iechyd, neu hyd yn oed bywyd ei gymar mewn perygl. Os yw’r un sy’n cam-drin ei gymar yn Gristion, dylai henuriaid y gynulleidfa ymchwilio i’r cyhuddiadau. Gall rhywun sy’n gwylltio ac sy’n ymddwyn yn dreisgar gael ei ddiarddel.—Galatiaid 5:19-21.
Peryglu bywyd ysbrydol. Efallai y ceir sefyllfaoedd lle mae un cymar yn wastad yn ceisio rhwystro’r llall rhag addoli Jehofa neu’n ceisio gwneud i’w bartner dorri gorchmynion Duw mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Mewn achos o’r fath, byddai angen i’r un mewn perygl benderfynu ai gwahanu yn gyfreithiol yw’r unig ffordd o “ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.”—Actau 5:29.
Ym mhob sefyllfa eithafol fel y rhai rydyn ni newydd eu trafod, ni ddylai neb roi pwysau ar y cymar dieuog naill ai i wahanu neu i aros yn y briodas. Er gall yr henuriaid a ffrindiau sy’n aeddfed yn ysbrydol gynnig cefnogaeth a chyngor o’r Beibl, ni allan nhw wybod pob peth sy’n digwydd rhwng gŵr a gwraig. Dim ond Jehofa a all weld hynny. Wrth gwrs, ni fyddai Cristnogion sy’n anrhydeddu Jehofa ac yn parchu priodas yn gorliwio eu problemau fel esgus i fyw ar wahân i’w gilydd. Mae Jehofa yn gweld unrhyw gynllwynio, ni waeth faint y mae rhywun yn ceisio ei guddio. Yn wir, “mae pob peth yn agored ac wedi ei ddinoethi o flaen llygaid yr Un yr ydym ni i roi cyfrif iddo.” (Hebreaid 4:13) Ond os yw sefyllfa beryglus yn parhau, ni ddylai neb feirniadu’r Cristion sydd, yn niffyg dim arall, yn penderfynu gwahanu. Yn y pen draw, “bydd rhaid i bob un ohonom roi cyfrif amdanom ni’n hunain i Dduw.”—Rhufeiniaid 14:10-12.