GWERS 14
Pam Mae gan Dduw Gyfundrefn?
1. Pam gwnaeth Duw drefnu Israel gynt yn genedl?
Fe wnaeth Duw drefnu disgynyddion Abraham yn un genedl, gan roi cyfraith arbennig iddyn nhw. Galwodd Jehofah y genedl yn “Israel” ac ymddiried ei air a gwir addoliad iddi. (Salm 147:19, 20) Trwy Israel, fe fyddai pob cenedl yn cael ei bendithio.—Darllenwch Genesis 22:18.
Dewisodd Duw’r Israeliaid i fod yn dystion iddo. Mae eu hanes gynt yn dangos sut mae cenedl yn ffynnu drwy ufuddhau i orchmynion Duw. (Deuteronomium 4:6) Felly, trwy’r Israeliaid roedd yn bosibl i bobl eraill ddod i adnabod y gwir Dduw.—Darllenwch Eseia 43:10, 12.
2. Pam mae gwir Gristnogion yn rhan o gyfundrefn?
Ymhen amser, collodd Israel ffafr Duw a dewisodd Jehofah y gynulleidfa Gristnogol i gymryd ei lle. (Mathew 21:43; 23:37, 38) Heddiw, yn lle’r Israeliaid, gwir Gristnogion sy’n dystion i Jehofah.—Darllenwch Actau 15:14, 17.
Rhoddodd Iesu drefn ar y gwaith o bregethu a gwneud disgyblion. (Mathew 10:7, 11; 24:14; 28:19, 20) Mae’r gwaith hwnnw yn ei anterth heddiw yn ystod dyddiau diwethaf y drefn bresennol. Am y tro cyntaf erioed, mae Jehofah wedi uno miliynau o bobl o bob cenedl i’w addoli. (Datguddiad 7:9, 10) Mae gwir Gristnogion yn perthyn i grŵp unedig sy’n calonogi ac yn helpu ei gilydd. Le bynnag y maen nhw’n byw yn y byd, maen nhw’n dilyn yr un rhaglen o astudio’r Beibl yn eu cyfarfodydd.—Darllenwch Hebreaid 10:24, 25.
3. Sut dechreuodd Tystion Jehofah yn yr oes fodern?
Yn y 1870au, fe wnaeth grŵp bach o fyfyrwyr y Beibl ddechrau ailddarganfod gwirioneddau a oedd wedi bod yn guddiedig ers amser maith. Roedden nhw’n gwybod bod Iesu wedi trefnu’r gynulleidfa Gristnogol ar gyfer y gwaith o bregethu, felly dechreuon nhw ymgyrch ryngwladol i bregethu am y Deyrnas. Ym 1931, fe wnaethon nhw fabwysiadu’r enw Tystion Jehofah.—Darllenwch Actau 1:8; 2:1, 4; 5:42.
4. Sut mae gwaith pregethu Tystion Jehofah yn cael ei drefnu?
Yn y ganrif gyntaf, roedd corff llywodraethol canolog yn cyfarwyddo gwaith y cynulleidfaoedd Cristnogol mewn nifer o wledydd. Roedd y corff hwnnw’n derbyn mai Iesu oedd yn Ben ar y gynulleidfa. (Actau 16:4, 5) Yn yr un modd, mae gwaith Tystion Jehofah heddiw yn cael ei gyfarwyddo gan Gorff Llywodraethol o henuriaid profiadol. Mae’r Corff hwn yn goruchwylio swyddfeydd cangen Tystion Jehofah yn y gwaith o gyfieithu, argraffu, a dosbarthu deunydd ar gyfer astudio’r Beibl a hynny mewn mwy na 600 o ieithoedd. Fel hyn, mae’r Corff Llywodraethol yn gallu rhoi cyfarwyddyd a chalondid Ysgrythurol i fwy na 100,000 o gynulleidfaoedd trwy’r byd. Ym mhob cynulleidfa, mae dynion cymwys yn gwasanaethu fel henuriaid, neu oruchwylwyr. Maen nhw’n bugeilio praidd Duw mewn ffordd garedig.—Darllenwch 1 Pedr 5:2, 3.
Mae Tystion Jehofah wedi eu trefnu i bregethu’r newyddion da ac i wneud disgyblion. Fel yr apostolion, rydyn ni’n pregethu o dŷ i dŷ. (Actau 20:20, Y Beibl Cysegr-lân) Hefyd, rydyn ni’n cynnig astudio’r Beibl gyda phobl sy’n caru gwirioneddau’r Beibl. Ond mae Tystion Jehofah yn fwy na chyfundrefn. Rydyn ni’n deulu gyda Thad cariadus, a brodyr a chwiorydd sy’n gofalu am ei gilydd. (2 Thesaloniaid 1:3) Mae pobl Jehofah yn perthyn i gyfundrefn sy’n bodoli er mwyn plesio Duw a helpu eraill.—Darllenwch Salm 33:12; Actau 20:35.