Neidio i'r cynnwys

TACHWEDD 4, 2021
YR YNYS LAS

Rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Esgimöeg yr Ynys Las

Rhyddhau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Esgimöeg yr Ynys Las

Gwnaeth y Brawd Peter Gewitz, aelod o Bwyllgor Cangen Sgandinafia, ryddhau Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Esgimöeg yr Ynys Las ar Hydref 30, 2021. Rhyddhawyd y Beibl yn ystod rhaglen rithiol arbennig a gafodd ei darlledu dros JW Stream i 413 o wylwyr, gan gynnwys 164 ar yr Ynys Las ei hun. Cafodd y Beibl ei lansio mewn fformat digidol. Bydd copïau printiedig ar gael yn y dyfodol.

Mae’r Tŵr Gwylio wedi cael ei gyfieithu i Esgimöeg yr Ynys Las ers 1973. Mae tua 57,000 yn siarad yr iaith, sy’n perthyn i deulu ieithoedd Inwit sy’n cael eu siarad ar draws yr Arctig. Mae lansiad y Beibl hwn yn fendith fawr i’r 134 o gyhoeddwyr sy’n gwasanaethu ym maes Esgimöeg yr Ynys Las.

Yn gyffredinol mae gan frodorion yr Ynys Las barch mawr tuag at y Beibl. Ym 1766, mab i genhadwr o Norwy oedd y cyntaf i gyfieithu’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol i Esgimöeg yr Ynys Las. Ym 1822, cyfieithodd cenhadwr o Ddenmarc lyfr Genesis a oedd yn cynnwys enw Duw, Jehofa, yn y prif destun. Doedd hi ddim tan 1900 y cafodd holl lyfrau’r Beibl eu cyfieithu i’r iaith, ac roedd rhaid aros tan y flwyddyn 2000 i gael y Beibl cyfan mewn un gyfrol.

Yn ystod y lansiad, dywedodd y Brawd Gewitz, “Pan fyddwch yn darllen y cyfieithiad, gallwch chi ei ddarllen â hyder, gan wybod ei fod yn gyfieithiad cywir o Air Ysbrydoledig Duw i Esgimöeg cyfoes.” Mae disgrifiadau emosiynau dynol yn nes ati yn y cyfieithiad hwn. Er enghraifft, mae Ioan 11:38 yn cyfeirio at deimladau dwys Iesu pan oedd wrth ymyl beddrod Lasarus. Mae rhai Beiblau Esgimöeg yn dweud bod Iesu “wedi digio” neu “wedi cael ei bechu” yn ystod y profiad emosiynol hwnnw. Mae Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn mynegi’n gywirach fod Iesu “wedi rhoi ochenaid ddofn.”

Rydyn ni’n hyderus y bydd y cyfieithiad clir a chywir hwn yn helpu darllenwyr Esgimöeg yr Ynys Las i ddeall cyngor y Beibl yn well.—Mathew 13:51.